Ffydd v Prawf

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ffydd v Prawf

Postiogan ceribethlem » Gwe 15 Chw 2008 9:32 pm

Mae llawer o ddadleuon ar y seiat ffydd a chrefydd yn aml yn cylchdroi o gwmpas gwyddoniaeth, a'r ffaith nad oes prawf gwyddonol yn bodoli am Dduw na'i effaith (er fydd rooney yn dweud fod yna brawf!). Y peth fi 'di bod yn meddwl am yn ddiweddar yw ffydd. Mae angen i ffydd i ddilyn crefydd (nid Cristnogaeth yn unig, ond pob un o'r prif grefyddau). Pe bai yna brawf, ni fyddai angen ffydd, onid yw hyn yn defeats the object ys dywed y Sais? Nage fe ffydd yw'r peth pwysicaf?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Ffydd v Prawf

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 15 Chw 2008 10:06 pm

Fel anghrediniwr, yr angen yma am ffydd ydi un o'r pethau mwyaf anealladwy am grefydd (Cristnogaeth yn arbennig, dwi'm yn gwybod digon am y lleill).

Os oes Duw holl-bwerus, holl-alluog yn bodoli sydd eisiau i ni gredu yno, ufuddhau iddo a'i ddilyn yna onid ydi hi braidd yn od nad ydi o'n gallu dangos i ni tu hwnt ei amheuaeth ei fod yn bodoli. Toes dim synnwyr yn y peth.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Ffydd v Prawf

Postiogan ceribethlem » Gwe 15 Chw 2008 10:27 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:Fel anghrediniwr, yr angen yma am ffydd ydi un o'r pethau mwyaf anealladwy am grefydd (Cristnogaeth yn arbennig, dwi'm yn gwybod digon am y lleill).
Ond mae gen ti ffydd mewn rhai pethau, megis dy perthynas gyda dy gariad, a'th gariad at dy wlad.

Mr Gasyth a ddywedodd:Os oes Duw holl-bwerus, holl-alluog yn bodoli sydd eisiau i ni gredu yno, ufuddhau iddo a'i ddilyn yna onid ydi hi braidd yn od nad ydi o'n gallu dangos i ni tu hwnt ei amheuaeth ei fod yn bodoli. Toes dim synnwyr yn y peth.
Onid dyna'r pwynt? Mae'r ffydd yn golygu dy fod yn cael dy wobrwyo? Onid mater o trust yw'r peth? Oes wyt ti'n ei dderbyn ar ffydd fe gei di dy wobrwyo yn y pen draw.
Mae'n rhywbeth sydd gen i ddiddordeb mawr yno gan nad wyf (yn wahanol i farn rai megis rooney a HRF) yn anghrediniwr, ond does dim ffydd cryf gen i.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Ffydd v Prawf

Postiogan Mr Gasyth » Sad 16 Chw 2008 11:41 am

ceribethlem a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:Fel anghrediniwr, yr angen yma am ffydd ydi un o'r pethau mwyaf anealladwy am grefydd (Cristnogaeth yn arbennig, dwi'm yn gwybod digon am y lleill).
Ond mae gen ti ffydd mewn rhai pethau, megis dy perthynas gyda dy gariad, a'th gariad at dy wlad.


Ond mae fy nghariad yn bodoli, dwi'n gallu ei gweld a'i chyffwrdd a mae'n siarad efo fi. Mae'n fod diriaethol. Tydi Duw heb roi unrhyw arwydd i mi ei fod yn bodoli - felly pa reswm call sydd yna dros rhoi ffydd ynddo?

ceribethlehem a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:Os oes Duw holl-bwerus, holl-alluog yn bodoli sydd eisiau i ni gredu yno, ufuddhau iddo a'i ddilyn yna onid ydi hi braidd yn od nad ydi o'n gallu dangos i ni tu hwnt ei amheuaeth ei fod yn bodoli. Toes dim synnwyr yn y peth.
Onid dyna'r pwynt? Mae'r ffydd yn golygu dy fod yn cael dy wobrwyo? Onid mater o trust yw'r peth? Oes wyt ti'n ei dderbyn ar ffydd fe gei di dy wobrwyo yn y pen draw.


Pam seilio'r holl beth ar ffydd? Os yw Duw'n bodoli, yn holl-alluog a holl-bwerus does dim rheswm pam ddylid bod angen ffydd i gredu ynddo. Byddai Duw o'r fath yn gallu gwneud ei fodolaeth yn amlwg tu hwnt i bob amheuaeth. Rhywbeth wedi ei greu gan y credinwyr i egluro'r ffaith nad yw Duw'n amlwg i bawb ydi'r angen am ffydd. Petai Duw'n bodoli fyddai dim angen ffydd ynddo, mwy nag ydw i angen ffydd ym modolaeth fy nghariad (mae ffydd yn y ffaith ei bod yn fy ngharu yn beth gwahanol, ond mae gwybod ei bod yn bodoli yn y lle cynta yn gychwyn da!).
Golygwyd diwethaf gan Mr Gasyth ar Sad 16 Chw 2008 12:52 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Ffydd v Prawf

Postiogan ceribethlem » Sad 16 Chw 2008 12:22 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:Duw'n bodoli, yn holl-alluog a holl-bwerus does dim rheswm pam ddylid bod angen ffydd i gredu ynddo. Byddai Duw o'r fath yn gallu gwneud ei fodolaeth yn amlwg tu hwnt i bob amheuaeth. Rhywbeth wedi ei greu gan y credinwyr i egluro'r ffaith nad yw Duw'n amlwg i bawb ydi'r angen am ffydd. Petai Duw'n bodoli fyddai dim angen ffydd ynddo, mwy nag ydw i angen ffydd ym modolaeth fy nghariad (mae ffydd yn y ffaith ei bod yn fy ngharu yn beth gwahanol, ond mae gwybod ei bod yn bodoli yn y lle cynta yn gychwyn da!).
Hwn yw crux yr holl beth ondife. Dyma beth dwi am wybod, pa mor bwysig yw'r ffydd yma? A pham ei fod mor bwysig? Mae rhai yn dweud mai ffydd dall yw hi, eraill yn dweud fod Duw wedi dangos ei hunan iddyn nhw. Pam felly dewis dangos ei hun i rai er mwyn sicrhau eu ffydd, ac nid eraill.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Ffydd v Prawf

Postiogan Cardi Bach » Sad 16 Chw 2008 12:48 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:Fel anghrediniwr, yr angen yma am ffydd ydi un o'r pethau mwyaf anealladwy am grefydd (Cristnogaeth yn Byddai Duw o'r fath yn gallu gwneud ei fodolaeth yn amlwg tu hwnt i bob amheuaeth. Rhywbeth wedi ei greu gan y credinwyr i egluro'r ffaith nad yw Duw'n amlwg i bawb ydi'r angen am ffydd. Petai Duw'n bodoli fyddai dim angen ffydd ynddo, mwy nag ydw i angen ffydd ym modolaeth fy nghariad (mae ffydd yn y ffaith ei bod yn fy ngharu yn beth gwahanol, ond mae gwybod ei bod yn bodoli yn y lle cynta yn gychwyn da!).


Ond mae Duw wedi ein creu no yn fodau a'n meddyliau ein hunain. Petai Duw wedi dewis ein creu mewn byd perffaith yna bydden ni'n ddim mwy na robotiaid.

Ar y mater o Dduw diriaethol, mae wedi bod, yng nghorff Iesu Grist tua dwy fil o flynyddoedd yn ol, ac mae peth wmbreth o dystiolaeth fod Iesu wedi cerdded y ddaear ac wedi atgyfodi. Ymhen dwy fil o flynyddoedd pa dystiolaeth fydd yno fod yna gariad wedi bodoli rhyngddot ti a'th hanner arall? Nid peth diriaethol yw cariad, mae'n amhosib cyffwrdd cariad. Siwd allu di brofi i ni dy fod ti'n caru dy bartner? Beth y bynnag y gwneu di, alla i wadu hyd ddydd y farn nad yw hwnna'n brawf i fi o'th gariad.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Ffydd v Prawf

Postiogan Mr Gasyth » Sad 16 Chw 2008 1:00 pm

Cardi Bach a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:Fel anghrediniwr, yr angen yma am ffydd ydi un o'r pethau mwyaf anealladwy am grefydd (Cristnogaeth yn Byddai Duw o'r fath yn gallu gwneud ei fodolaeth yn amlwg tu hwnt i bob amheuaeth. Rhywbeth wedi ei greu gan y credinwyr i egluro'r ffaith nad yw Duw'n amlwg i bawb ydi'r angen am ffydd. Petai Duw'n bodoli fyddai dim angen ffydd ynddo, mwy nag ydw i angen ffydd ym modolaeth fy nghariad (mae ffydd yn y ffaith ei bod yn fy ngharu yn beth gwahanol, ond mae gwybod ei bod yn bodoli yn y lle cynta yn gychwyn da!).


Ond mae Duw wedi ein creu no yn fodau a'n meddyliau ein hunain. Petai Duw wedi dewis ein creu mewn byd perffaith yna bydden ni'n ddim mwy na robotiaid.


Tydw i ddim yn deall y pwynt yma o gwbl. Wyt ti'n deud fod Duw wedi ein creu i bedio credu er mwyn iddo ein cosbi yn oes oesoedd am y peth? Duw cyfiawnder? Duw caraiad?

cardi bach a ddywedodd:Ar y mater o Dduw diriaethol, mae wedi bod, yng nghorff Iesu Grist tua dwy fil o flynyddoedd yn ol, ac mae peth wmbreth o dystiolaeth fod Iesu wedi cerdded y ddaear ac wedi atgyfodi.


Tydw i didm yn amau fod Iesu wedi bod, mwy nag ydw i'n amau fod rhyw fath o Frenin Arthur wedi bod. Y chwedlau o'u cwmpas sy'n fater o ffydd ynte.

cardi bach a ddywedodd: Ymhen dwy fil o flynyddoedd pa dystiolaeth fydd yno fod yna gariad wedi bodoli rhyngddot ti a'th hanner arall? Nid peth diriaethol yw cariad, mae'n amhosib cyffwrdd cariad. Siwd allu di brofi i ni dy fod ti'n caru dy bartner? Beth y bynnag y gwneu di, alla i wadu hyd ddydd y farn nad yw hwnna'n brawf i fi o'th gariad.


Dim o gwbl. Does dim 'prawf' o'r cariad hwnnw'n bodoli rwan, heb son am mewn dwy fil o flynyddoedd. Ond mae gen i brawf ei bod hi'n bodoli - dwi'n gallu ei gweld a'i chyffwrdd a'i chlywed - a mae'r hyn mae'n ddweud a'i wneud yn awgrymu ei bod yn fy ngharau ddigon i mi fod a fydd fod hynny'n wir.

Toes gen i ddim o' tamaid lleiaf o dystiolaeth i awgrymu fod Duw yn bodoli hyd yn oed, felly ba sens bod a ffydd hyn hynny? Fel mae rhai wedi awgrymu o'r blaen, mae fel bod a ffydd fod yn debot piws yn cylchu'r haul rhwng y planedau Mawrth a Iau.
Golygwyd diwethaf gan Mr Gasyth ar Sad 16 Chw 2008 4:45 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Ffydd v Prawf

Postiogan Senghennydd » Sad 16 Chw 2008 1:52 pm

Mae hanes crefyddau'r byd yn brawf bod pobl wedi ceisio gwneud synnwyr o'r byd o'u cwmpas, meddwl am sut i fyw, meddwl am foesau, diddanu a dychryn.
Mae 'ffydd' yn rhan/sgil effaith o fod yn 'conscious'?
Genir pobl gyda lefelau gwahanol o hygoeledd, angen i gredu, tueddiad at 'ffydd'. The God Gene, neu'r gennyn crefyddol fel petai. :winc:
Wedi hynny, yn dibynnu lle, pryd a sut mae'n nhw'n cael eu magu mae'r tueddiad yma yn cael ei fynegi yn y lliwiau lleol? Cristnogion o ryw frid yng Nghymru, mwslemiaid o ryw fath yn afganistan etc

o.n. Does dim angen 'ffydd' i ddilyn crefydd o gwbl. Byddai croeso mawr i unrhyw ddod i'r capel ar y sul i wrando dwi'n siwr... ac eistedd yno heb gredu'r un gair! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Senghennydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Gwe 25 Tach 2005 9:57 am

Re: Ffydd v Prawf

Postiogan Positif80 » Sad 16 Chw 2008 3:55 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:
Ond mae fy nghariad yn bodoli, dwi'n gallu ei gweld a'i chyffwrdd a mae'n siarad efo fi. Mae'n fod diriaethol. Tydi Duw heb roi unrhyw arwydd i mi ei fod yn bodoli - felly pa reswm call sydd yna dros rhoi ffydd ynddo?


Basdad lwcus :winc: :!:
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Re: Ffydd v Prawf

Postiogan 7ennyn » Sad 16 Chw 2008 8:18 pm

Mae amheuaeth yn ran annatod o 'worldview' (sori, un o hoff eiriau Rooney!) sydd yn seiliedig ar brawf. Mae gwyddoniaeth fodern yn seiliedig ar brawf, felly mae'n amhosib i wyddonydd 'go iawn' fod 100% sicr o unrhywbeth. Ond ar y llaw arall, mae 'worldview' sydd yn seiliedig ar ffydd yn gwbl rydd o amheuaeth - os nad wyt ti 100% sicr, yna does gen ti ddim ffydd.
ceribethlem a ddywedodd:... does dim ffydd cryf gen i.

Naill ai mae gen ti ffydd neu does gen ti ddim - fedri di ddim eistedd ar y ffens ar hyn.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Nesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron