Ffydd v Prawf

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Ffydd v Prawf

Postiogan rooney » Sul 17 Chw 2008 9:59 pm

Senghennydd a ddywedodd:Genir pobl gyda lefelau gwahanol o hygoeledd, angen i gredu, tueddiad at 'ffydd'. The God Gene, neu'r gennyn crefyddol fel petai. :winc:


dim prawf fod y fath beth yn bodoli
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Ffydd v Prawf

Postiogan Mr Gasyth » Sul 17 Chw 2008 10:25 pm

rooney a ddywedodd:
Senghennydd a ddywedodd:Genir pobl gyda lefelau gwahanol o hygoeledd, angen i gredu, tueddiad at 'ffydd'. The God Gene, neu'r gennyn crefyddol fel petai. :winc:


dim prawf fod y fath beth yn bodoli


yn wahanol i Dduw ia? :rolio:

yn sicir byddai bodolaeth tueddiad etifeddol o'r fath yn egluro pam fod Duw i weld yn canolbwyntio ar rai teuluoedd a nid eraill.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Ffydd v Prawf

Postiogan Ap Corwynt » Llun 18 Chw 2008 12:12 am

Dwi'n tybio na fydd gosod ffydd a phrawf yn erbyn eu gilydd fel dwy haniaeth gyferbyniol, dau bwynt gwrthwyneb y cwmpawd, yn cynnig unrhyw oleuni ar y mater. dwi'n meddwl fod tuedd ein cymdeithas ni i osod 'prawf gwyddonol' ar bob dim, er mor apelgar, yn duedd sy'n rhwystro unrhyw ddadlau athronyddol ynghlyn ac ystyr bywyd yn gyffredinol. hynny yw, mae yna ryw elfen o ffydd a phrawf ym mhob peth y gwnawn ni. pe bawn i i droedio'r ddaear hon gan ymbalfalu'n anhyderus yn fy mlaen, heb gymryd yr un cam yn ganiataol, gan ddefnyddio'n nhroed i brofi'r ddaear cyn i mi sefyll arni. mi faswn i'n fuan iawn yn denu sawl edrychiad digon rhyfedd mae'n siwr. dwi'n ymwybodol fod hwn yn ddarlun llafurus iawn, ond dwi'n hyderu fod y pwynt wedi ei wneud- mae rhyw elfen o ffydd mewn pethau annelwig ac anweledig ym mhob peth a wnawn ni, boed hynny'n berthynas gyda chymar neu'n berthynas ac unrhyw honiad o wirionedd uwch ( boed hynny gan wyddonydd neu archesgob).
yn bersonol, faswn i'n symud y ddadl mlaen o'r 'ffydd vs prawf'- dwi'n credu na fedra i, er mor galed dwi'n trio, brofi bodolaeth Duw trwy ddadl gref neu gyfres o brofion. yn fwy diddorol fyth, welai ddim unrhyw ymdrech yn y beibl i brofi bodolaeth Duw trwy ddulliau gwyddonol neu gynnig cyfres o brofion llafurus dros ei fodolaeth e.
dwi'n ei chael hi'n annodd credu fod dadlau dros y creu neu bresenoldeb drygioni yn y byd yn mynd i oleuo dim ar y mater- wedi'r cyfan, mae'r rhain yn gwestiynnau athronyddol sy' wedi poeni pobl byth ers cychwyn y byd, os ydyn nhw'n dilyn crefydd ai peidio.
Ma' na gyment o gyfoeth yn y cwestiwn yma dwn i'm lle i ddechre! ond nai jest nodi dau beth yn gyflym iawn.
Onid dyna'r pwynt? Mae'r ffydd yn golygu dy fod yn cael dy wobrwyo? Onid mater o trust yw'r peth? Oes wyt ti'n ei dderbyn ar ffydd fe gei di dy wobrwyo yn y pen draw.
Mae'n rhywbeth sydd gen i ddiddordeb mawr yno gan nad wyf (yn wahanol i farn rai megis rooney a HRF) yn anghrediniwr, ond does dim ffydd cryf gen i.
]
Mae gennym ni duedd gref fel cymdeithas i ddiffinio 'ffydd' grefyddol fel rhyw ddallineb i wirionedd yn erbyn pob amgylchiad arall- bron fel rhyw fath o salwch meddwl sydd yn y genes rhywle. ac i lawer o bobl, dwi'n siwr fod ffydd yn cael ei ddehongli yng nghyd-destun slogan y diwygiad protestanaidd, sef 'cyfiawnhad drwy ffydd', sy'n medru swndo fel rhyw fath o wobr am ffydd mewn rhywbeth annelwig, a'r mwyaf o ffydd sydd gen ti, wel, gret.
yn ffodus ddigon i minne, a phob un ohonnom ni, nid yn swm ein ffydd ni mae'n gobaith ni, ac nid yn ol maint ein ffydd ni y dawn ni i berthynas gyda Duw. yn hytrach ma' hynny'n dod trwy ein ffydd ni mewn person, unigolyn, a'r digwyddiadau o gwmpas ei fywyd e. honiad canolog yr efengylau yw fod yr hyn a ddywedir am Iesu Grist ynddyn nhw yn 'newyddion da'- dyna yw ystyr y gair 'efengyl'. a'r newyddion da hynny yw fod Duw wedi caru'r byd gyment, fel iddo roi ei unig anedig Fab, er mwyn i bob un sy'n credu ynddo Fe beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.
felly y newyddion da yw fod Duw yn ei holl weithredoedd e gyda bwriadau da tuag at ei greadigaeth: a chariad yn motive canolog yn ei holl ymdrin E a ni. mae'n rhoi ei Fab, y peth pwysica' oll iddo fe, i gymryd ein cosb oeddem ni'n ei haeddu fel gwrthwynebwyr i Dduw. fel nad oes rhaid i ni 'fynd i ddistryw'- ystyr hynny yw cael ein gwahannu oddi wrth fwriadau da Duw tuag atom ni trwy ein dewis ymwybodol ni yn unig. a'r bywyd tragwyddol ry'm ni'n cael yn rhodd- ac nid rhyw dragwyddoldeb 'boring' o lawenydd niwlog a phell yw hwn ond cynnig bywyd yn ei gyflawnder heddiw yma.

Felly yn y bon nid 'prawf' neu 'ffydd' yw conglfeini y ddadl dros neu yn erbyn Duw- fel mae'r rhan fach 'ma o'r beibl yn ddweud, cynnig gwirionedd i'w gredu mae e- 'does dim amheuaeth i awduron y beibl nad yw'r digwyddiadau sy'n cael ei cofnodi ganddyn' nhw'n wir. dyw e ddim yn gofyn i chi wneud unrhyw beth er mwyn bodloni Duw yn fwy nac yw e'n fodlon ynoch chi eisioes: mae e'n honni fod ganddo fe adnabyddiaeth well ohonoch chi na chi'ch hunan. Felly, i gloi, 'dyw dilyn crist ddim yn dibynnu ar unrhyw 'ffydd' neu 'brawf'- mae pob peth yn cwmpo neu ddisgyn ar honiadau'r unigolyn hwnnw amdano fe ei hunan.
Post tenebras lux
Ap Corwynt
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 14
Ymunwyd: Mer 26 Rhag 2007 1:00 am

Re: Ffydd v Prawf

Postiogan Chwadan » Llun 18 Chw 2008 1:29 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:Fel anghrediniwr, yr angen yma am ffydd ydi un o'r pethau mwyaf anealladwy am grefydd (Cristnogaeth yn arbennig, dwi'm yn gwybod digon am y lleill).

Fel anghrediniwr, alli di ddim gweld dy fod tithau angen ffydd gymaint â'r Cristion? Dydi Duw heb brofi i ti ei fod o ddim yn bodoli chwaith - ti angen ffydd sydd yr un mor gadarn ag un y Cristion er mwyn gallu credu nad oes Duw. Onid wyt ti'n rhagrithio drwy fod yn ffyddiog nad ydi Duw yn bodoli tra'n cyhuddo'r Cristion o goelio mewn rhywbeth nad oes prawf o'i fodolaeth? :winc:

Agnostig ydi'r unig safbwynt sydd ddim yn galw am ffydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Re: Ffydd v Prawf

Postiogan murray hewitt » Llun 18 Chw 2008 6:11 pm

Chwadan a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:Fel anghrediniwr, yr angen yma am ffydd ydi un o'r pethau mwyaf anealladwy am grefydd (Cristnogaeth yn arbennig, dwi'm yn gwybod digon am y lleill).

Fel anghrediniwr, alli di ddim gweld dy fod tithau angen ffydd gymaint â'r Cristion? Dydi Duw heb brofi i ti ei fod o ddim yn bodoli chwaith - ti angen ffydd sydd yr un mor gadarn ag un y Cristion er mwyn gallu credu nad oes Duw. Onid wyt ti'n rhagrithio drwy fod yn ffyddiog nad ydi Duw yn bodoli tra'n cyhuddo'r Cristion o goelio mewn rhywbeth nad oes prawf o'i fodolaeth? :winc:

Agnostig ydi'r unig safbwynt sydd ddim yn galw am ffydd.


Gwir, agnostig ydi'r default position ond dwyt tim yn meddwl bod angan llawer mwy o ffydd i gredu mewn Duw nag i beidio credu mewn Duw. Ti di clwad am y celestial teapot? analogy gan Bertrand Russell, dyma fo os ti heb.

If I were to suggest that between the Earth and Mars there is a china teapot revolving about the sun in an elliptical orbit, nobody would be able to disprove my assertion provided I were careful to add that the teapot is too small to be revealed even by our most powerful telescopes. But if I were to go on to say that, since my assertion cannot be disproved, it is an intolerable presumption on the part of human reason to doubt it, I should rightly be thought to be talking nonsense. If, however, the existence of such a teapot were affirmed in ancient books, taught as the sacred truth every Sunday, and instilled into the minds of children at school, hesitation to believe in its existence would become a mark of eccentricity and entitle the doubter to the attentions of the psychiatrist in an enlightened age or of the Inquisitor in an earlier time.
murray hewitt
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 50
Ymunwyd: Sad 09 Chw 2008 11:12 pm

Re: Ffydd v Prawf

Postiogan rooney » Llun 18 Chw 2008 6:50 pm

murray hewitt a ddywedodd:
If I were to suggest that between the Earth and Mars there is a china teapot revolving about the sun in an elliptical orbit, nobody would be able to disprove my assertion provided I were careful to add that the teapot is too small to be revealed even by our most powerful telescopes. But if I were to go on to say that, since my assertion cannot be disproved, it is an intolerable presumption on the part of human reason to doubt it, I should rightly be thought to be talking nonsense. If, however, the existence of such a teapot were affirmed in ancient books, taught as the sacred truth every Sunday, and instilled into the minds of children at school, hesitation to believe in its existence would become a mark of eccentricity and entitle the doubter to the attentions of the psychiatrist in an enlightened age or of the Inquisitor in an earlier time.


analogy di-werth
does neb yn honni fod y celestial teapot yn bodoli nac wedi creu'r bydysawd
does neb yn cynnig fod angen dysgu'r fath beth i blant
mae'r analogy yma'n chwarae lawr y cwestiwn os yw Duw yn bodoli. Mae bodolaeth Duw yn gwestiwn anferthol. Dyma pam nad yw anffyddwyr yn treulio eu amser yn gwadu bodolaeth pethau fel celestial teapot ond yn gwadu Duw.

Mae biliynau o bobl yn credu mewn Duw/duwiau- rhaid i ti ofyn y cwestiwn pam fod biliynau yn credu mewn Duw a ddim mewn celestial teapot, yw'r biliynau o bobl yma mewn difri fwy thic, deluded neu superstitious na'r anffyddwyr?

mae pobl yn honni fod Duw wedi creu y bydysawd, a ddim yn rywbeth bach i'w ddarganfod oddi fewn i'w greadigaeth, fell mae'r analogy teapot yn ddi-werth

ymddengys fod anffyddwyr yn gorfod cysuro eu hunain gyda analogies di-werth ac anaddas fel hyn sydd ddim yn gyfatebol o gwbl i beth mae pobl yn gredu am Dduw

Does dim tystiolaeth o gwbl sy'n pwyntio am fodolaeth celestial teapot. Mae llawer o dystiolaeth yn pwyntio tuag at fodolaeth pwer uwch, creawdwr - Duw.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Ffydd v Prawf

Postiogan murray hewitt » Llun 18 Chw 2008 7:53 pm

rooney a ddywedodd:
analogy di-werth
does neb yn honni fod y celestial teapot yn bodoli nac wedi creu'r bydysawd
does neb yn cynnig fod angen dysgu'r fath beth i blant
mae'r analogy yma'n chwarae lawr y cwestiwn os yw Duw yn bodoli. Mae bodolaeth Duw yn gwestiwn anferthol. Dyma pam nad yw anffyddwyr yn treulio eu amser yn gwadu bodolaeth pethau fel celestial teapot ond yn gwadu Duw.



Wrth gwrs fod neb yn honni fod y celestial teapot yn wir, analogy ydyw, cer i sbio yn y geiriadur.
Beth bynnag defnyddio fo oeddwn i i ddweud bod angan mwy o ffydd i gredu mewn Duw nag i beidio credu, neu mae angen mwy o fydd i gredu mewn bodolaeth y celestial teapot nag i beidio credu yn ei fodolaeth.

rooney a ddywedodd:
Does dim tystiolaeth o gwbl sy'n pwyntio am fodolaeth celestial teapot. Mae llawer o dystiolaeth yn pwyntio tuag at fodolaeth pwer uwch, creawdwr - Duw.


Tin amlwg ddim yn dallt pwrpas yr analogy yma, does chwaith ddim tystiolaeth dros anfodolaeth y celestial teapot, mae'r un peth yn wir am duw does dim posib ei brofi nag ei wrthbrofi.
murray hewitt
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 50
Ymunwyd: Sad 09 Chw 2008 11:12 pm

Re: Ffydd v Prawf

Postiogan Macsen » Llun 18 Chw 2008 9:06 pm

Mae'r syniad mai drwy ffydd mae rywun yn mynd i'r nefoedd jesd yn compowndio pob dim sy'n sili am grefydd. I ddechrau, mae'n amlwg jesd yn ddyfais sal i wneud i fyny am y ffaith nad oes unrhyw dystiolaeth bod Duw yn bodoli. Yn hytrach nag esbonio hynny mae crefydd wedi trio troi'r ffaith ei fod Duw yn anweladwy yn gystadleuaeth. Does dim mwy o reswm pam fyddai Duw yn penderfynu ein profi ar sail ffydd nag unrhywbeth arall. Pam ddim gwneud ei hun yn weladwy i bawb o'r cychwyn cyntaf ac yna profi ffyddlondeb pobol yn hytrach na'i gallu i gredu pethau heb unrhyw dystiolaeth drostyn nhw? Mae'n system hynod agored i gamddefnydd hefyd. Mae pob math o bethau, o grefyddau eraill i gwmniau, yn ecsbloetio y ffaith bod pobol wrth reddf yn anwybyddu beth sydd o flaen eu llygaid ac yn ffeindio esboniadau goruwchnaturiol i bob dim. Yn ol y cristion Duw sydd wedi rhoi'r reddf yma i ni, achos fel arall fydden ni ddim digon afresymegol i gredu yndda fo. A pam cysylltu gyda'r ddynoliaeth drwy'r ffordd mwyaf annibynadwy bosib? Does dim lot o bethau llai dibynadwy na'r meddwl dynol, ond eto mae Duw yn penderfynu gollwng awgrymiadau amwys i mewn iddo, fel gollwng diferion mewn i for stormus a disgwyl i ti wneud synnwyr o'r patrymau. Fel canlyniad mae'r mwyafrif o Gristnogion yn hollol ddryslyd ynglyn a beth mae Duw eisiau iddyn nhw ei wneud. Mae lot o Gristnogion yn dweud wrtha'i 'Ew, roeddwn i'n medru gweld cynllun Duw yn fy arwain drwy hyn a'r llall'. Nagoedd doedd o ddim, mae nhw jesd wedi bod drwy gyfres o ddigwyddiadau cysylltiedig wnaeth orffen gyda canlyniad. Dw i'n cofio rywun oedd wedi graddio o Gaeredin yn deud wrthai bod Duw wedi edrych ar ei hol ac wedi ei harwain drwy nifer o swyddi llwyddiannus. Nagoedd, ges ti'r holl swyddi 'na am dy fod ti'n weithiwr caled a clyfar. A dyw dy fos di ddim yn Gristion, felly sut y cyrhaeddodd o lle mae o? Dyw'r un pobol ddim yn beio Duw pan bod ryw anffawd yn eu taro nhw. Mae fel flipio coin a dweud mai Duw wnaeth bob tro mae'n glanio ar heds.

[/rant]
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Ffydd v Prawf

Postiogan rooney » Llun 18 Chw 2008 10:24 pm

Macsen a ddywedodd: mae'n amlwg jesd yn ddyfais sal i wneud i fyny am y ffaith nad oes unrhyw dystiolaeth bod Duw yn bodoli.


pam fod chi'n ail-adrodd y celwydd yma? yw e'n helpu i gadw'ch ffydd? pryd chi'n mynd i ddeall- mae pobl yn credu yn Nuw oherwydd y dystiolaeth
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Ffydd v Prawf

Postiogan rooney » Llun 18 Chw 2008 10:30 pm

murray hewitt a ddywedodd:Tin amlwg ddim yn dallt pwrpas yr analogy yma, does chwaith ddim tystiolaeth dros anfodolaeth y celestial teapot, mae'r un peth yn wir am duw does dim posib ei brofi nag ei wrthbrofi.


chi'n gwneud esgusodion am fod ganddoch chi ddim tystiolaeth o gwbl i gefnogi'r anffyddiaeth, dim tystiolaeth wyddonol nac fel arall. Cyfleus iawn- sefydlu eich safbwynt fel un sydd ddim angen tystiolaeth. Dyma luxury chi ddim yn caniatau i neb arall. Hypocrits.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron