rooney a ddywedodd:setio fyny dadleuon "head I win, tales you lose"
Dim o gwbwl. Petai ti'n medru darparu tystiolaeth pendant bod Duw yn bodoli fe fyddet ti'n 'ennill', beth bynnag yw'r fath gysyniadau ag ennill a colli mewn dadl fel hyn (oni fydden ni i gyd ar ein ennill pe bai yna brawf fod yna Dduw?). Gwaetha'r modd does dim prawf, ac er dy fod ti'n honi bod y fath brawf yn bodoli dwyt ti heb ei gyflwyno gerbron er gwaethaf fy chwilfrydedd.
Nid fy safbwynt i yw hi nad yw y Duw cristnogol yn bodoli ond safbwynt system o brawf sy'n ddibynol ar beth sydd i'w synhwyro o'n cwmpas. Nid oes prawf o Dduw i'w weld o'n hamgylch yn nunlle. Dyw hynny yn ei hun ddim yn broblem oherwydd ein bod ni ddim yn gwybod lot eto, a mae'n bosib bod duw yn bodoli wedi'r cwbwl. Ond mae cymeriad y Duw cristnogol (ac unrhyw dduw penodol arall) yn seiliedig ar dystiolaeth storiol, na fyddai neb yn credu ynddo pe bai'n ceisio profi rywbeth arall heblaw am y crefydd sydd mor annwyl iddynt. Dyn ni'n disystyrru digwyddiadau goruwchnaturiol mewn dogfennau hanesyddol eraill (a mae nhw'n ddigon cyffredin), felly pam credu yn y rhai yn y Beibl?
Tan bo ryw brawf i'r gwrthwyneb fe wna i seilio fy nealldwriaeth o realiti ar beth ydw i'n synhwyro o fy amgylch, nid beth mae rywun mewn llyfr 2,000 oed a mwy yn honni ei fod o wedi ei synhwyro. Os yw duw yn dod i'r fei, gwych, ond does dim rheswm i feddwl mai'r Duw cristnogol, nag yr un arall dyn ni'n ei nabod, fydd o. Os wyt ti'n dadlau bod ein dehnogliad ni o'r realiti digon diflas o'n cwmpas yn wallus, yna ti hefyd yn bwrw amheuaeth ar allu synhwyrau y pobol (anwybodus wrth safonau heddiw) a ysgrifennodd y Beibl i fedru dehongli digwyddiad goruwchnaturiol yn gywir. Dyn ni'n gwybod bod pobol yn ofergoelus a nad oes modd dibynnu arnynt i beidio dehongli pethau yn gwbwl anghywir, neu fyddai rhaid i ti hefyd dderbyn, er engraifft, bod Mohammed wedi rhwygo'r lleuad yn ddwy. Does dim hyd yn oed rhaid i ti fynd i'r gorffennol i weld esiamplau o hyn - mae gwledydd fel India heddiw'n llawn ofergoeledd gyda dilynwyr Meseiaid modern o bod lliw a llun yn honni eu bod nhw'n gwneud gwyrthiau dyddiol. Naillai ti'n credu bod pob un o'r gwyrthiau yma yn digwydd, neu ti'n derbyn y ffaith bod y bod dynol yn greadur hygoelus a hawdd ei dwyllo.