Cymedrolwr: Rhys Llwyd
sian a ddywedodd:Bobol bach!
Mae hynna'n ddierth iawn i fi.
Rhaid cnoi cil ond, i ddechrau:
1) Wyt ti'n dweud bod "yr ysgol gyntaf o feddwl" yng Nghymru heddiw yn credu y dylai fod perthynas rhwng yr Eglwys a'r wladwriaeth?
2) Oes yna fywyd ar ôl marwolaeth? Os oes, oes yna Nefoedd ac Uffern? Os oes, pwy sy'n mynd i'r Nefoedd?
3)Beth am ras? (hynny yw "gras" - nid cystadleuaeth i weld pwy gyrhaeddith gynta)Foel Gornach a ddywedodd:Cymuned wirfoddol yw eglwys, meddant, a daw pobol yn aelodau trwy berswâd ac argyhoeddiad.
4)Annheg?Foel Gornach a ddywedodd:Mae gwaddol y brad hwnnw yn dal gyda ni, ac ymhlith pethau eraill y mae’r syniad taw yr unig beth a wnaeth Iesu oedd marw drosom er mwyn i gredinwyr fynd i’r nef ar ôl marw.
Rhys Llwyd a ddywedodd:Mae apel a gwahoddiad yr efengyl yn universal i bawb, ond rhaid i'r ymateb fod yn bersonol.
Dan Dean a ddywedodd:Felly ddoth o yma i achub y byd rhag yr uchod. Er bod yr uchod newydd ddigwydd yn y byd.
Sori, ond rhaid i ti esbonio ymhellach, dwi ar goll.
Os yw'r Nefoedd neu Uffern yn gyflwr o ddyn, beth am y bywyd tragwyddol ar ol i rywun marw? Oes lle fel Nefoedd ac Uffern yn bodoli i'n eneidiau?Foel Gornach a ddywedodd:2) Mae Iesu'n dweud fod yna Deyrnas Nefoedd (Teyrnas Dduw) ac Uffern yn bodoli. Dywed fod y deyrnas yn ein plith (neu o'n mewn). Dywed Paul wrth y Philipiaid taw dinasyddion y nef ydym ni (yr eglwys) yn y presennol. Wrth dderbyn Iesu'n Arglwydd fe ddown yn ddinasyddion o'i deyrnas; a bydd y ddinasyddiaeth honno'n parhau hyd y tragwyddol. Uffern yw'r cyflwr lle nad yw Duw na Iesu'n teyrnasu, a lle nad yw'r gwerthoedd a berthyn iddynt yn bodoli. Os nad yw person yn dymuno bod yn rhan o deyrnas Dduw, peidied a phoeni, bydd e (hi) ddim!! Nid yw'n mynd i gael ei (g)orfodi. Mae'r egwyddor gwirfoddol yn ymestyn i bob sefyllfa!
Foel Gornach a ddywedodd:1) Mae nifer sy'n perthyn i'r ysgol hon o feddwl yn credu y dylid defnyddio'r wladwriaeth - y gyfraith - i hybu eu ffordd hwy o feddwl; a thrwy hynny orfodi eu gwerthoedd ar rai nad ydynt yn credu.
ceribethlem a ddywedodd:Os yw'r Nefoedd neu Uffern yn gyflwr o ddyn, beth am y bywyd tragwyddol ar ol i rywun marw? Oes lle fel Nefoedd ac Uffern yn bodoli i'n eneidiau?
Sian a ddywedodd:Hyd y gwela i, mae rhyddid i Gristion - yn ôl ei gydwybod a'i ddealltwriaeth o'r Beibl - fynd ati i newid y byd ym mha bynnag ffordd mae'n gweld yn dda - pleidio heddychiaeth, gwarchod yr amgylchedd etc - neu beidio; gall Cristion goleddu fwy neu lai unrhyw safbwynt gwleidyddol - chwith neu dde; allwch chi gael Cristnogion â lot o arian (beth yw "cyfoethog'?), caiff Cristion hyd yn oed ymuno â'r lluoedd arfog.
Rhys Llwyd a ddywedodd:Dan Dean a ddywedodd:
Ar y newyddio heddiw:
Weapon found in Rhys murder probe
Nato troops close Kosovo border
Darfur bombing is 'unacceptable'
Three US troops killed in Baghdad
Maen gwbl eglur fod rhywbeth o'i le ar y byd yma.
Positif80 a ddywedodd:Rhys Llwyd a ddywedodd:Dan Dean a ddywedodd:
Ar y newyddio heddiw:
Weapon found in Rhys murder probe
Nato troops close Kosovo border
Darfur bombing is 'unacceptable'
Three US troops killed in Baghdad
Maen gwbl eglur fod rhywbeth o'i le ar y byd yma.
End of Days? Pam fod Duw angen gwneud yr Apocalypse beth bynnag? Sori os ydw i'n gofyn cwestiwn sydd hefo ateb amlwg, ond dw i wedi gwylltio rhai hefo'n negeseuon apparently a dwi ddim isio pisio neb off hefo barn neu unrhywbeth twp fel 'na.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai