Foel Gornach a ddywedodd:ceribethlem a ddywedodd:Os yw'r Nefoedd neu Uffern yn gyflwr o ddyn, beth am y bywyd tragwyddol ar ol i rywun marw? Oes lle fel Nefoedd ac Uffern yn bodoli i'n eneidiau?
Rhaglen ddiddorol o In Our Time ar y radio y bore ‘ma. Tri physicist amlwg gyda Melvyn Bragg yn trafod y posibilrwydd o fydysawdau eraill tu hwnt i’r un a adnabyddwn ni, rhai mewn dimensiwn gwahanol i’n heiddo ni ond yn gyfochrog â ni (o fewn un milimedr i ni oedd un ymadrodd). Dywedodd un cyfrannwr, ac ni wnaeth y gweddill fynegi anghytundeb, bod gwyddonwyr yn gwrthod y syniad o fodolaeth Duw ar egwyddor, a hynny ar waetha’r dystiolaeth. Maent yn chwilio am unrhyw ddehongliad arall o’r dystiolaeth, ac yn y broses yn anghytuno’n frwd, ac weithiau’n chwyrn, â’i gilydd. Ymadrodd arall a ddefnyddiwyd, na heriwyd, oedd rhywbeth tebyg i: This universe was designed for intelligence. Diddorol iawn.
Yr ateb uniongyrchol i’th gwestiwn Ceri yw – so i’n gwbod beth sydd tu hwnt i farwolaeth y corff. Yr hyn i fi’n gwbod yw bod bywyd yn dragwyddol, bod nefoedd yn yr ystyr o bresenoldeb Duw, ac uffern yn yr ystyr o’i absenoldeb. Ymddiriedaf ynddo – fy nghyfrifoldeb nawr yw cydweithio gydag ef i drawsnewid y byd hwn!! Gall gosodiad o’r fath swnio’n ymhonnus – hyd i ni sylweddoli taw dyna cyfrifoldeb pawb ac y gallwn oll leisio’r un honiad.
Efallai bod yr hyn a ddywedwyd ar In Our Time yn agor posibiliadau o ddeall mewn oes wyddonol. Yr unig beth a allaf ddweud yn bendant yw bod Iesu’n dweud bod ‘amryw drigfannau’ yn y nefoedd (gair lluosog, ‘nef’ yw’r unigol); dywed nad oes gwryw a benyw yno, ac ategir hyn gan Paul a ddywed fod ein ffurf yn mynd i fod yn wahanol – awgryma hyn i mi ddimensiwn gwahanol, ysbrydol. Ni allaf, a thra yn y cnawd hwn, nid wyf yn moyn mynd i fwy o fanylion na hynny.
Mae'r syniad fod bydysawd paralel yn cyfateb i nefoedd a/neu uffern yn un reit diddorol, er ddim yn syniad hollol newydd, mae'n un o'r syniadau sy'n cael ei godi ym myd ffuglen gwyddonias ers dipyn. Yn sicr mae'r syniad (athronyddol bron) fod nefoedd/uffern yn rhyw fath o gyflwr corfforol yn un llawer haws ei dderbyn na'r nonsens am losgi am byth sydd gan ambell un.