Moesau, deddfau, cyfiawnder

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan rooney » Gwe 22 Chw 2008 6:26 pm

Y broblem gyda anffyddwyr yw fod ganddyn nhw ddim ultimate justification dros unrhywbeth i fod yn iawn neu ddim yn iawn. Just barn dyn.

Mae anffyddwyr yn hoff o ddemocratiaeth, system seciwlar. Rhaid cadw crefydd a Duw allan o ddemocratiaeth ayyb mae nhw'n weiddi. OK. Ond nid yw democratiaeth mewn cyd-destun anffyddiol yn mynd i ddod a cyfiawnder na deddfu o blaid beth sy'n iawn o anghenraid. Nid yw polau opiniwn yn ddigon da i benderfynnu beth sy'n iawn a beth sydd ddim yn iawn. A rhaid i'r anffyddwyr hefyd ofyn y cwestiwn- pam fyddai iawn a ddim yn iawn, da a drwg, yn bodoli yn y lle cyntaf? Pam fod ni'n teimlo rheidrwydd o wneud y peth iawn? Pam ni'n teimlo fod rhaid i ni fyw a byhafio mewn ffordd arbennig tuag at ein gilydd a tuag at ein planed? Rwy'n cynnig fod deddf foesol yn bodoli o fewn y bydysawd ac ein bod ni'n teimlo fod ni'n gorfod dilyn y ddeddf yma, fod ni'n teimlo cyfrifoldeb o ddilyn y ddeddf.

Enghraifft eithafol ond er mwyn gweld y pwynt- Dwed fod 60% yn credu fod treisio yn ok. 40% yn meddwl fod treisio ddim yn ok. Felly, os oes gen ti system effeithlon ddemocrataidd bur fe fyddai treisio yn dod yn ok. Felly dim deddf yn erbyn treisio. Yw hyn yn gwneud treisio yn ok? Wel mae rhan fwyaf o bobl yn meddwl fod o'n ok. Does dim deddf yn ei erbyn. Ond yw e'n ok? Wel, nac ydy. Beth am fynd mlaen 20 mlynedd- y tro hwn mae 60% yn meddwl fod treisio'n ddrwg a 40% yn meddwl fod e'n ok. Mae deddf yn cael ei basio i wahardd treisio. Yw hyn yn golygu fod treisio yn OK? Nac ydy. Ond yr oedd yn OK 20 mlynedd yn ol. Sut gall treisio fod yn OK 20 mlynedd yn ol ond ddim rwan? Yn amlwg all ni ddim derbyn barn y mwyafrif i benderfynnu beth sy'n iawn a beth sydd ddim yn iawn, gan fod barn y mwyafrif yn gallu bod beth bynnag mae'r mwyafrif yn deimlo ar y pryd. Yn amlwg hefyd fod rhai pethau just yn ddrwg neu'n anghywir wastad- pam fyddai'r fath gysyniad yn bodoli? Pam fod rhai pethau wastad yn anghywir, waeth beth yw barn y mwyafrif?

Felly mae'n amlwg fod angen sylfaen i allu penderfynnu beth sy'n iawn a beth sydd ddim yn iawn. Fedr pol opiniwn ddim bod yn sylfaen gan fod opiniwn pobl yn newid gyda'r gwynt. Sut y gall sylfaen wedi ei greu gan ddyn fod o help- pa ddynion sydd wedi creu'r sylfaen. Pam fod y sylfaen mae nhw'n benderfynnu yn fwy dilys na'r sylfaen mae pobl eraill wedi ei ddylunio. Pam fod ganddyn nhw fwy o ddweud, fwy o awdurdod dros benderfynnu beth sy'n iawn a beth sydd ddim yn iawn. Unwaith eto ni'n nol i'r broblem- might is right, i.e. y mwyafrif yn penderfynnu beth sy'n iawn. Ond yn amlwg nid yw might bob amser yn right Weithiau mae'r mwyafrif yn cael pethau'n iawn, ond dro arall ddim. All hyn ddim rhoi sylfaen i ni. Mae'r agenda gwleidyddol gywir yn trio dylunio sylfaen ar gyfer beth sy'n iawn a beth sydd ddim yn iawn, ond sylfaen wedi ei ddylunio gan ddyn yw hwn. Does dim ultimate justification gan yr anffyddwyr pam fod y sylfaen yma yn fwy dilys na sylfaen wedi ei ddylunio gan unrhyw grwp arall mewn cymdeithas.

Felly rwyf yn cynnig fod ni angen sylfaen gan rywun sydd ddim yn ddyn, rhywun gyda mwy awdurdod na ni, rhywun gyda mwy o awdurdod na dyn, rhywun gyda mwy o awdurdod na mwyafrif o ddynion. Rhywun sydd yn ein deall ni'n well na'n hunain. Rhywun sydd yn ein caru gymaint fel fod e'n mynd i roi sylfaen i ni y gallwn ni ymddiried ynddo gan ni'n gwybod ei fod yn rhoi'r sylfaen i ni oherwydd fod e am y gorau i ni. Rhywun all roi sylfaen fel fod da wastad yn dda a fod drwg wastad yn ddrwg. Does dim pwrpas cael sylfaen lle mae'r rhywun yma'n newid ei feddwl e.e. yn dweud fod treisio'n iawn un funud, ac wedyn yn dweud fod e ddim yn iawn, ni angen rhywun sydd yn rhoi lawr moesau absoliwt cyson sydd ddim yn ddibynol ar amser a ffashiynau.

Wel, ni wedi derbyn sylfaen o'r fath gan rywun sydd yn ffitio'r gofynion: ein creadwr, Duw hollalluog. Dyma'r Duw sydd yn foesol, sydd wedi rhoi'r ddeddf foesol i ni yn ein cydwybod, yn ei air yn yr Ysgrythur, ac yn y bydysawd fel fod ni'n teimlo cyfrifoldeb i fyw at y ddeddf yma. Dim ond sail moesol gan Dduw sydd gyda ultimate justification pam fod rhywbeth yn dda neu ddrwg, yn iawn neu ddim yn iawn. Mae sail foesol wedi ei ddylunio gan ddyn hefo awdurdod neb dim ond dyn ei hun.

Sialens i'r anffyddwyr: cysidrwch ddynes 90 oed. Mae hi yn eitha anabl bellach, mae hi angen gofal parhaol ac mae'n costio llawer i'w chadw. Mae hi'n cael anhawster cyfathrebu gyda eraill ac mae ei chyflwr yn gwaethygu. Nid yw hi'n cyfrannu tuag at y gymdeithas o gwbl yn economaidd nac fel arall. Yn wir, byddai'r arian mae'n gostio i'w chadw am ddeng mlynedd arall yn dod i ganoedd o filoedd o bunoedd- arian fyddai rhai yn dadlau gyda rhesymau y byddai'n well i'w wario ar bethau eraill yn ein cymdeithas, i hybu cymdeithas e.e. ymchwil meddygol (Mae'n ffaith fel rwy'n deall fod e'n costio ffortiwn i gadw pobl yn fyw yr agosaf y maent i'w marwolaeth.)

Beth petae gen i blentyn sydd yn dioddef o afiechyd. Mae'n mynd i gostio canoedd o filoedd i ymchwilio mewn i'r afiechyd yma i ffeindio triniaeth i'w achub hi. Rwyf yn mynd i fy mag ac yn estyn allan machine gun. Rwy'n pwyntio'r gwn tuag at y ddynes yma. Wrth gael gwared ohoni hi, mae hyn yn rhyddhau arian i'w fuddsoddi mewn pethau eraill mewn cymdeithas yr ydw i'n cysidro yn fwy pwysig. Fel, ffeindio ateb i gyflwr fy mhlentyn.

Anffyddwyr, eglurwch a cyfiawnhawch i fi pam fod e'n anghywir i fi danio'r dryll?

A gwnewch eich dadleuon yn gyson gyda'ch safbwynt anffyddiol i.e. fod Duw ddim yn bodoli, fod deddf foesol ordinedig gan Dduw ddim yn bodoli, fod dim moral absolutes, fod y Beibl ddim wedi ei ysbrydoli gan Dduw ayyb
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan joni » Gwe 22 Chw 2008 7:06 pm

rooney a ddywedodd:Felly rwyf yn cynnig fod ni angen sylfaen gan rywun sydd ddim yn ddyn, rhywun gyda mwy awdurdod na ni, rhywun gyda mwy o awdurdod na dyn, rhywun gyda mwy o awdurdod na mwyafrif o ddynion. Rhywun sydd yn ein deall ni'n well na'n hunain. Rhywun sydd yn ein caru gymaint fel fod e'n mynd i roi sylfaen i ni y gallwn ni ymddiried ynddo gan ni'n gwybod ei fod yn rhoi'r sylfaen i ni oherwydd fod e am y gorau i ni. Rhywun all roi sylfaen fel fod da wastad yn dda a fod drwg wastad yn ddrwg.

B.A. Baracus?
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan murray hewitt » Gwe 22 Chw 2008 7:06 pm

Be di pwynt yr edefyn yma tin gofyn union yr un peth ag yn yr edefyn "Os nad yw duw yn bodoli...."???

Esblygiad di'r ateb END OF, fel nes i ag eraill gynnig yn yr edefyn arall, os tisho gwbod mwy darllena'r edefyn eto.
murray hewitt
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 50
Ymunwyd: Sad 09 Chw 2008 11:12 pm

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan rooney » Gwe 22 Chw 2008 7:16 pm

murray hewitt a ddywedodd:Be di pwynt yr edefyn yma tin gofyn union yr un peth ag yn yr edefyn "Os nad yw duw yn bodoli...."???

Esblygiad di'r ateb END OF


??
so ydy e'n ok i fi danio'r dryll neu ddim?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan Foel Gornach » Gwe 22 Chw 2008 7:24 pm

Mae e yr un mor anghywir i ladd y fenyw 90 oed (dilemma Dostoyevsky) ag yw e i fomio plant a saethu pobol ddiniwed yn Irac (neu unrhyw le arall) er mwyn dod a 'lles' i'r byd.
Rhithffurf defnyddiwr
Foel Gornach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Sul 22 Ebr 2007 10:13 pm
Lleoliad: Dyffryn Teifi

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan murray hewitt » Gwe 22 Chw 2008 7:27 pm

rooney a ddywedodd:
murray hewitt a ddywedodd:Be di pwynt yr edefyn yma tin gofyn union yr un peth ag yn yr edefyn "Os nad yw duw yn bodoli...."???

Esblygiad di'r ateb END OF


??
so ydy e'n ok i fi danio'r dryll neu ddim?


Na
murray hewitt
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 50
Ymunwyd: Sad 09 Chw 2008 11:12 pm

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan rooney » Gwe 22 Chw 2008 7:27 pm

murray hewitt a ddywedodd:??
so ydy e'n ok i fi danio'r dryll neu ddim?


Na[/quote]

esbonia
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan rooney » Gwe 22 Chw 2008 7:29 pm

Foel Gornach a ddywedodd:Mae e yr un mor anghywir i ladd y fenyw 90 oed (dilemma Dostoyevsky) ag yw e i fomio plant a saethu pobol ddiniwed yn Irac (neu unrhyw le arall) er mwyn dod a 'lles' i'r byd.


gewn ni gadw bant o drafod rhyfel os gweli di'n dda- dechreua edefyn newydd. Rwyf eisiau canolbwyntio ar y ddynes 90 oed.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan murray hewitt » Gwe 22 Chw 2008 7:34 pm

rooney a ddywedodd:
murray hewitt a ddywedodd:??
so ydy e'n ok i fi danio'r dryll neu ddim?


Na


esbonia[/quote]

Fysa fon anfoesol, moesau di datblygu trwy esblygiad dim gan Dduw, felly dydio ddim yn OK i chdi ladd y ddynas.
murray hewitt
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 50
Ymunwyd: Sad 09 Chw 2008 11:12 pm

Re: Moesau, deddfau, cyfiawnder

Postiogan rooney » Gwe 22 Chw 2008 7:38 pm

murray hewitt a ddywedodd:
Fysa fon anfoesol, moesau di datblygu trwy esblygiad dim gan Dduw, felly dydio ddim yn OK i chdi ladd y ddynas.


felly yn y gorffenol roedd o'n ok i fi wneud hyn? sut gall rhywbeth fod yn ok yn y gorffenol ac yn anghywir nawr? unai mae o'n ok neu mae ddim yn ok
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Nesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai