sian a ddywedodd: Dw i ddim yn meddwl bod llawer o gysylltiad rhwng safbwynt ceribethlem uchod â Christnogaeth (yn ôl fy nealltwriaeth i - bosib bod Foel Gornach yn anghytuno) - a dim bod yn annymunol yw hynna!
Gwnes y sylwadau am syniadau’r gwyddonwyr er mwyn i wyddonwyr, fel ceribethlem, i weld bod yna lu o bosibiliadau gwyddonol nad ydynt yn treisio syniadau’r Efengyl. Nid dweud ‘dyma brawf’ neu ‘fel yma mae hi’ oedd fy mwriad. Mae yna ddirgelion lu yn y Cread sy’n cael eu hamlygu fwy-fwy yn yr oes wyddonol hon, ac mae yna fodd i’w cymhathu’n syniadol gyda’r Efengyl, hynny yw i bobol a meddyliau agored.
Nid wyf yn gwybod pa fath o le yw’r nefoedd nac uffern. Mae Iesu ac awduron yr HD a’r TN yn defnyddio delweddau o bob math. Ceir amrywiaeth mawr ynddynt sy’n awgrymu’n gryf nad yw’r manylion hynny i’w dehongli’n llythrennol. Mae’r ddau ‘le’ yn bodoli – ar ba ffurf? Ymbo (so i’n gwbod, dwn im, nis gwn). Fel y dywedais mewn cyfraniad uchod 'rwy'n ymddiried yn Nuw.
ceribethlem a ddywedodd:Mae'r syniad o bod yn dda (mewn unrhywbeth) yn un dymunol. Mae proffesiynoldeb a chyrraedd yr uchelfannau yn llonni unrhywun yn ei waith. Yn yr un modd mae ymddygiad da (above and beyond yr hyn sydd angen i oroesi) heb yn codi teimladau llon. Felly mae bod yn dda yn golygu fod nefoedd yn gyflwr corfforol o deimlo'n dda am fod yn berson dymunol.
Byddai rhywun anymunol ar y llaw arall yn un nad yw'n trystio neb am ei ymddygiad ei hun, ac felly'n ymgorffoli uffern drwy ei deimladau ef.
Iawn; fel y mae serial killer da yn teimlo'n dda am ei orchestion, a godinebwr da yn brolio yn ei gampau, a lleidr da yn teimlo'n wych ar ol cyflawni trosedd, a cyfalafwr da'n ymffrostio am y modd y mae wedi gwneud ei filiynnau ar draul tlodion byd etc, etc. Cytuno'n llwyr - bydd rhain yn teimlo'n gret yn mynd i'r bedd - ond yna ...
kez a ddywedodd:Y rhai drwg yn pydru yn Uffern am eu camweddau a ninna'n' canu'n braf yn y Nefoedd am fod yn fois da. Beth yw bywyd tragwyddol - fflyffan rownd fel rhyw anglyion ne 'be - 'sneb yn son am hwnna ond be' sy'n ein dishgwl ni go-iawn os yw'r Beibl yn iawn. Mae tragwyddoldeb yn uffach o amser hir i hedfan rownd y lle.
Unwaith eto rhaid synnu at lythrenoldeb pobol sy'n ymosod ar lythrenolwyr! Delweddau yn Llyfr y Datguddiad sy'n gyfrifol am rai o'r syniadau yma a ddatblygwyd yn yr Oesoedd Canol. Mae Llyfr y Datguddiad yn dweud fod Duw yn eistedd ar ei orsedd - delwedd (nid yw Ysbryd yn eistedd); dywed hefyd fod Iesu'n ymddangos fel oen wedi marw!!! - delwedd arall.
Pwysleisia’r ddysgeidiaeth am nefoedd ac uffern atebolrwydd. Rydym yn fodau rhydd â’r gallu i benderfynu drosom ein hunain ffordd y gweithredwn ac yr ymatebwn i gariad Duw – ond mae yna ganlyniadau i’n penderfyniadau. Mae Iesu’n pwysleisio’r dewis sylfaenol hwn drwy ddefnyddio gwahanol ddelweddau, e.e. Duw neu Mamon (duw materoliaeth), rhodio’r llwybr cul neu’r ffordd lydan, adeiladu tŷ ar y graig neu ar y tywod etc. Nid oes modd inni osgoi’r dewis na’r gorfodiad arnom i ateb i Arglwydd Bywyd am y dewis. Ffordd Iesu, sef ffordd cariad a maddeuant, ffordd tangnefedd a ffordd cyfiawnder, yw’r ffordd i deyrnas nefoedd.
Wrth sôn am y portread poblogaidd o Iesu yn y nef, nid fy mwriad oedd gwadu nad yw Iesu yn ei ogoniant, ond herio’r portread ohonno fel rhyw ymerawdwr Byzantaidd yn gwisgo coron aur yn llawn meini gwerthfawr gyda gwisg wedi ei goreuro etc etc. Mae yna wahaniaeth rhwng gogoniant a gogoniant! Yn anffodus mae’n syniadau ni am ogoniant nefol wedi eu ffurfio gan ganrifoedd o ddelweddau sy’n ategu meddylfryd y Sefydliad daearol. Mae brenhinoedd daearol yn fodau tra chyfoethog ac yn yr Oesoedd Canol yr oeddent yn fodau grymus a milwriaethus hefyd – cymeriadau tebycach i Herod a Pilat nag i Iesu o Nasareth. Dylid bod yr un mor wyliadwrus wrth ystyried y geiriau: brenin, brenhiniaeth a theyrnas. Peidiwn a chaniatau i’r delweddau sydd wedi eu ffurfio gan draddodiad sy’n mawrygu cyfoeth a grym liwio’n meddyliau. Mae gogoniant Duw yn bur wahanol i ogoniant bydol.
Mae stori hyfryd am Martin o Tours (bu farw 397) yn breuddwydio fod yr Iesu atgyfodedig yn dod i’w gyfarch; yr oedd Iesu wedi ei wisgo mewn harddwisg ymerodrol a ddiferai o dlysau drudfawr, dywedodd hwnnw ‘Dilyn Fi’; atebodd Martin, ‘Dos yn fy ôl i Satan’, a diflannodd y rhith. Yna ymddangosodd gweledigaeth arall, y tro hwn yr oedd Iesu’n ymddangos mewn dillad tlotyn – gwyddai Martin taw hwnnw oedd y ddelwedd gywir o Iesu, ac i hwnnw y plygodd a’i gydnabod fel Arglwydd.
Daw’r dyfyniad o Efengyl Mathew a roddi o un o ddamhegion Iesu, a rhaid bod yn ofalus wrth ddehongli’r cyffelybiaethau y mae’n eu defnyddio mewn damhegion. Wedi’r cyfan, nid ydym yn cymryd y ‘defaid’ a’r ‘geifr’ sy’n ymddangos yng ngweddill y ddameg yn llythrennol. Dyma’r unig ddameg, hyd y gwn, lle mae’n gosod ei hunan lan fel ‘brenin’ – disgrifiad o Dduw yw ‘brenin’ yn ei ddamhegion eraill lle mae’r gyffelybiaeth yn cael ei defnyddio; ‘Mab y dyn’ yw’r ymadrodd a ddefnyddia amlaf amdano’i hun, yn ôl Mathew.
Ymhellach, mae’r ddameg yn sôn am yr oes newydd sydd i ddod: ‘oes newydd’ yw’r union eiriad y mae Iesu’n ei ddefnyddio pan yn cyfeirio at yr un ‘digwyddiad’ yn Mathew 19:28. Yn yr oes newydd bydd gwerthoedd newydd a threfn newydd. Mae angen osgoi meddwl am werthoedd oes newydd Duw a Theyrnas Nefoedd mewn modd dynol ac yn ôl y gwerthoedd a luniwyd gan y byd syrthiedig hwn.