gan huwwaters » Sad 23 Chw 2008 2:01 am
Mae moesau a moesegau yn ffrwyth nifer o bethau. Tydio ddim just yn 'bodoli'. Un dyn sydd wedi rhoi sylw ar y cysylltiad yma yw Robert Masters. Dyn sydd wedi diffinio’r gwahaniaeth rhwng effaith, teimlad ac emosiwn. Gellir dweud mai effaith yw enghraifft o atgyrch neu ymdrech o ddangos tymer nad ydych yn ei deimlo. Gwedd yn unig ydyw sy’n cael ei reoli gan unrhyw beth ond eich teimladau. Teimlad yw’r ymwybyddiaeth o effaith, efo gallu dadansoddol, nad yw wedi ei seilio yn ffisiolegol, ac yn amal â gogwydd seicolegol; ac emosiwn wedi ei adeiladu’n seico-gymdeithasol - teimlad wedi ei ddramateiddio.
Mae'n bosib datblygu dy feddwl i fod yn fwy 'emotionally stable' o ryw fath ble chi'n gosod eich hun i sdresiau gwahanol. Chi'n eu profi, yn datblygu imiwnedd o ryw fath. Tydio ddim yn golygu eich bod ddim yn teimlo emosiwn dros rywbeth, ond ei fod yn bosib i chi newid yn ôl i normal. Mae pobol sydd yn 'emotionally unstable' yn tueddu i fod y rhai sydd ar fin lladd eu hunain ar ôl colli eu rhieni, gwr/gwraig, plentyn. Y rhai sydd mwy sefydlog yw'r rhai sydd gallu maddau llofruddiwr etc.
Rooney, dwi'n meddwl dyle ti feddwl cyn agor dy geg. Yn amlwg ti jyst isio cychwyn trafodaeth am rywbeth, dim ots be, er mwyn i ti cael deud dy farn. Dyfala be? Ma pawb di clwed o a ddim isio clwed mwy.
Huw