Ond mae'n rhaid i rywun ei
ddeud o hefyd, Mularitharan. Hyd yn oed os ydio'n rhyw
agitator controfyrsial/heretig fel fi!
Mae 'na wir yn be ti'n ddeud wrth gwrs. Ond fyswn inna'n gallu troi dy ddadl ar ei phen a deud mai dyma'r typical ymateb rydan ni'n gael yng Nghymru pan fo rhywun yn codi'r pwynt dwi'n neud. A mae 'na bobol wedi trio sefydlu pleidiau eraill, a cwbwl wnaeth y Pleidwyr oedd 'close ranks'
en masse. A dwi'n cofio
furore mewn cynhadledd mudiad cenedlaetholgar ychydig flynyddoedd yn ôl, pan godwyd y posibiliad o roi ymgeiswyr i fyny ar gyfer seddi'r cyngor. Llwyddodd teyrngarwyr y Blaid oddifewn y mudiad, i ennill y dydd. A mae rhai ohonyn nhw bellach yn sefyll yn enw Llais Gwynedd... Y goleuni a welsant.
Horses for courses ydio. Yn fy achos i, fysa pluan eira yn para mwy mewn popty na fyswn i mewn gwleidyddiaeth pleidiol. Yn un peth, o ran ennill pleidleisiau, mae fy natur amrwd, fy mywyd 'amgen', fy niddordebau, arferion cymdeithasol, daliadau radical a gorffennol eitha controfyrsial, yn yr un categori a codi treth ar
guide-dogs! Ac yn ail, mae gwleidyddiaeth pleidiol, a pholitics ffurfiol, cyfansoddiadol yn rhywbeth mae gen i'r
aversion mwya uffernol iddo. Fedrai ddim diodda'r math yna o fywyd, na be mae'n sefyll drosto. Dwi'n siwr mod i'n dod i fyny mewn rash pan dwi'n gwatsiad y news!
Dyn gonast dwi de. Di hynna ddim yn
compatible efo bod yn wleidydd nacdi.
Party line, twyllo pobol efo sbin, gwisgo colar a tei, defnyddio iaith 'ddiplomataidd' a protocol, a gweithio efo pwyllgorau! No wê hosê! Bod yn rhan o system sy'n gosod rheolau a chyfyngiadau ar fywydau bobl? Tyngu llŵ i frenhinas Lloegar? Nefar. Cymysgu efo politisians? Efo llond dwrn o eithriadau, dwi gweld gwleidyddion ymysg y mathau mwyaf ffiaidd o'r ddynolryw, a'r unig bartis dwi'n licio ydi rhai sy'n digwydd yn
spontaneous ar benwythnosa, sydd efo'r posibilrwydd i unrhyw beth ddigwydd ar unrhyw adeg.
A coelia fi, fyswn i ddim yn gneud job dda arni, beth bynnag. Bardd a breuddwydiwr, sgwennwr, meddyliwr. Da i ddim byd arall.
Ar ddiwadd y dydd, dwi ddim yn rhan, nac erioed wedi bod yn rhan, o genedlaetholdeb cyfansoddiadol. Dwi'n credu mewn agenda chwyldroadol di-drais. Nid jesd oherwydd ei fod o'n fwy gonest, 'agored' ac egwyddorol, ond am ei fod o - o'i wneud yn iawn - yn fwy effeithiol o beth uffarn. Dyna ydi nghefndir i,
full stop. Does gen i ddim math o ddiddordeb yn y trywydd cyfansoddiadol. Pawb at y peth y bo.
Dyma pam nad ydw i'n cymryd rhan yn yr 'mudiad genedlaetholgar' erbyn hyn (dwi ddim yn weithredol efo unrhyw fudiad cenedlaetholgar ers 3 mlynedd). Does ond y llwybr cyfansoddiadol ar ôl - a hynny am y dyfodol rhagweladwy. Does dim llwybr arall. Felly,
count me out. (A phe byddai llwybr arall, falla fyswn i'n ffendio nad oes gen i ddiddordeb mewn wastio mwy o mywyd yn hitio mhen yn erbyn wal.)
Ac ar ôl tros 21 mlynedd o fod yn rhan o un mudiad, ymgyrch, breuddwyd, neu'r llall - dwi'n meddwl fod gen i ddigon o brofiad i allu dod i'r casgliad nad oes gan y llwybr chwyldroadol ddim hôps mul o gydio yng Nghymru, a nad yw'r llwybr cyfansoddiadol yn un y medraf i ei ddilyn o gwbl (fysa'n well genai fod yn fynach jinjyr efo genital warts).
Dyna pam mod i wedi setlo i ganolbwyntio ar brosiectau gwirfoddol yn y gymuned (dwi'n rhan o 4 ar y funud - ac oes mae 'na blydi pwyllgorau arnyn nhw!), trefnu digwyddiadau diwylliannol (cyfoes, cynhenid ac addysgol) yn y gymuned, a chynhyrchu a hyrwyddo agweddau o ddiwylliant poblogaidd trwy gyfrwng y Gymraeg - rhywbeth yr ydw i'n ei weld yn hanfodol os am gael trwch siaradwyr y Gymraeg i uniaethu â'r iaith a rhoi gwerth mwy na 'cyfrwng cyfathrebu' iddi. Dwi'n gweld hybu hynny yn rhan amhrisiadwy o unrhyw ymdrech i gynnal hunaniaeth cenedlaethol Cymreig. Wedi'r cwbl, wnaiff y broses wleidyddol gyfansoddiadol byth lwyddo i wneud y gwaith hanfodol yma - y gwaith caib a rhaw tu mewn i feddyliau'r werin, ar lawr gwlad. Heb hunaniaeth, heb ddim.
Ceffylau i gaeau arbennig, Mularitharian. Hwnna ydio. Mae 'na gannoedd o bobol sydd wedi cyfrannu mwy i wleidyddiaeth (yn sicr!) a chymdeithas sifig (hollol bendant sicr!) Cymru na fi. Ond ffwc o bwys gena i, achos dwi wedi/yn chwarae fy rhan i, a mae fy nghydwybod i môr glir a'r gloch.
Dyletswydd i Gymru a Chymry sydd gan Bleidwyr, nid i blaid wleidyddol. A mae 'na ddyletswydd ar Bleidwyr i ail-feddiannu eu plaid eu hunain. Nid am mai nhw sydd wedi sbaddu ymgais i sefydlu ail blaid genedlaethogar ar adegau allweddol (o weld be sydd wedi digwydd i Blaid Cymru ers hynny), ond am mai Pleidwyr sydd gan y gallu i wneud hynny.
Mae'r ffaith mai pobl o du allan y Blaid sy'n gweld hyn yn dweud mwy am ddiffyg gweledigaeth, dychymyg ac egni presennol y rhai sydd oddifewn iddi, nag am unrhyw duedd o "laesu dwylo a golchi dwylo" o du rhywun fel fi.