http://www.hysbysebu.com
O'r diwadd dwi wedi gorffen creu safle sydd yn cynnig nodweddau "google Ads" i wefannau Cymraeg.
Ar ol aelodi mi gewch chwi werthu hysbysebion ysgrifenedig, baneri neu hydynoed hysbysebion fideo ar eich safle. Wrth rhoi cod ar y tudalen lle y bysach chwi'n hoffi i'r hysbysebion ddangos, mi fyddwch yn gallu gwerthu hysbysebion yn syth o'ch gwefan.
Mi all y cyhoeddwr ddylunio syt maent eisiau y hysbysebion ymddangos, derbyn neu gwrthod bob hysbyseb, ac gosod prisiau am yr hysbysebion hyn.
Medrwch osod pris am ddiwrnod, am wythnos, am fis o hysbysebu neu dewis pris am bob clec.
Os oes ganddoch chwi wefan ac ydych eisiau gwerthu neu prynnu hysbysebion trwy'r gyfrwng Gymraeg yno ewch draw yno nawr.
Luke