Daeargryn yn taro 'Lloegr'

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Daeargryn yn taro 'Lloegr'

Postiogan Pryderi » Mer 27 Chw 2008 8:12 am

Mae'r papurau newydd bore ma yn llawn straeon am y ddaeargryn a darodd ardaeloedd helaeth o 'Loegr' o gwmpas un o'r gloch y bore, ond roedd y ddaeargryn hefyd i'w deimlo yma yn Sir Conwy.

Teimlodd unrhyw un arall y ddaeargryn?
Pryderi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 50
Ymunwyd: Sul 24 Meh 2007 11:07 am

Re: Daeargryn yn taro 'Lloegr'

Postiogan jammyjames60 » Mer 27 Chw 2008 4:43 pm

Ac i raddau yn Sir Gaernarfon hefyd!
Rhithffurf defnyddiwr
jammyjames60
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 681
Ymunwyd: Llun 07 Tach 2005 11:19 pm
Lleoliad: Felinheli, Gogledd Cymru

Re: Daeargryn yn taro 'Lloegr'

Postiogan Prysor » Sul 02 Maw 2008 7:42 pm

Y tro dwytha i ddaeargryn daro, ron i'n buta wrth y bwrdd efo'r wraig, a ddudas i mai daeargryn oedd o. Ond roedd Rhian yn recno mai car wedi parcio tu allan tŷ oedd o. Dw i wedi tynnu'i choes hi byth ers hynny, yn deud ei bod wedi ista drwy ddaeargryn gan feddwl mai injan car oedd achos y swn a chryndod!

Pan darodd y daeargyn yma, am un o gloch y bore, roeddwn yn gweithio ar y cyfrifiadur, a fo oedd yr unig un oedd yn ddeffro yn y tŷ. Meddyliais mai'r dŵr yn y tanc immersion oedd yn berwi am fod y tân mor boeth (mae o'n berwi fel hyn weithia - jesd crescendo o swn byblo a rymblo trwm, sy'n swnio fel tren yn mynd heibio, ac yn para tua deg eiliad i gyd). Nes i feddwl ei fod o'n rhyfadd, gan ein bod wedi gadael i'r tân farw i lawr, heb roi mwy o lo arno, ers rhyw awr neu ddwy, ac felly ddim yn ddigon poeth i ferwi'r dŵr fel hyn.

Ond wrth gwrs, y daeargryn oedd o, ac rwan, mae Rhian yn tynnu fy nghoes i - ei gŵr, a eisteddodd trwy ddaeargryn yn meddwl fod y tanc immersion yn berwi!

One-all! :seiclops:
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Daeargryn yn taro 'Lloegr'

Postiogan Mr Gasyth » Sul 02 Maw 2008 7:51 pm

Prysor a ddywedodd:Pan darodd y daeargyn yma, am un o gloch y bore, roeddwn yn gweithio ar y cyfrifiadur, a fo oedd yr unig un oedd yn ddeffro yn y tŷ. Meddyliais mai'r dŵr yn y tanc immersion oedd yn berwi am fod y tân mor boeth (mae o'n berwi fel hyn weithia - jesd crescendo o swn byblo a rymblo trwm, sy'n swnio fel tren yn mynd heibio, ac yn para tua deg eiliad i gyd). Nes i feddwl ei fod o'n rhyfadd, gan ein bod wedi gadael i'r tân farw i lawr, heb roi mwy o lo arno, ers rhyw awr neu ddwy, ac felly ddim yn ddigon poeth i ferwi'r dŵr fel hyn.


Wel wel, ti di mynd a fi'n ol wan Prysor. Odd hyn arfer digwydd yn ty ni pan oeddwn i'n fach, ond don i'n cofio dim tan wan.

Dwi'm yn siwr os deimlais i'r daeargryn ai peidio achos ron i'n meddwl i mi glywed hofrenydd yn hedfan uwch y ty rywdro tra on i'n trio cysgu - mi alle fod yn hanner nos, mi alle fod yn ddau y bore. Ond doedd na'm cryndod nac ysgwyd o gwbl i deimlo - yn gwbl wahanol i pan deimles i un yn aberystwyth tua pum mlynedd yn ol (a sylwi'n syth be oedd o), felly dwi'm yn siwr am hwn wir.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Daeargryn yn taro 'Lloegr'

Postiogan Pryderi » Sul 02 Maw 2008 9:01 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:Pan darodd y daeargyn yma, am un o gloch y bore, roeddwn yn gweithio ar y cyfrifiadur, a fo Dwi'm yn siwr os deimlais i'r daeargryn ai peidio achos ron i'n meddwl i mi glywed hofrenydd yn hedfan uwch y ty rywdro tra on i'n trio cysgu - mi alle fod yn hanner nos, mi alle fod yn ddau y bore. Ond doedd na'm cryndod nac ysgwyd o gwbl i deimlo - yn gwbl wahanol i pan deimles i un yn aberystwyth tua pum mlynedd yn ol (a sylwi'n syth be oedd o), felly dwi'm yn siwr am hwn wir.


Yn rhyfedd iawn, glywais i hofrenydd hefyd, rhyw ddeg munud ar ol y ddaeargryn y noson o'r blaen. Ond dwi'n sicr nad hofrenydd achosodd y cryndod. Mae swn hofrenydd yn wahanol iawn i swn daeargryn a mae'n para'n hwy.
Pryderi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 50
Ymunwyd: Sul 24 Meh 2007 11:07 am

Re: Daeargryn yn taro 'Lloegr'

Postiogan Mr Gasyth » Llun 03 Maw 2008 1:09 pm

Pryderi a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:Pan darodd y daeargyn yma, am un o gloch y bore, roeddwn yn gweithio ar y cyfrifiadur, a fo Dwi'm yn siwr os deimlais i'r daeargryn ai peidio achos ron i'n meddwl i mi glywed hofrenydd yn hedfan uwch y ty rywdro tra on i'n trio cysgu - mi alle fod yn hanner nos, mi alle fod yn ddau y bore. Ond doedd na'm cryndod nac ysgwyd o gwbl i deimlo - yn gwbl wahanol i pan deimles i un yn aberystwyth tua pum mlynedd yn ol (a sylwi'n syth be oedd o), felly dwi'm yn siwr am hwn wir.


Yn rhyfedd iawn, glywais i hofrenydd hefyd, rhyw ddeg munud ar ol y ddaeargryn y noson o'r blaen. Ond dwi'n sicr nad hofrenydd achosodd y cryndod. Mae swn hofrenydd yn wahanol iawn i swn daeargryn a mae'n para'n hwy.


Lle wyt ti'n byw pryderi? Ron i'n Canton, Caerdydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Daeargryn yn taro 'Lloegr'

Postiogan Jaff-Bach » Llun 03 Maw 2008 2:05 pm

Oni yn Leeds, ardal nath gyfri'r daergryn ar raddfa 4.7... oni yn y pyb a nathna neb sylwi, onin gyted pan nesi ffeindio allan dwi di isho bod mewn daergryn ers erioed a dyma fin methu fo!
'Ydi Myrddin ap Dafydd yn fab i Dafydd ap Gwilym?............'
Rhithffurf defnyddiwr
Jaff-Bach
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 198
Ymunwyd: Maw 31 Gor 2007 6:09 pm
Lleoliad: Llan Ffestiniog/Leeds


Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron