Mae'r papurau newydd bore ma yn llawn straeon am y ddaeargryn a darodd ardaeloedd helaeth o 'Loegr' o gwmpas un o'r gloch y bore, ond roedd y ddaeargryn hefyd i'w deimlo yma yn Sir Conwy.
Teimlodd unrhyw un arall y ddaeargryn?
Cymedrolwr: Mr Gasyth
Prysor a ddywedodd:Pan darodd y daeargyn yma, am un o gloch y bore, roeddwn yn gweithio ar y cyfrifiadur, a fo oedd yr unig un oedd yn ddeffro yn y tŷ. Meddyliais mai'r dŵr yn y tanc immersion oedd yn berwi am fod y tân mor boeth (mae o'n berwi fel hyn weithia - jesd crescendo o swn byblo a rymblo trwm, sy'n swnio fel tren yn mynd heibio, ac yn para tua deg eiliad i gyd). Nes i feddwl ei fod o'n rhyfadd, gan ein bod wedi gadael i'r tân farw i lawr, heb roi mwy o lo arno, ers rhyw awr neu ddwy, ac felly ddim yn ddigon poeth i ferwi'r dŵr fel hyn.
Mr Gasyth a ddywedodd:Pan darodd y daeargyn yma, am un o gloch y bore, roeddwn yn gweithio ar y cyfrifiadur, a fo Dwi'm yn siwr os deimlais i'r daeargryn ai peidio achos ron i'n meddwl i mi glywed hofrenydd yn hedfan uwch y ty rywdro tra on i'n trio cysgu - mi alle fod yn hanner nos, mi alle fod yn ddau y bore. Ond doedd na'm cryndod nac ysgwyd o gwbl i deimlo - yn gwbl wahanol i pan deimles i un yn aberystwyth tua pum mlynedd yn ol (a sylwi'n syth be oedd o), felly dwi'm yn siwr am hwn wir.
Pryderi a ddywedodd:Mr Gasyth a ddywedodd:Pan darodd y daeargyn yma, am un o gloch y bore, roeddwn yn gweithio ar y cyfrifiadur, a fo Dwi'm yn siwr os deimlais i'r daeargryn ai peidio achos ron i'n meddwl i mi glywed hofrenydd yn hedfan uwch y ty rywdro tra on i'n trio cysgu - mi alle fod yn hanner nos, mi alle fod yn ddau y bore. Ond doedd na'm cryndod nac ysgwyd o gwbl i deimlo - yn gwbl wahanol i pan deimles i un yn aberystwyth tua pum mlynedd yn ol (a sylwi'n syth be oedd o), felly dwi'm yn siwr am hwn wir.
Yn rhyfedd iawn, glywais i hofrenydd hefyd, rhyw ddeg munud ar ol y ddaeargryn y noson o'r blaen. Ond dwi'n sicr nad hofrenydd achosodd y cryndod. Mae swn hofrenydd yn wahanol iawn i swn daeargryn a mae'n para'n hwy.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 38 gwestai