Duw a ddywedodd:Dwi newydd wedi cael brainwef - mae gennyf fyfyrwyr chweched dosbarth sy'n stryglo i ffeindio pynciau addas ar gyfer eu portffolios sgiliau allweddol (cyfathrebu, TGCh). Beth am ofyn iddynt greu wici yr un?
Dwi ddim yn gweld pam lai. Byddwn yn gofyn iddynt greu erthygl yr un a nid wici ei hun i ddechrau
Byddai'n well ei gynnig fel awgrym yn hytrach na dweud bod rhaid iddynt wneud, ohwerydd cryfder Wicipedia yw bod pobl pobl yn cyfrannu ato gan eu bod yn credu yn y cysyniad. Petai rhai'n gorfod gwneud a ddim eisiau, mae peryg iddynt ei
sbwylio'n fwriadol.
Duw a ddywedodd:Os oedd sawl Ysgol Gyfun Gymraeg yn gallu cael rhyw 50+ myfyriwr yr un i wneud cyfraniad, bydd cy.wicipedia.org yn chwyddo'n gyflym. Pwy a wyr, efallai bydde rhai o nhw am gyfrannu'n gyson ar ol y profiad cyntaf?
Mae rhai Wicipedias mewn ambell iaith yn creu targedau penodol fel (20,000 erthygl Catalaneg erbyn diwedd 2007 e.e.), felly byddai unrhyw gynnydd yn beth da, ond eto dim ond os yw pobl wir eisiau gwneud. Fel ti'n deud, efallai byddai ysgrifennu un erthygl yn annog nhw i wenud mwy ar ôl gwled pa mor hawdd ydi o.
Dwi hefyd yn meddwl bod sgôp i athrawon gyfrannu. Sut fyddai'r ffordd orau o geisio dod a rhywbeth fel hyn at sylw athrawon. Ydi aelodau UCAC yn derbyn cylchlythyr y gelli'r cynnwys erthygl ynddo, neu fyddai hynny ddim yn addas? Gelli'r trefnu (a byddwn i'n fodlon gwneud) bod arddangosfa/cyflwyniad ar sut i olygu'r Wicipedia ar gael i athrawon yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Be ti'n feddwl?