Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Y selogion yn cynnal gwasaneth yn y festri yn hytrach na'r capel mawr oer (rhatach o ran talu am wres...)-mwy addas ar gyfer cynulleidfa o tua dwsin...
Patrwm/arfer cyfarwydd iawn mewn nifer o gapeli Cymru?
Ie, dyna beth ry'n ni'n ei wneud. Mae gyda ni anferth o gapel sy ddim yn cael ei ddefnyddio o gwbl ar hyn o bryd. Fyse rhai pobl yn licio mynd yno i gynnal gwasanaethau ond dydi e jest ddim yn gwneud sens ar hyn o bryd. Fyswn i'n licio'i addasu mewn rhyw ffordd - ei wneud yn ddau lawr efallai - ond mae CADW wedi'i restru felly mae 'na gyfyngiadau ar beth allwn ni ei wneud.
Beth bynnag, nôl i Gaerdydd, mae sôn bod Salem Canton yn fywiog iawn. (Mae dwy flynedd ers ysgrifennu'r darn yna - dw i ddim yn gwbod beth yw'r sefyllfa erbyn hyn)