Wyt ti am greu ffilm fer ar gyfer DVD newydd?

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Wyt ti am greu ffilm fer ar gyfer DVD newydd?

Postiogan Rhodri Nwdls » Llun 06 Awst 2007 2:20 pm

Wel, dyma dy gyfle...

[o.n. dyw'r wefan ddim yn barod eto - ond bydd o mewn chydig wythnosau - yn y cyfamser...meddyliwch am syniadau a saethwch nhw!]
Golygwyd diwethaf gan Rhodri Nwdls ar Sul 30 Medi 2007 6:07 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Rhodri Nwdls » Sul 30 Medi 2007 6:02 pm

Mae Tu Chwith a Pictiwrs yn chwilio am ffilmiau byrion amrywiol ar gyfer DVD aml-gyfrannog.

Felly, mae ganndoch chi syniad/ffilm - be di'r cam nesaf? Dyma ganllaw byr tuag at gynhyrchu eich ffilm a beth fyddwn ni ei angen.

Delwedd
[cliciwch yma i weld fersiwn fwy o'r poster]

Beth?

Rydyn ni'n chwilio am ffilmiau byrion o bob math ar gyfer y DVD: dogfennol, arbrofol, ffuglennol neu gelfyddydol. Bydd y DVD wedyn yn cael ei ddosbarthu gyda Tu Chwith ac yna'n eang i sinemâu a chymdeithasau ffilm ledled Cymru.

Canllawiau
  • Rhaid i'r ffilm fod yn llai na 10-munud o hyd ar y thema newid (wel, yn eitha llac ar y thema newid!).
  • Rhaid i unrhyw ddeialog yn y ffilm fod yn y Gymraeg.
  • Rhaid i chi fod wedi clirio'r hawliau ar gyfer y ffilm, a galli profi hyn pe bai'r angen yn codi (gweler isod).
  • Rhaid iddo'n cyrraedd ni erbyn y 19eg Tachwedd 2007.

Lle ddyliwn i ei anfon?

90 Heol y Prior, Caerfyrddin, SA31 1NU

Fformat

Dylech anfon eich ffilm un ai ar fformat tâp MiniDV, neu ffeil Quicktime. Y ddau fformat hyn fydd yn sicrhau y byddwn yn gallu eu rhoi ar y DVD yn ddi-drafferth, ac y bydd safon y llun yn trosgwlyddo'n ddigon da i'r DVD.

Os cewch broblem gyda hyn yna gadewch i ni wybod ac fe driwn ni ffeindio ateb.

Sut i fynd ati i wneud ffilm fer?

Mae yna sawl gwefan sydd yn rhoi cyngor ar sut i fynd ati i sgwennu a saethu ffilm fer, ond dyma rai esiamplau:

Clirio Hawlfraint

Er mwyn i'ch ffilm fod yn gymwys ar gyfer ei gynnwys ar y DVD ac ar gyfer gallu ei ddangos yn gyhoeddus bydd angen i chi sicrhau fod pob person sydd yn cyfrannu, boed ar y sgrin neu o ran eich cerddoriaeth wedi arwyddo ffurflenni rhyddhau.

Mae hyn yn hollbwysig fel na fyddwch chi (a Pictiwrs a Tu Chwith!) yn gallu cael eu hatal rhag dangos y ffilm (neu hyd yn oed eich siwio mewn achosion gwael) os nad oes gennym ni hawl i'w dangos. Dylech chi allu darparu copiau o'r rhain i Pictiwrs/Tu Chwith os caiff eich ffilm ei dewis ar gyfer y DVD.

Mae'r broses yn un syml iawn, cyn belled eich bod yn ei wneud yn systematig wrth wneud eich ffilm a defnyddio rhai o'r templadau isod.

Adnoddau Hawlfraint

Gallwch lawrlwytho esiampl o ffurflenni rhyddhau o wefan Current TV (bydd angen newid y testun rhywfaint) neu ebostiwch fi (rhodri [at] pictiwrs [dot] com) ac fe allaf i anfon esiampl arall atoch chi.

Mae tudalen ar wefan BBC Film Network sy'n mynd i ragor o fanylder am hyn, ond y peth pwysicaf i'w wneud yw i gael pawb sy'n gweithio ar y ffilm i arwyddo un.

Cerddoriaeth

Bydd angen i chi wneud yr un peth am gerddoriaeth eich ffilm os yw'r gerddoriaeth wedi cael ei gyfansoddi gan unrhywun arall.

Ond mae hi'n bosib dod o hyd i gerddoriaeth sy'n rhydd o hawlfraint hefyd. Mae Moby er enghraifft wedi rhoi tipyn o'i gerddoriaeth o ar-lein ar Moby Gratis yn arbennig ar gyfer defnydd mewn ffilmiau.

Yn ychwanegol, dwi'n siwr na fuasai gan bandiau Cymraeg newydd wrthwynebiad i chi ddefnyddio eu cerddoriaeth ar eich ffilm cyn belled eich bod yn gofyn chi'n neis iddyn nhw! Does dim byd yn bod â thrio nacoes, ac mae MySpace yn gwneud hi'n haws nac erioed i gysylltu â band. Dyma'r rhestr gwefannau MySpace gan fandiau Cymraeg.

Mae gan wefan Britfilms y Cyngor Prydeining dudalen sy'n ceisio amlinellu hawlfrieniau a cherddotriaeth ar gyfer ffilm.

Help! Dwi dal ddim yn dallt!

Os oes ganddoch chi unrhyw gwestiwn pellach ynglŷn â'r DVD neu am sut i fynd ati i wneud ffilm fer fe driwn ni ein gorau i roi cyngor, neu o leiaf i ffeindio arbennigwr all wneud hynny!

Cysylltwch yn y blwch sylwadau fama, neu anfonwch ebost at rhodri [at] pictiwrs [dot] com neu ffonio 07855 362206.

Ac yn ola dyma ddau ddyfyniad gan Hitchcock sy'n addas ar gyfer ffilmiau byr yn fy marn i:

Alfred Hitchcock a ddywedodd:Drama yw bywyd efo'r holl ddarnau diflas wedi eu torri allan

Alfred Hitchcock a ddywedodd:The length of a film should be directly related to the endurance of the human bladder.

Joiwch!
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 16 Tach 2007 12:37 pm

*bwp*
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan SerenSiwenna » Gwe 16 Tach 2007 12:51 pm

Diddorol iawn, mi wnes i weld hwn ac roedd gen i syniad bach ond dwi erioed di gwneud dim fel yma or blaen ac does dim camera fideo gen i yn bersonnol (nabod pobl hefo nhw).

Dwi'n meddwl fod en gret bo chi di fynd ati i'w hesbonio'n mor fanwl fan hyn - os oedd yna amser i mi wneud rwan mi fyswn i wedi fynd ati i drio.

Gawsoch chi llawer ohonnyn nhw? Amrywiaeth da? Pryd fydd y rhai wedi ei dewis yn cael ei darlledu?

A yw hyn yn "one off" neu fydd hyn yn peth "on going" gan Tu Chwith? Ellwch postio'r thema a dyddiad cau nesa fan hyn a gawn ni gyd cadw golwg allan am yr hysbyseb! 8)
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 16 Tach 2007 3:45 pm

SerenSiwenna a ddywedodd:Diddorol iawn, mi wnes i weld hwn ac roedd gen i syniad bach ond dwi erioed di gwneud dim fel yma or blaen ac does dim camera fideo gen i yn bersonnol (nabod pobl hefo nhw).

Dwi'n meddwl fod en gret bo chi di fynd ati i'w hesbonio'n mor fanwl fan hyn - os oedd yna amser i mi wneud rwan mi fyswn i wedi fynd ati i drio.

Gawsoch chi llawer ohonnyn nhw? Amrywiaeth da? Pryd fydd y rhai wedi ei dewis yn cael ei darlledu?

A yw hyn yn "one off" neu fydd hyn yn peth "on going" gan Tu Chwith? Ellwch postio'r thema a dyddiad cau nesa fan hyn a gawn ni gyd cadw golwg allan am yr hysbyseb! 8)

Piti Seren. Be am wneud ffilm eniwe? Neith Pictiwrs neud yn siwr fod o'n cael cynulleidfa, hyd yn oed os nad ydi o'n dod ar y DVD yma.

O ran ymateb, dwi'n gwybod am sawl un sydd ar ei ffordd mewn *IEI!*

Gawn ni weld wsnos nesa de...

Fyddan nhw ddim yn cael eu darlledu ar y teli, jest mewn dangosiadau ffilm ac ar y DVD (am y tro).

One-off ydi hwn ar hyn o bryd ond os mae'r ymateb yn dda, yna dwi ddim yn gweld rheswm pam na ddylia ni allu gwneud un arall ymhen blwyddyn. Sna'm digon o bobol yn gneud ffilmia yn y Gymraeg ar hyn o bryd i wneud yn amlach na hynny dwi'm yn meddwl.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan SerenSiwenna » Gwe 23 Tach 2007 1:02 pm

Oooo, wedi bod yn darllen yn Golwg am y Rel Institiwt - edrych fel noson dda....rhyw hybrid o fynd ir pictiwrs, mynd i barti ty rhywun a mynd i ffair....ydy'r cacennau yn rhai wedi-ei-wneud-cartref? hoffi'r syniad o hynna.

Hmm, alla i teimlo fy inner-Dawson Leary yn codi ynddo fi :P
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Re: Wyt ti am greu ffilm fer ar gyfer DVD newydd?

Postiogan Rhodri Nwdls » Llun 10 Maw 2008 11:00 pm

Gyda llaw...mae'r DVD yma ar fin mynd off i ffatri rwla i gael ei ddyblygu'n barod i fynd allan gyda'r rhifyn nesaf o Tu Chwith. Bydd copiau ar gael hefyd i unrhyw bobol sydd isio eu dangos nhw (er bydd rhaid gofyn caniatad cyn gwneud hynny).

Mae 6 ffilm ar y DVD, ambell ffefryn ac ambell un newydd. Gobeithio byddwn ni'n cynnal ambell i ddangosiad drosGyrmu i'w lansio...rhagor o fanylion yn fuan iawn :)
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Wyt ti am greu ffilm fer ar gyfer DVD newydd?

Postiogan SerenSiwenna » Maw 11 Maw 2008 1:30 pm

Rhodri Nwdls a ddywedodd:Gyda llaw...mae'r DVD yma ar fin mynd off i ffatri rwla i gael ei ddyblygu'n barod i fynd allan gyda'r rhifyn nesaf o Tu Chwith. Bydd copiau ar gael hefyd i unrhyw bobol sydd isio eu dangos nhw (er bydd rhaid gofyn caniatad cyn gwneud hynny).

Mae 6 ffilm ar y DVD, ambell ffefryn ac ambell un newydd. Gobeithio byddwn ni'n cynnal ambell i ddangosiad drosGyrmu i'w lansio...rhagor o fanylion yn fuan iawn :)

Eh? Pryd mae'r rhifyn nesaf o Tu Chwith? Dwi heb clywed/ gweld dim yn gofyn am cyfraniadau?! :ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Re: Wyt ti am greu ffilm fer ar gyfer DVD newydd?

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 11 Maw 2008 3:23 pm

SerenSiwenna a ddywedodd:

Ddylia fo fod allan ddiwedd y mis dwi'n meddwl. Dwinna ddim wedi gweld galwad am gyfraniadau ar y maes chwaith.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Wyt ti am greu ffilm fer ar gyfer DVD newydd?

Postiogan SerenSiwenna » Llun 17 Maw 2008 12:25 pm

Rhodri Nwdls a ddywedodd:
SerenSiwenna a ddywedodd:
Rhodri Nwdls a ddywedodd:Gyda llaw...mae'r DVD yma ar fin mynd off i ffatri rwla i gael ei ddyblygu'n barod i fynd allan gyda'r rhifyn nesaf o Tu Chwith. Bydd copiau ar gael hefyd i unrhyw bobol sydd isio eu dangos nhw (er bydd rhaid gofyn caniatad cyn gwneud hynny).

Mae 6 ffilm ar y DVD, ambell ffefryn ac ambell un newydd. Gobeithio byddwn ni'n cynnal ambell i ddangosiad drosGyrmu i'w lansio...rhagor o fanylion yn fuan iawn :)

Eh? Pryd mae'r rhifyn nesaf o Tu Chwith? Dwi heb clywed/ gweld dim yn gofyn am cyfraniadau?! :ofn:

Ddylia fo fod allan ddiwedd y mis dwi'n meddwl. Dwinna ddim wedi gweld galwad am gyfraniadau ar y maes chwaith.

NAg yn ninlle arall ychwaith...ac mi wnes i cyfrannu i'r rhifyn diwethaf :crio: Unrhywun yn gwybod beth yw thema y rhifyn nesa'?
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Nesaf

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Google [Bot] a 13 gwestai