gan Seonaidh/Sioni » Iau 13 Maw 2008 9:37 pm
Does 'na ddim byd o'i le efo "Prydeindod" - mae'n golygu pobl sy ddim yn malio am bethau gwirion fel rhoi llw dros neb, sy'n ymarfer "live and let live", sy ddim yn cefnogi rhyfelau mewn gwledydd pell - mewn gwirionedd, er mwyn bod yn "Brydeinydd" mae rhaid OSGOI popeth fel rhoi llw, codi jax yr undeb ac ati. Nid "Prydeinydd" neb sy'n rhoi llw i'r cwyn (wel, cwin). Jax yr undeb? Mae hyn yn ddilys am y saltire hefyd - bunch o bobl reit ofnadwy sy gennym ni yn yr Alban rwan. Duw arbedo'r cwin a'i fascist regime, fel maen nhw'n dweud. Mae'r holl syniad yn erbyn sosialaeth yn fy marn i.
A bheil thu gam aithneachadh?