Cerddoriaeth i'r Briodas Gymreig

Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu.

Cymedrolwr: Norman

Rheolau’r seiat
Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cerddoriaeth i'r Briodas Gymreig

Postiogan Emyr Rhys » Gwe 22 Chw 2008 8:15 pm

Delwedd

http://www.traciaucymraeg.co.uk/priodas

Y Briodas Gymreig (Aran 514)
gyda Huw Williams (organ) a Carys Owen (telyn)

Organydd Cadeirlan Sant Paul a Thelynores Gwerin yn rhyddhau CD i ddathlu Dydd Gw^yl Dewi

Mae CD o gerddoriaeth Gymreig ar gyfer seremonïau priodasol yn cael ei ryddhau ar Fawrth y cyntaf gan Organydd Cadeirlan Sant Paul, Huw Williams a’r delynores gwerin, Carys Owen. Gyda’r tŵf mewn gwasanaethau sifil, a’r dymuniad i bersanoleiddio’r gwasanaethau mae cryno ddisgiau priodasol wedi dod yn hynod boblogaidd.

Hwn yw’r CD cyntaf o’i fath i gynnig y cyfle i’r priodfab a’r briodferch mynegi eu hunaniaeth Gymreig. Mae’r darnau arni yn cynnwys alawon gwerin serch i’r delyn mewn trefniadau gan Nansi Richards - Telynores Maldwyn a John Thomas - Pencerdd Gwalia a chyfansoddiadau gwreiddiol i’r organ gan Karl Jenkins a William Mathias.
Rhithffurf defnyddiwr
Emyr Rhys
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 3
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 11:45 am

Re: Cerddoriaeth i'r Briodas Gymreig

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 22 Chw 2008 9:54 pm

Wnes i glywed am hwn ar Y Post Prynhawn. Swnio'n ddiddorol.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Cerddoriaeth i'r Briodas Gymreig

Postiogan Emyr Rhys » Sul 09 Maw 2008 10:19 pm

Oes gan unrhyw un syniadau pellach ynglun a gerddoriaeth Gymreig ar gyfer priodasau ?
Rhithffurf defnyddiwr
Emyr Rhys
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 3
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 11:45 am

Re: Cerddoriaeth i'r Briodas Gymreig

Postiogan S.W. » Mer 12 Maw 2008 12:54 pm

Emyr Rhys a ddywedodd:Oes gan unrhyw un syniadau pellach ynglun a gerddoriaeth Gymreig ar gyfer priodasau ?


Priodas sifil ges i felly doedd dim modd cael unrhyw emynau na chaneuon a neges crefyddol ynddynt. Bu i ni gael deuawd telyn a ffliwt i chwarae alawon traddodiadol fel 'Ar Lan y Mor' (roeddwn i'n priodi mewn gwesty ar lan y mor).
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re: Cerddoriaeth i'r Briodas Gymreig

Postiogan Emyr Rhys » Iau 03 Ebr 2008 11:19 am

Dyna ydy'r trefn arferol, ond mae'n bosib defnyddio'r cerddoriaeth ar y casgliad uchod mewn seremoni sifil. Mae hyd yn oed 'Hymn' gan Karl Jenkins yn Ok gan bod y geiriau iddi yn yr iaith 'speaking in tongues' yna mae KJ yn defnyddio trwy llawer o'i waith, ac felly heb neges crefyddol.
Rhithffurf defnyddiwr
Emyr Rhys
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 3
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 11:45 am


Dychwelyd i Cell Gymysg Gerddorol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron