Howdi dw,
Cais am luniau sleeveface â gogwydd Cymraeg ar gyfer hoff ffansin bysgod Cymru...
I greu sleeveface, byddwch chi angen clawr LP neu CD sy'n dangos wyneb/ neu rhan arall o'r anatomi ddynol, a'ch wyneb/ anatomi chi (neu rhywun arall!) Defnyddiwch y clawr i orchuddio'r man priodol, et voila - sleeveface!
Ma gyda ni lond dwrn o sleevefaces Cymraeg, ond byddei'n neis casglu rhagor, felly os allwch chi gyfrannu, gyrrwch e-bost i siarcmarw AT yahoo DOT co DOT uk erbyn Mawrth 25ain, ac fe brintiwn ni'r lluniau yn rhifyn Ebrill y Ffansin.
Mae gan sleeveface grwpiau ar flickr, a facebook, os chi ffansi laff