CD vs MP3

Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu.

Cymedrolwr: Norman

Rheolau’r seiat
Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

CD vs MP3

Postiogan Felin » Iau 13 Maw 2008 12:44 pm

Gen i gwestiwn.

Ydi cael cd yn eich dwylo yn bwysig i chi ta fasa chi'n hapus prynu album fel dowloads oddi ar itunes a ballu?
Am wn i fod on dibynu os ganddo chi gyfrifiadur a chwaraewr mp3.
Mae haner fi yn deud prynu cd i gael y gwaith celf ond mae'r haner arall yn dweud mp3 achos sgen im lle i roi fwy o cd's, unwaith ti am edrych ar y cas a dwi am ei roi o ar fy nghyfrifiadur a chwaraewr mps eniwe.
Cwestiwn dilus i'r sin Gymraeg gan gysidro cost gwneud cds i gymharu efo defnyddio itunes a.y.y.b i ryddhau cynyrch?

Be di eich barn chi?
Rhithffurf defnyddiwr
Felin
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 33
Ymunwyd: Mer 24 Maw 2004 2:26 pm

Re: CD vs MP3

Postiogan garynysmon » Iau 13 Maw 2008 1:12 pm

Tydi o 'rioed wedi fy mhoeni i cael y CD yn fy llaw. Chydig iawn o CD's sydd gen i, tra fod fy nisg galed yn llawn.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: CD vs MP3

Postiogan Gwilym » Iau 13 Maw 2008 2:22 pm

Mae MP3s yn shait. I rhywun sy'n recordio does na ddim byd gwaeth na goro confyrtio i MP3s. Mae hyd yn oed 320kbps yn gyrglan ac yn popian. Ddylse fod 'na fformat sy ddim yn cywasgu cymaint o'r data. Mae o'n warthus fod iTunes yn gwerthu cerddoriaeth mewn fformat sydd mor amlwg yn effeithio ar ansawdd y sain. Jest meddylwich, mae 'na genhedlaeth o wrandawyr sy'n dod i arfer hefo'r safonau crap 'ma, a byth yn cwestiynu os ydan nhw'n cael gwerth eu harian. It's a big con! rant, rant, rant . . . :ing:
traciau newydd Drymbago ayyb:
http://www.caneuon.com
Rhithffurf defnyddiwr
Gwilym
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Mer 23 Meh 2004 4:55 pm
Lleoliad: Bangor

Re: CD vs MP3

Postiogan Ramirez » Iau 13 Maw 2008 2:29 pm

Gwilym a ddywedodd:Mae MP3s yn shait. I rhywun sy'n recordio does na ddim byd gwaeth na goro confyrtio i MP3s. Mae hyd yn oed 320kbps yn gyrglan ac yn popian. Ddylse fod 'na fformat sy ddim yn cywasgu cymaint o'r data. Mae o'n warthus fod iTunes yn gwerthu cerddoriaeth mewn fformat sydd mor amlwg yn effeithio ar ansawdd y sain. Jest meddylwich, mae 'na genhedlaeth o wrandawyr sy'n dod i arfer hefo'r safonau crap 'ma, a byth yn cwestiynu os ydan nhw'n cael gwerth eu harian. It's a big con! rant, rant, rant . . . :ing:


Mor wir. Y broblam ydi bod hi'n amhosib cynnig safon well heb neud y ffeils lot mwy. Mae fasa trac WAV ansawdd-CD lot lot lot mwy na MP3, ac os di'r cwmniau'n brolio bo chdi'n gallu ffitio 6,000,000,000 can ar dy IPod, yna ma pawb isho 6,000,000,000 can arno fo, a dim otsh am y safon.

Ma'n biti fod safon CD yn is na safon y recordiad gwreiddiol i ddechra, ond ma'r cam nesaf i MP3 yn boen go iawn. Dwin meddwl fod 'standard' CD, sef ffeils 16/44.l, wedi ei osod yn rhy gynnar tra oedd y dechnoleg ddigidol ddim digon parod.

Digri fyd, achos dyma'r union ddadl, o ran gwaith celf a ballu, goddodd yn amal wrth i betha gal eu scalio lawr o vinyl i CD. Eniwe, ma CD yn swnio'n well na MP3, a ma vinyl yn swnio'n well na CD. Ond amwni os na oesna speakers da i chwara, tydi'r gwahaniaeth ddim mor amlwg, felly mae MP3 yn fwy na digon i rhan fwyaf o sefyllfaoedd.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam


Dychwelyd i Cell Gymysg Gerddorol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Google [Bot] a 3 gwestai