1. Ble fyddwch chi am 5 o'r gloch fory?
5am yn godro'r da a 5pm yn cal fy nghodro gobitho
2. Beth oedd y peth dwetha i wneud i chi gyffroi fel plentyn ar Ddydd Dolig?
Beth ne' pwy? Ma'r cwestiwn 'ma yn rhy bersonol os ifi'n ei ddeall e'n iawn
3. Beth fydd y daith nesa' i chi fynd arni?
Wi'n mynd i Salszburg i weld lle ffilmon nhw 'Sound of Music' gyda fy ffrind gore - Esther Gwynfor
4. Fel pwy fyddech chi'n mynd i barti gwisg ffansi?
Y Baroness Elsa Schraeder mas o'r 'Sound of Music' - dyna iti fenyw; byset ti ddim yn ei gweld hi yn gwisgo cyrtens ac yn pransan rownd Awstria a'r holl blydi blant 'na o'i chwmpas hi.
5. Pwy yw'ch arwr ar hyn o bryd?
Paris Hilton