Cernyweg/Kernewek

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Cernyweg/Kernewek

Postiogan Seonaidh/Sioni » Llun 03 Maw 2008 7:31 pm

yavannadil a ddywedodd:Nid Cymro ydw i, ond dw i'n credu bod rhaid beidio â gwastraffu amser ag egni ar adfywio'r Gernyweg. Mae well i bobl Gernyw siarad y Gymraeg, dw i'n meddwl.
Pam ddylent nhw gan nid Cymry ydyn nhw? Cwestiwn da iawn! Roedd Rheged yn wahanol â Dyfed (ond nid i'r Sais).

Anghytunaf. Beth am geisio esbonio i'r Albannwr neu i'r Geordie na ddylen nhw'n siarad Scots neu Geordie gan fod cymaint o bobl yn eu hardaloedd yn siarad Saesneg Safonol erbyn hyn? Ac, wrth gwrs, dim ond rhyw dafodiaith o Ffriseg ydy'r Saesneg - dylai pob Sais yn siarad Ffriseg. "Arhoswch, mae'r coetsmon wedi cael ei daro gan fellt!" Mae hyn yn debyg i ddweud wrth blant y Sorbiaid ayb yn yr Almaen na ddylen nhw ddysgu hen iaith eu cynrieni ond dylen nhw ddysgu Pwyleg yn ei lle. Ni arferid Cymraeg erioed yng Nghernyw, nid tafodiaith Gymraeg mo'r Gernyweg. 'S e canan Ceilteach eile a th' innte. Mura bhi na Cornaich a' bruidhinn Cornis, bidh iad a' bruidhinn Beurla. Cha bhi iad a' bruidhinn Cuimris idir. Tuig?
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Cernyweg/Kernewek

Postiogan Gwenci Ddrwg » Maw 04 Maw 2008 12:02 am

Ia dwi'n anghytuno hefyd. Ieithoedd wahanol ydy Cymraeg a Chernyweg, dwi'm yn deall sut mae Cernyweg yn rhyw tafodiaith o Gymraeg yn y le cyntaf. Tafodiaith o ryw hynafiad efallai ond does gan y Gymraeg fodern gyswllt uniongyrchol i Gernyw heddiw. Ac hyd yn oed os ydy Cernyweg wedi bod yn farw yn y gorffennol wel jest oherwydd hynny pam ddylen nhw beidio'i siarad hi ar hyn o bryd? Gallwn ddeall dy ddadl mewn cyd-destun lle mae gan Gernyw dewis rhwng Saesneg a Chymraeg (yn unig), yna yn amlwg buasai'r ail yn gwell, ond wrth gwrs yn nhirwedd mae gynnon nhw ddewis arall: Cernyweg, a buasai hynny'n well 'nag unrhywbeth arall yn fy marn i. Opsiwn ydy hi, a dylen nhw ddim wastraffu cymaint o amser gan ail-ladd iaith mae nhw newydd adfywio. Mae gormod o waith wedi cael ei wneud arni.

'S e canan Ceilteach eile a th' innte. Mura bhi na Cornaich a' bruidhinn Cornis, bidh iad a' bruidhinn Beurla. Cha bhi iad a' bruidhinn Cuimris idir. Tuig?

Carson nach eil a theachdaireachd sin ann an Cuimris? Tha mi a'còrdadh leat air-e-son ach uill...tha iomadaidh daoine ann gun Gàidhlig sam bith.
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: Cernyweg/Kernewek

Postiogan yavannadil » Maw 04 Maw 2008 6:32 am

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:"Arhoswch, mae'r coetsmon wedi cael ei daro gan fellt!"

Be?
Seonaidh/Sioni a ddywedodd: Mae hyn yn debyg i ddweud wrth blant y Sorbiaid ayb yn yr Almaen na ddylen nhw ddysgu hen iaith eu cynrieni ond dylen nhw ddysgu Pwyleg yn ei lle.

Mae 40000 yn siarad hornjoserbska rěč, a tua 15000 - dolnoserbšćina. Faint o bobl sy'n siarad pedair Cernyweg i gyd?
Dychmygwch bod hornjoserbšćina yn farw am tri chant o flynyddoedd, Serbia wedi ei goncro gan yr Almaen a Serbeg yn ymladd am fywyd yn erbyn yr Almaeneg, gan dim ond 20% o Serbiad siarad yr iaith. Pe tasai hyn yn wir, baswn i dweud: paid ag adwyfio y marw, cynorthi y byw!
Seonaidh/Sioni a ddywedodd: Ni arferid Cymraeg erioed yng Nghernyw, nid tafodiaith Gymraeg mo'r Gernyweg.

Erioed? Heb Guaith Caer Legion a Brwydr Deorham cawn ni un iaith Brythoneg o'r gogledd i'r de.
Fel dwedais i, edrychwch ar Gymraeg Canol.
Seonaidh/Sioni a ddywedodd: 'S e canan Ceilteach eile a th' innte. Mura bhi na Cornaich a' bruidhinn Cornis, bidh iad a' bruidhinn Beurla. Cha bhi iad a' bruidhinn Cuimris idir. Tuig?

Emaoc'h o komzañ iwerzhoneg pe gouezeleg Skos?
yavannadil
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 43
Ymunwyd: Sul 17 Chw 2008 9:37 pm
Lleoliad: Mosgo

Re: Cernyweg/Kernewek

Postiogan Seonaidh/Sioni » Maw 04 Maw 2008 8:34 am

Wel, ne gomzan ket ar vrezhoneg, siwazh. Mae llawer o bobl, yn arbennig yn yr Alban, sy'n credu bod ceisio cadw Gaeleg yn fyw yn wastraff amser, gan nad oes ond rhyw 60,000 o bobl sy'n ei siarad, o fewn poblogaeth o ryw 6 miliwn yn yr Alban, h.y. efallai 1%. Ac yna:-

"Mae 40000 yn siarad hornjoserbska rěč, a tua 15000 - dolnoserbšćina."

h.y. llai na 60,000 - o fewn poblogaeth o dros 60 miliwn yn yr Almaen! "Gad iddyn fwyta teisen" (Marie Antoinette), h.y. mae'r iaith bron marw, paid a'i hadfywio, os am siarad rhywbeth yn hytrach nag Almaeneg, yna dewis Pwyleg. Mewn effaith, dyna beth rwyt ti'n ddweud wrth y Cernywiaid - "Iaith farw ydy hi - dewis Gymraeg yn ei lle". Dim siawns am hynny! 'Sai hynny'n debyg i bobl Dulyn yn dewis siarad Islandeg, gan fod y ddinas 'na yn nwylo'r Feicingiaid ar un adeg.

Ac, wrth gwrs, gan fod Sbaeneg, Gwyddeleg, Rwsieg, Wrdw, Groeg, Ffrangeg, Daneg ayb i gyd wedi dod o'r un gwreiddyn, dim ond tafodieithoedd ydyn nhw a dylem ni i gyd beidio a'u siarad ac yn troi at, wel, at be? Ffarsi?
Lladin? Gotheg? Cernyweg Canol? Tosk? Esperanto? Neu fallai dylai pobl Gorllewin Ewrop i gyd fabwysiadu Euskera...

Mae ieithoedd yn newid drwy amser, yn datblygu, yn ehangu, yn diflannu, ac nid oes i ni ddweud be dylai neu na ddylai gael ei siarad yn unman. Un peth ydy hybu iaith, peth arall ydy gorfodi iaith.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Cernyweg/Kernewek

Postiogan yavannadil » Maw 04 Maw 2008 9:07 am

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:h.y. mae'r iaith bron marw, paid a'i hadfywio, os am siarad rhywbeth yn hytrach nag Almaeneg, yna dewis Pwyleg. Mewn effaith, dyna beth rwyt ti'n ddweud wrth y Cernywiaid - "Iaith farw ydy hi - dewis Gymraeg yn ei lle".


Mae gwahaniaeth mawr rhwng "bron marw" a "marw". Ni ŵyr neb sut ddylai Cernyweg Cyfoes yn swnio yn union. Mae ofn arna i, does gan neb mam-gi sy'n siarad Cernyweg fel mam-iaith. Ac i fi, Rwsiaid, mae Cymry a'r Cernywiaid yn yr un bobl.

Dychmygwch cafodd Israel ei trechu gan Rhufeiniad, ond parhaodd Iudæa fel gwlad Iddewon. Ac nawr penderfynodd Iddewon sy'n byw yn UDA, yr Almaen, Rwsia (a siarad Saesneg, Almaeneg, Rwsieg) ac ati dod yn ôl i Israel. Pa iaith ddylwn nhw siarad? Adfywio hen iaith neu dysgu iaith cyfoes eu brodyr?

O lleiaf dydw i ddim yn awgrymu newid Gaeleg i Gymraeg :)
yavannadil
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 43
Ymunwyd: Sul 17 Chw 2008 9:37 pm
Lleoliad: Mosgo

Re: Cernyweg/Kernewek

Postiogan Gwenci Ddrwg » Maw 04 Maw 2008 11:48 pm

Gwybodaeth ddiddorol go iawn:


*Mae Hebraeg wedi bod yn iaith farw yn y gorffennol (ers tua 2 500 (!!!) o flynyddoedd dwi'n credu). Heddiw mae hi'n cael ei siarad gan rhyw 7 miliwn o bobl fel iaith swyddogol Israel. Beth, ddylen nhw golli Hebraeg a dysgu Arabeg (iaith debyg) yn ei lle jest oherwydd "iaith fodern" ydy hi??

*Mae Manaweg wedi bod yn agos iawn i farwolaeth hollol. Heddiw mae'r rhan fwyaf o'i siaradwyr yn ifanc a mae'r iaith yn tyfu. Tua 2/3 siaradwyr -> 1700 siaradwyr mewn sbel byr. Ond wrth gwrs ddylen nhw diddymu eu gwaith, colli Manaweg a chychwyn dysgu Gwyddeleg, iaith heb gyswllt i Ynys Fanaw ers bron 1000 o flynyddoedd.

IE: Pan mae iaith wedi "darfod", mae 'na siawns eto. Ac os oes gan yr iaith ddigon o bwys diwylliannol i'r bobl, maen nhw'n gallu (a ddylen nhw!) ei adfywio hi yn lle newid at iaith debyg ond heb gyswllt ddiwylliannol. Mae hwn wedi cael ei wneud eisoes gan bobl 'da hyd yn oed llai o gefnogaeth swyddogol. Meddylia amdani, dwi'm yn deall pam ddylai Cernyw ddim yn wneud yr un beth 'na nhw.

Ac i fi, Rwsiaid, mae Cymry a'r Cernywiaid yn yr un bobl.

Ia, ac ar ôl rhai bobl, Rwsiad = Serbiad = Wcrainiad, ac ati, dim ond yr un beth...blah blah blah. Felly ti'n anwybodus, yn sylfaenol... :ofn:

Dychmygwch cafodd Israel ei trechu gan Rhufeiniad, ond parhaodd Iudæa fel gwlad Iddewon. Ac nawr penderfynodd Iddewon sy'n byw yn UDA, yr Almaen, Rwsia (a siarad Saesneg, Almaeneg, Rwsieg) ac ati dod yn ôl i Israel. Pa iaith ddylwn nhw siarad? Adfywio hen iaith neu dysgu iaith cyfoes eu brodyr?

Fel dwedais i, does dim angen iddynt adfywio "hen iaith", mae hi wedi cael ei adfywio eisoes, yn effeithiol iawn hefyd, sy'n profi bod hi'n bosib i wneud. Penderfynodd Israel, ia, penderfynodd hi i siarad Hebraeg. Yr hen iaith. A mae hynny'n weithio'n eithaf da dwedwn i.
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: Cernyweg/Kernewek

Postiogan yavannadil » Sul 16 Maw 2008 5:02 pm

Gwenci Drwg a ddywedodd:Ia, ac ar ôl rhai bobl, Rwsiad = Serbiad = Wcrainiad, ac ati, dim ond yr un beth...blah blah blah. Felly ti'n anwybodus, yn sylfaenol...


Credi fi, dwyt ti ddim eiasia cael dy Wcrainiad/Belorwsiaid di hyn, sy'n bron siarad Rwsieg a chasau Pwyliad a Almaenwyr cyn cryfed ag uno gyda nhw dim ond erbyn Rwsiaid. Mae digon cael gwahaniaeth rhwng Gwynedd a Dyfed ;)

Cyn i di fy ngalw yn anwybodus, nodia mae fy nhadau-ci yn Rwsiaiad, un mam-gi yn Belorwses a mam-gi arall yn hanner Wcrainiad / hanner Pwyl.

Ond mae Gwenno Saunders yn canu yn gwych ac edrych yn well eto, a mae'r ffaith'ma yn esgusodi'r Gernyweg yn fy llygaid (a chlystau :)
Llongyfarchiadau am rygbi!
yavannadil
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 43
Ymunwyd: Sul 17 Chw 2008 9:37 pm
Lleoliad: Mosgo

Re: Cernyweg/Kernewek

Postiogan Gwenci Ddrwg » Llun 17 Maw 2008 2:29 am

Credi fi, dwyt ti ddim eiasia cael dy Wcrainiad/Belorwsiaid di hyn, sy'n bron siarad Rwsieg

Oce gan deud hynny wyt ti wedi profi fod di'n amhosib i gymryd yn ddifrif (tebyg = yr un beth...waw jest waw). Diolch, rwan does dim angen i mi ddal dadlau yn y fan hon. :)
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: Cernyweg/Kernewek

Postiogan yavannadil » Llun 17 Maw 2008 7:57 am

Gwenci Drwg a ddywedodd:Diolch


N'yma dda llo
(fel dwedir yng Nghyif :)
yavannadil
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 43
Ymunwyd: Sul 17 Chw 2008 9:37 pm
Lleoliad: Mosgo

Re: Cernyweg/Kernewek

Postiogan mabon-gwent » Gwe 21 Maw 2008 7:36 pm

Oes nwyddau i ddysgu'r iaith, mae geiriadur cernyweg da fi, ond wi ddim wedi gweld llyfr gramadeg neu unrhywbeth arall i helpu gyda'r dysgu.
Rhithffurf defnyddiwr
mabon-gwent
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 111
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2008 4:00 am

NôlNesaf

Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron