Mae plant yn fodau hygoelus ac yn derbyn yr hyn rydym yn ei ddweud wrthynt. Sion Corn, y Tylwyth Teg ... Duw! Er ein bod yn eu codi gyda'r celwydd hyn, gallwn eu cyfiawnhau gan eu bod yn cyfoethogi eu plentyndod gyda hud a llanw eu bywydau bregus gyda rhyfeddod.
Pan fydd yr amser yn dod, maen nhw'n barod i dderbyn taw ffuglen yn unig yw Sion Corn a'r Tylwyth Teg - ond beth am Ef? Rydym yn eu dychryn gyda goblygiad peidio â chredu ac mae rhai yn mynd mor bell a'u gwadu os ydynt yn mentro cwestiynnu bodolaeth yr Arglwydd. Rydym wedi gweld bod dim angen crefydd ar gyfer codi plant â moesau cyffredinol.
Na ddylai fod cyfyngiad oedran ar grefydd? Neb i orfodi crefydd ar blentyn nes ei fod digon hen i wneud ei feddwl ei hun i fyny (e.e. 18). A ydy'n gywir i orfodi plentyn diniwed i fod yn gaeth i ryw ddogma arbennig? Anoddefiad tuag at bobl hoyw a phobl o wahanol ffydd neu enwad, bedyddio plentyn cyn bod modd iddo wneud y dewis dros ei hun, ayyb. A ddylai'r llywodraeth wahardd crefydd ar gyfer ein ieuenctid? Neu a ydyw'n syniad hurt, rhag ofn i'r darpar oedolion ddarganfod y gwirionedd dros eu hunain a sicrhau bod crefydd yn syrthio o'r golwg?