gan Garreg Lwyd » Maw 24 Meh 2008 10:08 am
Wedi bod droeon (gan gynnwys ar fy mis mel) ac yn meddwl bod yr Ynys Hir yn nefoedd ar y ddaear. Mae angen pythefnos dda i werthfawrogi'r cyfan, ond fe allet ti ddewis gwneud rhan yn unig eleni, a mynd yn ôl eto flwyddyn nesa – dw i ddim yn meddwl y gweli di bopeth mewn un gwyliau.
Fe allet fynd mas o Uig ar ynys Skye i Lochmaddy gyda Cal Mac. Bydd angen i ti aros yn Taigh Chearsabagh, y ganolfan grefftau / gelfyddydau yn Lochmaddy cyn symud ymlaen – dwy oriel, siop ddifyr (adran lyfrau dda) a chaffi croesawgar. Yna, os wyt ti'n gyfoethog, cer i aros yng ngwesty Tigh Dearg yn Lochmaddy. Os wyt ti'n dlotach, ceisia gael ty hunan-arlwyo. Mae Gogledd Uist yn baradwys i adarwyr – Balranald, yn enwedig. Ond mae'r ynys i gyd yn rhyw le hanner tir-hanner dŵr, oherwydd bod cynifer o lynnoedd a lochans bach, heb sôn am yr arfordir trofaus. Gwerth mynd draw am Solas (Co-op da yma, ond, fel pobman arall, ar gau ar y Sul) a'r traethau tywod gwyn bendigedig. Cerdda draw i ynys Vallay pan fydd y llanw mas.
Greinitobh hefyd yn werth mentro mas iddo – does dim byd yno ond byd natur ar ei orau a llonyddwch i'r enaid.
Ymlaen â ti wedyn lawr yr ochr orllewinol gan obeithio ei bod hi'n glir fel y galli weld St Kilda ar y gorwel (adeg y machlud yw'r adeg gorau i'w weld).
Os wyt ti'n ffit, mentra ddringo i ben mynydd Eval, er mwyn cael golygfeydd ysgubol a phanoramic o'r holl ynysoedd a draw am Skye hefyd.
Lawr wedyn am Benbecula, ar draws y causeways – fan hyn, ac i bobman o'r de, fe gei di bethau ar agor ar y Sul. Unwaith eto, does dim byd penodol i'w weld – mae fyny i ti i ymgolli ym myd natur er mwyn cael mwynhad.
Mae'n werth gyrru'n hamddenol ar hyd De Uist i lawr i Eriskay i gael diod yn yr Am Politician, lle gellir gweld hen boteli wisgi hanes gwir Whisky Galore! Byddwn yn awgrymu hefyd y gallet fynd drosodd ar y fferi o Eriskay i Barra – ynys fach berffaith sy'n ryw fath o Hebrides in minature, yn ôl rhai.
Ond mae gen ti'r dewis o fynd o Ogledd Uist am y gogledd hefyd, a chroesi o Berneray draw i dde Harris – An Tobh. Mae Harris yn wyllt – mynyddoedd mawr, traethau dramatig ac mewn mannau, fel bod ar blaned arall! Gwerth galw gyda phobl sy'n gwneud Harris Tweed yn Plockrapol.
Nid y trefi yw'r cryfder – Tarbert yn lle digon cysglyd. Lewis yn fwy gwastad a llai deniadol ar un olwg – lle gwag iawn (er bod Uig yn y gorllewin yn drawiadol. Stornoway yn eitha difyr – yn sicr y dref fwyaf bywiog (yn enwedig ar nos Sadwrn!). Canolfan gelfyddydau ardderchog yma, serch hynny, An Lanntair.
Llawer mwy i'w ddweud – e.e. goleudy Butt of Lewis ac ardal Eoropie; Tolsta; ynysoedd bach fel Scalpay a Great Bernera.
Os wyt ti eisiau gwybod rhywbeth penodol, plis gofynna!
Ni leddir yr un genedl nac iaith onid gan ei phobl ei hun.
D. J. Williams