Cyfarfod Part. Cerddoriaeth - Blaenau 26.03.08

Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu.

Cymedrolwr: Norman

Rheolau’r seiat
Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cyfarfod Part. Cerddoriaeth - Blaenau 26.03.08

Postiogan SefydliadCerddoriaethGym » Mer 19 Maw 2008 4:01 pm

CYFARFOD PARTNERIAETH CERDDORIAETH GENEDLAETHOL:
CAMAU CADARN AR GYFER Y DYFODOL

Nos Fercher, Mawrth 26, 7yh – 9yh
Y Cwrt, Sgwar y Parc, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3AD

Dyma gyfarfod sy’n digwydd dwywaith y flwyddyn er mwyn hybu trafodaeth a magu cysylltiadau rhwng gwahanol sectorau o’r diwydiant cerddorol yng Nghymru, gyda’r bwriad o ddatblygu’r sin cerddorol ac i weithredu ar y pwyntiau sy’n cael eu codi yn y cyfarfodydd.

Dyma’ch cyfle i chi gael mewnbwn uniongyrchol i’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru – am y tro cyntaf fe fydd y cyfarfod ar agor i unrhywun fynychu.

Fe fydd Gwilym Morus, o’r Cynghrair Cyhoeddwyr a Chyfansoddwyr Cerddoriaeth Cymru, sydd newydd gael ei ffurfio yn sgil datblygiadau i daliadau PRS yn mynychu’r cyfarfod i esbonio ychydig am y gynghrair, beth mae’n gobeithio cyflawni ac i sôn am unrhyw ddatblygiadau diweddar am yr ymgyrch gyda PRS.

Mae mynediad i’r cyfarfod am ddim, ond mae angen cofrestru o flaen llaw. Gallwch gofrestru trwy e-bostio ymholiadau@welshmusicfoundation.com neu drwy ffonio 029 20494110
SefydliadCerddoriaethGym
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 82
Ymunwyd: Maw 03 Gor 2007 12:50 pm
Lleoliad: Cymru

Re: Cyfarfod Part. Cerddoriaeth - Blaenau 26.03.08

Postiogan SefydliadCerddoriaethGym » Iau 20 Maw 2008 4:39 pm

Delwedd
SefydliadCerddoriaethGym
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 82
Ymunwyd: Maw 03 Gor 2007 12:50 pm
Lleoliad: Cymru

Re: Cyfarfod Part. Cerddoriaeth - Blaenau 26.03.08

Postiogan SefydliadCerddoriaethGym » Maw 25 Maw 2008 2:32 pm

Yn anffodus mae'r cyfarfod yma wedi'i ohirio :ing: - gobeithio aildrefnu cyn bo hir
SefydliadCerddoriaethGym
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 82
Ymunwyd: Maw 03 Gor 2007 12:50 pm
Lleoliad: Cymru


Dychwelyd i Cell Gymysg Gerddorol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron