Dwi ddim yn credu mewn duw, ond...
* Dwi wedi darllen y beibl
* Cefais fy nwyn i fynu yn mynd i'r capel a'r ysgol Sul
* Mae fy ngwerthoedd/moesoldeb personol wedi'u ddylanwadu'n gryf gan gwerthoedd/moesoldeb Cristnogol
* Dwi'n edmygu safiad a bywyd Iesu Grist fel esiampl ac yn edrych lan ato fel eicon hanesyddol
* Mae stori'r Pasg (yn ol Efengyl Mathew yn enwedig) yn cael effaith mawr arnai
* Dwi'n teimlo'n gartrefol iawn bob tro dwi'n cerdded mewn i eglwys
Oes yna faeswyr arall sy'n teimlo'n debyg? Ydw i'n gallu meddwl amdan fy hyn fel Cristion Seciwlar (wedi'r cyfan, rydym yn clywed am Iddewon Seciwlar o hyd)? Neu ydw i jest am gael fy nheisen a'i fwyta fe ( ) fel petai?