Pam ddaeth Iesu i'r byd?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

Postiogan Foel Gornach » Gwe 22 Chw 2008 7:05 pm

sian a ddywedodd: Dw i ddim yn meddwl bod llawer o gysylltiad rhwng safbwynt ceribethlem uchod â Christnogaeth (yn ôl fy nealltwriaeth i - bosib bod Foel Gornach yn anghytuno) - a dim bod yn annymunol yw hynna!


Gwnes y sylwadau am syniadau’r gwyddonwyr er mwyn i wyddonwyr, fel ceribethlem, i weld bod yna lu o bosibiliadau gwyddonol nad ydynt yn treisio syniadau’r Efengyl. Nid dweud ‘dyma brawf’ neu ‘fel yma mae hi’ oedd fy mwriad. Mae yna ddirgelion lu yn y Cread sy’n cael eu hamlygu fwy-fwy yn yr oes wyddonol hon, ac mae yna fodd i’w cymhathu’n syniadol gyda’r Efengyl, hynny yw i bobol a meddyliau agored.

Nid wyf yn gwybod pa fath o le yw’r nefoedd nac uffern. Mae Iesu ac awduron yr HD a’r TN yn defnyddio delweddau o bob math. Ceir amrywiaeth mawr ynddynt sy’n awgrymu’n gryf nad yw’r manylion hynny i’w dehongli’n llythrennol. Mae’r ddau ‘le’ yn bodoli – ar ba ffurf? Ymbo (so i’n gwbod, dwn im, nis gwn). Fel y dywedais mewn cyfraniad uchod 'rwy'n ymddiried yn Nuw.

ceribethlem a ddywedodd:Mae'r syniad o bod yn dda (mewn unrhywbeth) yn un dymunol. Mae proffesiynoldeb a chyrraedd yr uchelfannau yn llonni unrhywun yn ei waith. Yn yr un modd mae ymddygiad da (above and beyond yr hyn sydd angen i oroesi) heb yn codi teimladau llon. Felly mae bod yn dda yn golygu fod nefoedd yn gyflwr corfforol o deimlo'n dda am fod yn berson dymunol.
Byddai rhywun anymunol ar y llaw arall yn un nad yw'n trystio neb am ei ymddygiad ei hun, ac felly'n ymgorffoli uffern drwy ei deimladau ef.


Iawn; fel y mae serial killer da yn teimlo'n dda am ei orchestion, a godinebwr da yn brolio yn ei gampau, a lleidr da yn teimlo'n wych ar ol cyflawni trosedd, a cyfalafwr da'n ymffrostio am y modd y mae wedi gwneud ei filiynnau ar draul tlodion byd etc, etc. Cytuno'n llwyr - bydd rhain yn teimlo'n gret yn mynd i'r bedd - ond yna ...

kez a ddywedodd:Y rhai drwg yn pydru yn Uffern am eu camweddau a ninna'n' canu'n braf yn y Nefoedd am fod yn fois da. Beth yw bywyd tragwyddol - fflyffan rownd fel rhyw anglyion ne 'be - 'sneb yn son am hwnna ond be' sy'n ein dishgwl ni go-iawn os yw'r Beibl yn iawn. Mae tragwyddoldeb yn uffach o amser hir i hedfan rownd y lle.


Unwaith eto rhaid synnu at lythrenoldeb pobol sy'n ymosod ar lythrenolwyr! Delweddau yn Llyfr y Datguddiad sy'n gyfrifol am rai o'r syniadau yma a ddatblygwyd yn yr Oesoedd Canol. Mae Llyfr y Datguddiad yn dweud fod Duw yn eistedd ar ei orsedd - delwedd (nid yw Ysbryd yn eistedd); dywed hefyd fod Iesu'n ymddangos fel oen wedi marw!!! - delwedd arall.

Pwysleisia’r ddysgeidiaeth am nefoedd ac uffern atebolrwydd. Rydym yn fodau rhydd â’r gallu i benderfynu drosom ein hunain ffordd y gweithredwn ac yr ymatebwn i gariad Duw – ond mae yna ganlyniadau i’n penderfyniadau. Mae Iesu’n pwysleisio’r dewis sylfaenol hwn drwy ddefnyddio gwahanol ddelweddau, e.e. Duw neu Mamon (duw materoliaeth), rhodio’r llwybr cul neu’r ffordd lydan, adeiladu tŷ ar y graig neu ar y tywod etc. Nid oes modd inni osgoi’r dewis na’r gorfodiad arnom i ateb i Arglwydd Bywyd am y dewis. Ffordd Iesu, sef ffordd cariad a maddeuant, ffordd tangnefedd a ffordd cyfiawnder, yw’r ffordd i deyrnas nefoedd.

Wrth sôn am y portread poblogaidd o Iesu yn y nef, nid fy mwriad oedd gwadu nad yw Iesu yn ei ogoniant, ond herio’r portread ohonno fel rhyw ymerawdwr Byzantaidd yn gwisgo coron aur yn llawn meini gwerthfawr gyda gwisg wedi ei goreuro etc etc. Mae yna wahaniaeth rhwng gogoniant a gogoniant! Yn anffodus mae’n syniadau ni am ogoniant nefol wedi eu ffurfio gan ganrifoedd o ddelweddau sy’n ategu meddylfryd y Sefydliad daearol. Mae brenhinoedd daearol yn fodau tra chyfoethog ac yn yr Oesoedd Canol yr oeddent yn fodau grymus a milwriaethus hefyd – cymeriadau tebycach i Herod a Pilat nag i Iesu o Nasareth. Dylid bod yr un mor wyliadwrus wrth ystyried y geiriau: brenin, brenhiniaeth a theyrnas. Peidiwn a chaniatau i’r delweddau sydd wedi eu ffurfio gan draddodiad sy’n mawrygu cyfoeth a grym liwio’n meddyliau. Mae gogoniant Duw yn bur wahanol i ogoniant bydol.

Mae stori hyfryd am Martin o Tours (bu farw 397) yn breuddwydio fod yr Iesu atgyfodedig yn dod i’w gyfarch; yr oedd Iesu wedi ei wisgo mewn harddwisg ymerodrol a ddiferai o dlysau drudfawr, dywedodd hwnnw ‘Dilyn Fi’; atebodd Martin, ‘Dos yn fy ôl i Satan’, a diflannodd y rhith. Yna ymddangosodd gweledigaeth arall, y tro hwn yr oedd Iesu’n ymddangos mewn dillad tlotyn – gwyddai Martin taw hwnnw oedd y ddelwedd gywir o Iesu, ac i hwnnw y plygodd a’i gydnabod fel Arglwydd.

Daw’r dyfyniad o Efengyl Mathew a roddi o un o ddamhegion Iesu, a rhaid bod yn ofalus wrth ddehongli’r cyffelybiaethau y mae’n eu defnyddio mewn damhegion. Wedi’r cyfan, nid ydym yn cymryd y ‘defaid’ a’r ‘geifr’ sy’n ymddangos yng ngweddill y ddameg yn llythrennol. Dyma’r unig ddameg, hyd y gwn, lle mae’n gosod ei hunan lan fel ‘brenin’ – disgrifiad o Dduw yw ‘brenin’ yn ei ddamhegion eraill lle mae’r gyffelybiaeth yn cael ei defnyddio; ‘Mab y dyn’ yw’r ymadrodd a ddefnyddia amlaf amdano’i hun, yn ôl Mathew.

Ymhellach, mae’r ddameg yn sôn am yr oes newydd sydd i ddod: ‘oes newydd’ yw’r union eiriad y mae Iesu’n ei ddefnyddio pan yn cyfeirio at yr un ‘digwyddiad’ yn Mathew 19:28. Yn yr oes newydd bydd gwerthoedd newydd a threfn newydd. Mae angen osgoi meddwl am werthoedd oes newydd Duw a Theyrnas Nefoedd mewn modd dynol ac yn ôl y gwerthoedd a luniwyd gan y byd syrthiedig hwn.
Rhithffurf defnyddiwr
Foel Gornach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Sul 22 Ebr 2007 10:13 pm
Lleoliad: Dyffryn Teifi

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

Postiogan rooney » Gwe 22 Chw 2008 7:22 pm

Pam ddaeth Iesu i'r byd?

Ioan 3:16-
16 Ydy, mae Duw wedi caruír byd cymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy'n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol. 17 Oherwydd anfonodd Duw ei Fab i achub y byd, dim i gondemnioír byd.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

Postiogan Kez » Gwe 22 Chw 2008 9:26 pm

Ond be' ddigwydd inni o ddifri calon ar ol marw - os efengylu wedyn yw'r ateb er mwyn i bobl weld y golau, mae 'ddi bach yn rhy hwyr i'r rhai gwympws ar hyd y ffordd. Ni elli di wneud dim byd i helpu'r rhai nad sy'n credu ac sy'n dal ar y ddaear. Ife twyll yw'r holl beth crefydd 'ma er mwyn deall angau a dod i delerau a cholled a bod dim byd gwell i gael na golau'r haul ryn ni'n ni byw o dani. Pa fywyd sy gin ddyn yn y Nefoedd. Beth yw bywyd tragwyddol - mae lot o son amdano ond bron neb yn egluro beth yw e yn nhermau pob dydd y gall rhywun ei ddeall ac edrych mlan ato.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

Postiogan ceribethlem » Llun 25 Chw 2008 8:13 pm

Foel Gornach a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Mae'r syniad o bod yn dda (mewn unrhywbeth) yn un dymunol. Mae proffesiynoldeb a chyrraedd yr uchelfannau yn llonni unrhywun yn ei waith. Yn yr un modd mae ymddygiad da (above and beyond yr hyn sydd angen i oroesi) heb yn codi teimladau llon. Felly mae bod yn dda yn golygu fod nefoedd yn gyflwr corfforol o deimlo'n dda am fod yn berson dymunol.
Byddai rhywun anymunol ar y llaw arall yn un nad yw'n trystio neb am ei ymddygiad ei hun, ac felly'n ymgorffoli uffern drwy ei deimladau ef.


Iawn; fel y mae serial killer da yn teimlo'n dda am ei orchestion, a godinebwr da yn brolio yn ei gampau, a lleidr da yn teimlo'n wych ar ol cyflawni trosedd, a cyfalafwr da'n ymffrostio am y modd y mae wedi gwneud ei filiynnau ar draul tlodion byd etc, etc. Cytuno'n llwyr - bydd rhain yn teimlo'n gret yn mynd i'r bedd - ond yna ...
Pwynt teg, rhaid dweud o'n i heb feddwl am hwnna!
Os ydym yn diystyrru'r serial killer am y tro, gan fod hwnnw yn amlwg yn dioddef o afiechyd meddwl, a chanolbwyntio ar y gweddill.
'Wy'n deall dy bwynt fod lleidr, godinebwr ac ati yn teimlo rhyw wefr o'u drygioni. Ai gwir hapusrwydd yw'r wefr yma? Bydden i'n dadlau nage fe, ac mae adrenaline sy'n gyfrifol. Gwefr cemegol (yn debyg i'r rhai sy'n ddibynnol ar gyffuriau neu alcohol am eu gwefr), ac felly ffug hapusrwydd. Dyw hwnna ddim yn cyfateb i gwir hapusrwydd a'r contentment daw o fyw bywyd da.
A fyddai lleidr yn teimlo gwir contentment? Neu a fydd yn poeni fod rhywun mynd i'w ladrata yn yr un modd ag y gwnaeth ef i eraill. Wedi'r cyfan mae e'n deall yn well nac un ohonom ni y fath o bobl sy'n dwyn a lladrata gan ei fod yn un ei hun.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

Postiogan Duw » Maw 26 Chw 2008 1:18 am

Bois bach! Dyma bwnc! Pam ddaeth Iesu i'r byd? I lanw bwlch efallai? Nad oedd yr Iddewon yn edrych am waredwr i'w hachub rhag y rhufeiniad a'u cymdogion cas? Daeth gwr a syniadau rhyfedd ac oedd yn wahanol i'r lleill - heddwch, cariad ac yn y blaen.

Er bod gennyf barch at agweddau o gristnogaeth, nid wyf yn gristion. Beth sydd yn mynd i ddigwydd pan fydd cristnogaeth, sydd ar y ffordd allan mor belled a rwyf yn gallu gweld, yn rhoi ffordd i islam? Armagedon? A phwynt arall - yn ol rhannau o'r testament newydd - nac oes son am nifer penodol o bobl yn cael eu hachub ar y diwedd? Nifer bychan iawn os dwi'n cofio fy ngwersi ysgol sul. A ydy hwn yn metaffor neu'n llythrennol - a phwy sy'n penderfynu? Dehongliadau pwy sy'n wir? Pwy all ddweud bod ganddynt yr holl atebion yn hytrach na chapel "nhw" lawr y ffordd? Pwy sy'n dilyn esgid a phwy sy'n dilyn gourd? Mae nifer o bostwyr wedi siarad ag awdurdod a phendantrwydd ar sawl agwedd.

Un peth olaf - dioddefaint plant - a ydy dysgu crefydd i blant yn fater o drais? A ddylai unigolion gael yr hawl i benderfynu pa grefydd maent am ddilyn (os o gwbl) unwaith iddynt droi'n 18. Er ei fod yn bwysig ein bod yn codi ein plant 'da gwerthoedd a moesau - a oes yn rhaid cynnwys Duw/Iesu yn eu haddysg? Brainwashing yw hyn?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

Postiogan mabon-gwent » Iau 20 Maw 2008 10:02 pm

1 Pedr 2.24,25:

"Ef ei hun a gariodd ein pechodau yn ei gorff ar y croesbren, er mwyn i ni ddarfod â'n pechodau a byw i gyfiawnder. Â'i archoll ef y cawsoch eich iacháu. Canys yr oeddech fel defaid ar ddisberod, ond yn awr troesoch at Fugail a Gwarchodwr eich eneidiau."
Rhithffurf defnyddiwr
mabon-gwent
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 111
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2008 4:00 am

Re: Pam ddaeth Iesu i'r byd?

Postiogan ceribethlem » Gwe 21 Maw 2008 2:52 am

mabon-gwent a ddywedodd:1 Pedr 2.24,25:

"Ef ei hun a gariodd ein pechodau yn ei gorff ar y croesbren, er mwyn i ni ddarfod â'n pechodau a byw i gyfiawnder. Â'i archoll ef y cawsoch eich iacháu. Canys yr oeddech fel defaid ar ddisberod, ond yn awr troesoch at Fugail a Gwarchodwr eich eneidiau."

Jon Jones. Tafarn. 31.3.2008:

"Peidiwch a gwrando ar yr y bobl 'ma sy'n malu cachu."
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Nôl

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron