rooney a ddywedodd:dawncyfarwydd a ddywedodd:Rooney, dwi jyst yn methu credu dy fod di'n gymaint o basher, ac eto yn methu cael dy ben rownd y ffaith mai anghrediniaeth ydi'r default position
gallwn gael fy mherswadio fod agnostiaeth yn "default", ond ddim yn cytuno gyda anffyddiaeth fel "default" o gwbl, pam ti'n meddwl hyn? Pam rhoi moethusder i'r anffyddiwr hawlio'r "default", a hwythau heb ronyn o dystiolaeth i gefnogi eu safbwynt?
Dwi'n trio peidio delio efo anffyddwyr yn dactegol fatha tasa ni gyd yn rhan o ryw ddadl athronyddol fawr - dwi'n ceisio delio efo'r hyn mae'r Beibl yn ei ddatguddio fel realiti.
Dyn, trwy ei gwymp, mewn stad bechadurus ac aflan sy'n golygu ei fod yn disgyn islaw safon Duw. Un o sgil-effeithiau hynny ydi bod Duw wedi ei guddio oddi wrth bobl, ein bod ni
by default heb y crebwyll i sylweddoli bodolaeth Duw. [e.e. Eff. 4:17-19] Yna, i'r rhai y mae Duw wedi'u rhagethol ers tragwyddoldeb ac y bu Crist farw drostynt, mae'r Ysbryd Glan yn symud y gorchudd hwnnw, yn gwneud i rywun sylweddoli fod bodolaeth Duw yn realiti, ac yn eu dwyn i edifeiriwch. Yn bendant, dyna sut nes i ddod yn Gristion: shifft o fy mewn i o anghrediniaeth lwyr i 'wybodaeth' fod Duw yn bod.
[Pryna'r llyfr
The Five Points of Calvinism: Defined, Defended and Documented gan Steele a Thomas - gwd bwc.]
Mae hynny yn ei dro yn gwneud dy fath di o efengylu yn wrthun i mi. Dwi'n credu mai cyflwyno ffeithiau yn barchus ac yn gwrtais ac nid yn ymosodol ydi'r ffordd orau o efengylu; oherwydd tra bod hynny'n galluogi Duw os myn i weithio trwy'n geiriau ni, dydi o ddim yn eliynetio Cristnogion ac yn gwneud i ni edrych fel anghenfilod. Pa les sydd i hynny? Dydi pawb ddim wedi'i ethol, felly be ydi'r pwynt amharchu pobol?
[Hefyd gyda llaw mae braidd yn
futile cyfeirio at ddull Iesu Grist o 'efengylu' (mae hwnna mewn things achos Iesu Grist ydi'r efengyl mewn ffordd) i Iddewon achos roedd sefyllfa'r Iddewon ar y pwynt yna yn gwbwl wahanol i sefyllfa gweddill y ddynoliaeth heddiw.]