Eglwysi/Capeli Cymraeg Caerdydd

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Eglwysi/Capeli Cymraeg Caerdydd

Postiogan sian » Iau 27 Maw 2008 5:03 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Ie yr MC's ydy Capel Coffa Henry Rees a'r Annibyn nwyr ydy Capel Coffia Williams Rees (ia, brawd Henry Rees!!). Man braf gwybod fod y ddwy eglwys wedi uno bellach.


Wyt ti'n siwr? Ro'n i'n meddwl bod y ddwy eglwys yn dal i fodoli ond eu bod nhw'n cyd-addoli yn yr un capel o dan yr un gweinidog.
Hynny yw, bod y Presbyteriaid yn dal yn Bresbyteriaid a'r blaenoriaid yn cael cynrychioli'r eglwys yn y Cwarfod Misol a'r Annibynwyr yn dal yn Annibynwyr a'r holl aelodau'n cael pleidlais yn y Cwrdd Chwarter a bod ganddyn nhw eu swyddogion a'u cyfrifon eu hunain. Delfrydol os ydi e'n gweithio!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Eglwysi/Capeli Cymraeg Caerdydd

Postiogan Rhys » Iau 27 Maw 2008 5:16 pm

Falch clywed bod ti di dod o hyd gapel/egwlys Huw. Roeddwn am awgrymu Eglwys Dewi Sant gan bod teulu cydweithwraig yn mynd yno.

Rhys Llwyd a ddywedodd:Rhai o eglwysi mwy Caerdydd yn cynnwys Rhiwbina Baptists, Heath Evangelical, Highfields a City Temple a rhai canoedd yn y gwasanaethau.

Yr hyn sy'n arwyddocaol wrth gwrs yw fod yr holl rai mawr ac sy'n tyfu yn rai efengylaidd/pentacostalaidd.


A'r All Nations Church hefyd - calmp o le, rhaid eu bod yn loaded. Bues i gynhadledd yno'n ddiweddar (dim i'w wneud a crefydd gyda llaw) a fel roeddwn i'n cerdded allan roedd dynes o flaen camra'n dwued "as church attendance falls across the country, the same can't be said for large evengelical churches like the All Nations Church, Cardiff". Os welodd rhyuwn fi ar ryw raglen newyddion, dwi heb gael troedigaeth!

Rhys Llwyd a ddywedodd:Eglwys Meirion Morris yn Llansanan yn eglwys lwyddianus a thorf dda yn y boreuau; llai yn y nos heb y teuluoedd wrth gwrs.

Dyna ble mae teulu fy mam yn byw, fy nain a fy ewythyr yn Fedyddwyr. Diddorol darllen ar y wefan am y tri enwad (oes mae tri capel mewn pentref mor fach a Llansannan) wedi uno i gyd-addoli. Mae'n bentref bach llawn paradox, gyda phoblogaeth gwledig Cymreig a Chymraeg ofnadwy, ond mae yna hefyd swp o undesirables (i.e. pobl difreintiedig o'r glannau a glannau Merswy) wedi dod i'r pentref yn y blynyddoedd diwethaf a gweddnewid y lle ac achosi tipyn o drafferth a dweud y lleia. Yn wahanol iawn i lot o gapeli, mae aelodau yno (dwi'n meddwl dyna sy'n gyfrifol) wedi bod yn gweithio'n galed i ddarparu cyfeusterau i bobl ifanc y pentre.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Nôl

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron