1. Ydych chi'n perthyn i rhywun enwog?Fy nghyfyrder a nhaid. dim dyna pam bo nhw'n enwog, yn amlwg. a dwi'n perthyn i'r boi yna sy'n chwara dryms i sibrydion.
2. Ydych chi wedi cwrdd â rhwyun enwog - pwy?Dim wir, nesh i bron a cyfarfod Mickey Thomas haf dwytha, odd o'n aros yn y pentra, nesh i bron a hitio'i garafan o efo pel ffwtbol. Ath o adra cyn i mi ga'l cyfla i sharad efo fo.
3. Gan feddwl am eich tre/pentre/dinas enedigol - ydi'r lle yna'n enwog? (am beth?)Am ennill cystadleuthau pentref taclusaf Gwynedd
a Chymru
Ac yn fan hyn ga'th Harri Parri ei eni a'i fagu.
4. Yn ôl Warhol, mae pawb yn enwog am 15 munud - beth ddigwyddodd yn ystod eich 15 munud chi?Dwi'm 'di gal o eto.
5. Pe bai chi'n dod yn fyd-enwog, beth fyddai'r rheswm dros eich enwogrwydd?Oni'n gallu adrodd enwa siroedd Cymru i gyd - all 22 - ar fy nghof yn 6 oed. Ma'n debyg mod i wedi colli'r unig gyfla ga i adag hynny.