pump am y penwythnos 28.3.08

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

pump am y penwythnos 28.3.08

Postiogan Dwlwen » Gwe 28 Maw 2008 11:07 am

1. Ydych chi'n perthyn i rhywun enwog?
2. Ydych chi wedi cwrdd â rhwyun enwog - pwy?
3. Gan feddwl am eich tre/pentre/dinas enedigol - ydi'r lle yna'n enwog? (am beth?)
4. Yn ôl Warhol, mae pawb yn enwog am 15 munud - beth ddigwyddodd yn ystod eich 15 munud chi?
5. Pe bai chi'n dod yn fyd-enwog, beth fyddai'r rheswm dros eich enwogrwydd?
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: pump am y penwythnos 28.3.08

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 28 Maw 2008 11:26 am

1. Ydych chi'n perthyn i rhywun enwog?

Wyddoch chi'r William Morgan yn y gân 'Defaid William Morgan'? Fo oedd fy hen hen daid i.

2. Ydych chi wedi cwrdd â rhwyun enwog - pwy?

Wel, ddim enwog go iawn i fod yn onest, er ambell i berson Gymru-enwog. Roedd Mam isio i mi gyfarfod â Norman Wisdom pan roedd o'n Epsom rhywbryd ond do'n i'm isio, a minnau'n tua 7 ar y pryd a heb glywed amdano o'r blaen. 'Swn i dal ddim rili yn awchu ei gyfarfod. I fod yn onest, dw i'm yn licio pobl enwog lot.

Mi ofynnish i Robert Earnshaw a Danny Gabbidon arwyddo i Wrecsam yn Creation yn chwil i gyd. Ni welodd Earnshaw yr ochr ddoniol ond chwarddodd Gabbidon lond ei fol.

3. Gan feddwl am eich tre/pentre/dinas enedigol - ydi'r lle yna'n enwog? (am beth?)

Fel llwyth o bobl yn yr ardal Bangor ges i 'ngeni, ond Rachub dw i'n ystyried yn bentref genedigol, er bod o ddim os 'dach chi'n dallt be sy' gen i. Gruff Rhys a Celt felly. Ddim yn bad am le mor fach!

4. Yn ôl Warhol, mae pawb yn enwog am 15 munud - beth ddigwyddodd yn ystod eich 15 munud chi?

Wel mi waeddish i "RACHUB" o dop fy llais wedi meddwi'n gachu bants yn i-dot unwaith, a chael YMATEB gan RHYDIAN! Er mai tua dwy eiliad oedd hynny yn hytrach na 15 munud.

5. Pe bai chi'n dod yn fyd-enwog, beth fyddai'r rheswm dros eich enwogrwydd?

Angau stiwpid. Llithro ar gabaetshen, neu gyffelyb, a chael colofn yn y Daily Star amdano.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: pump am y penwythnos 28.3.08

Postiogan Dwlwen » Gwe 28 Maw 2008 11:42 am

Hogyn o Rachub a ddywedodd:4. Yn ôl Warhol, mae pawb yn enwog am 15 munud - beth ddigwyddodd yn ystod eich 15 munud chi?

Wel mi waeddish i "RACHUB" o dop fy llais wedi meddwi'n gachu bants yn i-dot unwaith, a chael YMATEB gan RHYDIAN! Er mai tua dwy eiliad oedd hynny yn hytrach na 15 munud.

Wy'n cofio gweld hwnna ar y teli :D

Fues i yng nghynulleidfa idot (blynydde cyn ti, siwr o fod :? ) ac odd shot, wrth iddyn nhw fynd i'r toriad, o'r dorf hanner-meddw yn sgrechen (at Gwacamloi neu rhywun) 'nath panio mas at fi a'n ffrind i'n whare pat-a-cake yng nghefn y stiwdio.
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: pump am y penwythnos 28.3.08

Postiogan osian » Gwe 28 Maw 2008 11:43 am

1. Ydych chi'n perthyn i rhywun enwog?
Fy nghyfyrder a nhaid. dim dyna pam bo nhw'n enwog, yn amlwg. a dwi'n perthyn i'r boi yna sy'n chwara dryms i sibrydion.

2. Ydych chi wedi cwrdd â rhwyun enwog - pwy?
Dim wir, nesh i bron a cyfarfod Mickey Thomas haf dwytha, odd o'n aros yn y pentra, nesh i bron a hitio'i garafan o efo pel ffwtbol. Ath o adra cyn i mi ga'l cyfla i sharad efo fo.

3. Gan feddwl am eich tre/pentre/dinas enedigol - ydi'r lle yna'n enwog? (am beth?)
Am ennill cystadleuthau pentref taclusaf Gwynedd a Chymru 8) Ac yn fan hyn ga'th Harri Parri ei eni a'i fagu.

4. Yn ôl Warhol, mae pawb yn enwog am 15 munud - beth ddigwyddodd yn ystod eich 15 munud chi?
Dwi'm 'di gal o eto.

5. Pe bai chi'n dod yn fyd-enwog, beth fyddai'r rheswm dros eich enwogrwydd?

Oni'n gallu adrodd enwa siroedd Cymru i gyd - all 22 - ar fy nghof yn 6 oed. Ma'n debyg mod i wedi colli'r unig gyfla ga i adag hynny.
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: pump am y penwythnos 28.3.08

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 28 Maw 2008 12:46 pm

Dwlwen a ddywedodd:Fues i yng nghynulleidfa idot (blynydde cyn ti, siwr o fod :? ) ac odd shot, wrth iddyn nhw fynd i'r toriad, o'r dorf hanner-meddw yn sgrechen (at Gwacamloi neu rhywun) 'nath panio mas at fi a'n ffrind i'n whare pat-a-cake yng nghefn y stiwdio.


:lol: !!

I fod yn onest dwi'm yn meddwl bod fawr o neb yn mynd am y miwsig na dim - dw i'n cofio llond bws o ni o Senghennydd yn mynd gan eiddgar ddisgwyl y ffrî bar bob tro...!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: pump am y penwythnos 28.3.08

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 28 Maw 2008 2:11 pm

1. Ydych chi'n perthyn i rhywun enwog?
Ddim rili. Roedd Kitchener Davies yn enwog yn ei ddydd sbos.
2. Ydych chi wedi cwrdd â rhwyun enwog - pwy?
Wedi cwrdd ag Albert Finney yn Cannes.
3. Gan feddwl am eich tre/pentre/dinas enedigol - ydi'r lle yna'n enwog? (am beth?)
Dolgellau? Nacdi siwr. Cader Idris a Sesiwn Fawr sy'n ei wneud yn fwya anwybyddus debyg. Di-nod braidd di'r lle druan, sy'n cael ei symbylu gan ein bardd boring Dafydd Ionawr.
4. Yn ôl Warhol, mae pawb yn enwog am 15 munud - beth ddigwyddodd yn ystod eich 15 munud chi?
Dim byd o'r fath di digwydd.
5. Pe bai chi'n dod yn fyd-enwog, beth fyddai'r rheswm dros eich enwogrwydd?
Smyglo babŵns mewn i'r Pafiliwn. Wotsh ddus sbês...
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: pump am y penwythnos 28.3.08

Postiogan joni » Gwe 28 Maw 2008 2:25 pm

1. Ydych chi'n perthyn i rhywun enwog?
Nadw. Er o'n i arfer gweud taw Mike o'dd fy ewythr.
2. Ydych chi wedi cwrdd â rhwyun enwog - pwy?
John Charles yw siwr o fod yr enwoca dwi di cwrdd a. Neu falle Malcolm Allen.
3. Gan feddwl am eich tre/pentre/dinas enedigol - ydi'r lle yna'n enwog? (am beth?)
Weddol enwog yng Nghymru. Ma na Lyfrgell Genedlaethol yma.
4. Yn ôl Warhol, mae pawb yn enwog am 15 munud - beth ddigwyddodd yn ystod eich 15 munud chi?
So fe di digwydd eto. (Heblaw fod chi'n cyfri appearance ar "Gair am Aur" sawl blwyddyn nol.
5. Pe bai chi'n dod yn fyd-enwog, beth fyddai'r rheswm dros eich enwogrwydd?
Rhywbeth crap dybiwn i...Marw mewn ffordd unigryw, efallai.
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: pump am y penwythnos 28.3.08

Postiogan osian » Gwe 28 Maw 2008 2:28 pm

joni a ddywedodd:4. Yn ôl Warhol, mae pawb yn enwog am 15 munud - beth ddigwyddodd yn ystod eich 15 munud chi?
So fe di digwydd eto. (Heblaw fod chi'n cyfri appearance ar "Gair am Aur" sawl blwyddyn nol.

Bendant yn cyfri.
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: pump am y penwythnos 28.3.08

Postiogan krustysnaks » Gwe 28 Maw 2008 2:39 pm

1. Ydych chi'n perthyn i rhywun enwog?
Ringo Starr ar un ochr, Leila Megane ar y llall.

2. Ydych chi wedi cwrdd â rhwyun enwog - pwy?
Piers Brosnan, Johnny Knoxville, Jonathan Pryce, Rufus Wainwright, David O'Leary, Anne Widdicombe a llawer, llawer mwy - dwi'n hoff iawn o gwrdd â phobl enwog.

3. Gan feddwl am eich tre/pentre/dinas enedigol - ydi'r lle yna'n enwog? (am beth?)
Cafodd Bow Street ei 15 munud gyda'r tornado nôl tua diwedd 2006.

4. Yn ôl Warhol, mae pawb yn enwog am 15 munud - beth ddigwyddodd yn ystod eich 15 munud chi?
Fasen i'n hoffi meddwl bod y 15 munud heb gyrraedd eto, ond os ddim, fyddai'n eitha hapus gyda canu ym Mharc Singleton ar noson ola'r Proms, canu ar record blatinwm a cael namecheck ym mhodlediad Football Weekly Extra y Guardian yr wythnos yma.

5. Pe bai chi'n dod yn fyd-enwog, beth fyddai'r rheswm dros eich enwogrwydd?
Bod yn unben.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: pump am y penwythnos 28.3.08

Postiogan y nionyn » Gwe 28 Maw 2008 2:48 pm

1. Ydych chi'n perthyn i rhywun enwog? Mam yn deud mod i'n perthyn o bell i'r bardd enwog, Anon!!
2. Ydych chi wedi cwrdd â rhwyun enwog - pwy? Cwrddais a John Hartson a dipyn o hogia erill o garfan Cymru mewn 'strip club' yng Ngwlad Pwyl!
3. Gan feddwl am eich tre/pentre/dinas enedigol - ydi'r lle yna'n enwog? (am beth?) Llanllyfni, dio'n enwog? Ydi siwr dduw, Bryn Fon de!!
4. Yn ôl Warhol, mae pawb yn enwog am 15 munud - beth ddigwyddodd yn ystod eich 15 munud chi? Cael mynd lawr y sleid ar Ffair Sadwrn a 'mynd i llandybia heb ddeud ia'!
5. Pe bai chi'n dod yn fyd-enwog, beth fyddai'r rheswm dros eich enwogrwydd? Darganfod mai love child Bill Gates dwi!
Yr Agwedd Yw Fy Mugail
Rhithffurf defnyddiwr
y nionyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 135
Ymunwyd: Gwe 26 Awst 2005 2:30 pm
Lleoliad: Gwaelod y Fenai

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron