Reit - Hen Rech Flin, (roll in the heavyweights) - stim osgoi dylanwadu ar dy blant o ran dy werthoedd fel rhiant (gwleidyddiaeth ayyb). Er cofia, nid yw plant yn cael bwrw pleidlais nes eu bod yn 18. Pam? Sawl rheswm dwi'n siwr, ond y brif un yw'r ffaith nid ydynt yn digon aeddfed (yn gyffredinol) i bwyso a mesur materion pwysig a gweld trwy fflim-fflam, celwydd a rhagfarn y gwleidyddwyr "secsi" (e.e. y crysiau brown, y crysiau duon).
Pam ydy rhai yn mynnu bod codi plant mewn "cariad", gyda "theulu", gyda "gwerthoedd" yn rhywbeth sydd yn amhosib heb grefydd? Sbwriel llwyr.
Fy mhwynt gwreiddiol oedd pam oes hawl gan unigolyn i wthio "celwydd"/"storiau" (beth bynnag..) lawr llwnc plentyn diniwed ac yna atgyfnerthu hyn yn y gobaith bydd yn beni lan yn "credu" mewn rhywbeth ffarsigal.
Gwnaeth Rooney a Ceribethlem gael good ol' shootout ynglyn a thystiolaeth. Da iawn Ceri, mae'r Rooney 'na mor llithrig a llysywen ac yn troi geiriau fel y Diafol ei hunan. A ger llaw Rooney, paid a rhedeg i ffwrdd o'r cwestiwn:
rooney a ddywedodd:Duw a ddywedodd:beth fyddet yn gwneud os, ar ol dy holl addysgu a gweddio, bod dy blentyn yn troi mas i fod yn hoyw? Reli, hoffwn wybod. A fydde'n cael ei g/ch-ondemio gennyt ti a dy Dduw? Ac oes nac oedd yn hoyw, byddet yn ei g/ch-odi i gondemio pobl hoyw yn ol dy gred?
mae'r pwnc yna werth edefyn ei hunan
Wel? Cer amdani.