pump am y penwythnos 28.3.08

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: pump am y penwythnos 28.3.08

Postiogan Macsen » Gwe 28 Maw 2008 10:45 pm

1. Ydych chi'n perthyn i rhywun enwog?
Mae fy mrawd yn frawd i fi.

2. Ydych chi wedi cwrdd â rhwyun enwog - pwy?
Wel drwy fy ngwaith, os allet ti alw holi pobol yn dwll yn 'cwrdd' yng ngwir ystyr y gair.

3. Gan feddwl am eich tre/pentre/dinas enedigol - ydi'r lle yna'n enwog? (am beth?)
Waunfawr tu allan i Geernarfon, a mae na ryw gysylltiad efo gyrru'r negeseuon cynta di-wifr dros y mor Iwerydd neu rywbeth. Dwi'm wir yn gwybod yr hanes.

4. Yn ôl Warhol, mae pawb yn enwog am 15 munud - beth ddigwyddodd yn ystod eich 15 munud chi?
Actio Sniffyn allan o Sothach a Sglyfath. Mega Arth oedd y llyffant.

5. Pe bai chi'n dod yn fyd-enwog, beth fyddai'r rheswm dros eich enwogrwydd?
Ryw fideo You Tube ohona'i yn gwneud rywbeth twp yn fy niod fyddai'n troi'n 'internet meme'.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: pump am y penwythnos 28.3.08

Postiogan Mwddrwg » Sad 29 Maw 2008 3:50 am

1. Ydych chi'n perthyn i rhywun enwog?
ym... na. er ma Mam yn enwog yn ardal Prion

2. Ydych chi wedi cwrdd â rhwyun enwog - pwy?
El Bandito, Dafydd Wigley, a Noel o Hear'say. (bydde cyfarfod nhw wedi bod yn lot mwy diddorol petawn i wedi eu gweld nhw efo'i gilydd yn rhywle...)

3. Gan feddwl am eich tre/pentre/dinas enedigol - ydi'r lle yna'n enwog? (am beth?)
enwog am fod yn gartref i Dilwyn Pierce

4. Yn ôl Warhol, mae pawb yn enwog am 15 munud - beth ddigwyddodd yn ystod eich 15 munud chi?
ges i fy nghyfweld gan Sioned Mair ar faes ryw Steddfod pan o'n i tua 9 oed, a gorfod trio bara lawr ar y teli bocs

5. Pe bai chi'n dod yn fyd-enwog, beth fyddai'r rheswm dros eich enwogrwydd?
blunder meddygol siwr o fod...
Rhithffurf defnyddiwr
Mwddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 405
Ymunwyd: Maw 06 Ion 2004 11:10 pm
Lleoliad: c'dydd

Re: pump am y penwythnos 28.3.08

Postiogan Manon » Sad 29 Maw 2008 3:34 pm

1. Ydych chi'n perthyn i rhywun enwog?
Ma' Nain yn deud bo' ni'n perthyn nid yn unig i Dr. Livingstone, ond hefyd i Llywelyn Fawr. 8)

2. Ydych chi wedi cwrdd â rhwyun enwog - pwy?
Ioan Gruffydd a Mathew Rhys. W, a Dervla Kirwan yn Tesco Bangor.

3. Gan feddwl am eich tre/pentre/dinas enedigol - ydi'r lle yna'n enwog? (am beth?)
Na, tydi Rhiwlas ddim yn enwog- a dyna un o'r rhesymau pam mae o mor neis!

4. Yn ôl Warhol, mae pawb yn enwog am 15 munud - beth ddigwyddodd yn ystod eich 15 munud chi?
Wel o'dd 'na ambell lun ffyni ohona i mewn gwisg wen yn 'steddfod 'chydig flynyddoedd yn ol... 'dwi'n dal i ga'l fy herian am hynna...

5. Pe bai chi'n dod yn fyd-enwog, beth fyddai'r rheswm dros eich enwogrwydd?
'Swn i'n dyfeisio lliw newydd.
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: pump am y penwythnos 28.3.08

Postiogan Jaff-Bach » Sad 29 Maw 2008 5:15 pm

1. Ydych chi'n perthyn i rhywun enwog?
Teulu fy Nain yn enwog yn yr Almaen am neud harmonicas de, siriys

2. Ydych chi wedi cwrdd â rhwyun enwog - pwy?
Nath Vanessa Feltz gerddad pasio ni yn Dublin tra oeddanin istad ar ochor stryd yn cal panad (methu ffeindior hostel) diwrnod ola'r flwyddyn.

3. Gan feddwl am eich tre/pentre/dinas enedigol - ydi'r lle yna'n enwog? (am beth?)
ardal ffestiniog, adnabyddus dydi- gwyn thomas, mici plwm, glyn wise, y sin gerddorol- anweledig, llwybyr llaethog, frizbee, mim twm llai, y glaw

4. Yn ôl Warhol, mae pawb yn enwog am 15 munud - beth ddigwyddodd yn ystod eich 15 munud chi?
criw ffrindia ni di popio fyny yn y sun, mirror, cylchgronau 'closer' a 'more', oedd hynnan hwyl.

5. Pe bai chi'n dod yn fyd-enwog, beth fyddai'r rheswm dros eich enwogrwydd?
sa Oscar yn reit neis dwin meddwl
'Ydi Myrddin ap Dafydd yn fab i Dafydd ap Gwilym?............'
Rhithffurf defnyddiwr
Jaff-Bach
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 198
Ymunwyd: Maw 31 Gor 2007 6:09 pm
Lleoliad: Llan Ffestiniog/Leeds

Re: pump am y penwythnos 28.3.08

Postiogan Mali » Sul 30 Maw 2008 2:18 am

1. Ydych chi'n perthyn i rhywun enwog?
Hmm...cofio clywed fod HM Stanley [ John Rowlands] yn y family tree.
2. Ydych chi wedi cwrdd â rhwyun enwog - pwy?
Bryn Terfel yn dilyn ei gyngerdd yn yr Orpheum yn Vancouver . 8)
3. Gan feddwl am eich tre/pentre/dinas enedigol - ydi'r lle yna'n enwog? (am beth?)
Cefais fy ngeni yn Ninbych , felly Gwasg Gee, Dr. Kate Roberts, Mathonwy Hughes, Gwilym R Jones ayb.
4. Yn ôl Warhol, mae pawb yn enwog am 15 munud - beth ddigwyddodd yn ystod eich 15 munud chi?
Bod ar y teledu mae'n debyg neu ennill rhywbeth yn y 'steddfod.
5. Pe bai chi'n dod yn fyd-enwog, beth fyddai'r rheswm dros eich enwogrwydd?
Am fod y person mwyaf distaw. :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Nôl

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai

cron