Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ydych chi'n cytuno bod codi plant mewn crefydd yn gyfwerth â chamdrinaieth

Ydw
7
27%
Nac ydw
19
73%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 26

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Postiogan Duw » Sad 29 Maw 2008 9:44 pm

Hen Rech Flin a ddywedodd:Wyt yn troi'r ddadl rŵan.
Nid:
Pam ydy rhai yn mynnu bod codi plant mewn "cariad", gyda "theulu", gyda "gwerthoedd" yn rhywbeth sydd yn amhosib heb grefydd?

Oedd y cwestiwn gwreiddiol, ond "Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?"


Ymddiheuriadau HRhF, nid oeddwn yn dy feirniadau di, ymateb i rywbeth a ddywedodd rooney oeddwn yma - dylwn fod wedi dyfynnu. Nid oeddwn am droi'r ddadl 'chwaith - jyst ymateb i ddadleuon rooney.

Hen Rech Flin a ddywedodd:Yn wir ti yw'r unig un sydd yn honni bod magu plant gydag unrhyw wirionedd ond dy wirionedd di yn greulon.


Sori HRhF, ni allaf gytuno a hyn (yn amlwg) - dwi yn meddwl bod gorfodi plentyn i gredu mewn anwiredd yn greulon - OND, nid wyf yn honni fy mod yn gwybod y gwirionedd - nid oes modd gwybod y gwirionedd - BYTH. Un o fy mhwyntiau oedd tystiolaeth am fodelau (dwi ddim ishe mynd dros hwn eto - os oes diddordeb ewch dros yr edefyn). Mae'r achos am grefydd ("duw" fel rheol) mor wan, mor chwerthynllyd, mae'n = anwiredd, ac mae codi plentyn a gorfodi anwiredd (a rhagfarn fel rheol) arno'n anghywir (yn bechod?) Bydde codi plentyn i gredu bod y Ddaear yn fflat a bod yr Haul yn mynd o gwmpas y Ddaear, yn erbyn yr holl dystiolaeth, yn hollol hurt, er nid os ydyw'r testun yn cynnwys "duw/gwyrthoedd/mind-control".
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Postiogan rooney » Sad 29 Maw 2008 10:46 pm

Duw a ddywedodd:Bydde codi plentyn i gredu bod y Ddaear yn fflat a bod yr Haul yn mynd o gwmpas y Ddaear, yn erbyn yr holl dystiolaeth, yn hollol hurt, .


Bydde
ond o ystyried dy lofnod ti'n meddwl mae'n iawn dweud wrth blentyn fod nhw'n epaod, yn ddisgynyddion o epaod, fod bywyd yn dechrau ohono'i hun o'r di-fywyd, fod un math o anifail ar ol amser yn troi i fod yn fath arall... hynny'n hurt ddwedwn i.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Postiogan Duw » Sul 30 Maw 2008 12:11 am

rooney a ddywedodd:ystyried dy lofnod ti'n meddwl mae'n iawn dweud wrth blentyn fod nhw'n epaod, yn ddisgynyddion o epaod, fod bywyd yn dechrau ohono'i hun o'r di-fywyd, fod un math o anifail ar ol amser yn troi i fod yn fath arall... hynny'n hurt ddwedwn i.


I ateb dy gwestiwn, a sylwa, dwi pob amser yn ceisio d'ateb, cystal a bo modd - rwyf wedi cyflwyno syniadau gwyddonwyr i fy mhlant ar esblygiad a chawlau cyn-fiotig, ond dwi'n pwysleisio iddynt mai "syniadau" yn unig ydynt, sy'n ffitio gyda'r dystiolaeth. Dwi hefyd wedi cyflwyno syniadau crefyddol iddynt (heb ragfarn, cred e neu beidio) ac adrodd hanes fy mhlentyndod mewn Capel yr Annibynwyr, Ysgol Sul ayyb. Dwi hefyd wedi adrodd storiau yr Hen Destament iddynt - Adda, Noa, Moses, Abraham a'r lleill. Yn ogystal a hyn maent wedi dysgu am elfennau o Islam, Bwda a Hindwiaeth. Dwi'n meddwl ei fod yn peth da (fel rwyf wedi adrodd sawl gwaith i bawb cael gweld) eu bod yn dysgu ynglyn a chrefyddau'r byd. Ar ddiwedd y gan, y nhw bydd yn penderfynu cyfeiriad eu ffydd neu anffydd. Siom personol i mi byddai os oeddent yn dilyn rhyw grefydd, ond yn sicr eu dewis nhw bydde hynny. Dwi heb eu bedyddio (fel mae nifer o fy ffrindie wedi bedyddio eu plant nhw - ac am resymau hollol materialistig) nid oherwydd fy mod i ddim yn credu ond am y ffaith y nhw eu hunain ddylai cael yr hawl i wneud hynny. Dwi'n diawlo'r ffaith ces fy medyddio heb fy nghaniatad.

Yn bellach i dy sylwadau Rooney, a wyt yn dweud fod DIM TYSTIOLAETH am esblygiad? Gwaith y Diafol (fy hoff gymeriad o chwedlau'r Beibl, gyda llaw) ydyw i'n drysu a'n troi i ffwrdd o wyneb yr Arglwydd? Consbirasi gwyddonwyr drwg? I mi, mae dy sylwadau dim ond yn atgyfnerthu f'anffydd ac yn gosod y stereoteip gwaethaf arnat. Os oes tystiolaeth am esblygiad, lle ydy hyn yn gadael y syniad o Dduw (Iddewig-Cristnogol-Islam) yn creu dyn yn Ei olwg Ef?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Postiogan rooney » Sul 30 Maw 2008 1:30 am

Duw a ddywedodd:Yn bellach i dy sylwadau Rooney, a wyt yn dweud fod DIM TYSTIOLAETH am esblygiad? ?


mae'n dibynnu beth ti'n olygu gyda'r term yma
macro-esblygu, ok
y gweddill, nope
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Postiogan Hen Rech Flin » Sul 30 Maw 2008 6:37 am

Pe bawn yn credu bod y byd yn fflat, mae dôm uwchben y byd yw'r nen ac mae eira yn disgwyl shigliad yw pob seren, ac yn cyflwyno'r syniad yna i'm mhlantos, a fyddwn, o anghenraid, yn dad creulon?
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Postiogan Duw » Sul 30 Maw 2008 8:28 am

Hen Rech Flin a ddywedodd:Pe bawn yn credu bod y byd yn fflat, mae dôm uwchben y byd yw'r nen ac mae eira yn disgwyl shigliad yw pob seren, ac yn cyflwyno'r syniad yna i'm mhlantos, a fyddwn, o anghenraid, yn dad creulon?


Byddet os dy fwriad oedd eu gorfodi i gredu ynddo heibio'r sell-by date. Mae dweud chwedlau a storiau i blant yn iawn, ond mae parhau i fynnu pob y byd yn fflat yn mynd yn erbyn y dystiolaeth o realiti, a bydde codi dy blentyn i gredu hyn wrth iddo dyfu lan i fod yn oedolyn yn greulon yn my marn i.

rooney a ddywedodd:
Duw a ddywedodd:Yn bellach i dy sylwadau Rooney, a wyt yn dweud fod DIM TYSTIOLAETH am esblygiad? ?


mae'n dibynnu beth ti'n olygu gyda'r term yma
macro-esblygu, ok
y gweddill, nope


Felly a wyt yn cytuno gydag esblygiad ai beidio? Beth yw d'ystyr "macro-esblygu"?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Postiogan ceribethlem » Sul 30 Maw 2008 8:24 pm

rooney a ddywedodd:
Duw a ddywedodd:Yn bellach i dy sylwadau Rooney, a wyt yn dweud fod DIM TYSTIOLAETH am esblygiad? ?


mae'n dibynnu beth ti'n olygu gyda'r term yma
macro-esblygu, ok
y gweddill, nope
Ti wedi neud bwchad fan hyn rooney. Rwyt ti wedi dweud yn y gorffenol mai "micro-esblygu" wyt ti'n derbyn, nid "macro-esblygiad".
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Postiogan Duw » Llun 31 Maw 2008 1:27 pm

Cytuno Ceri - peth rhyfedd i ddweud "credu mewn macro-esblygu" os wyt yn gwadu esblygiad. Efallai bod ganddo ddamcaniaeth hollol newydd, neu efallai re-hash o Intelligent Design a oedd yn embaras llwyr?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Postiogan ceribethlem » Llun 31 Maw 2008 3:06 pm

Duw a ddywedodd:Cytuno Ceri - peth rhyfedd i ddweud "credu mewn macro-esblygu" os wyt yn gwadu esblygiad. Efallai bod ganddo ddamcaniaeth hollol newydd, neu efallai re-hash o Intelligent Design a oedd yn embaras llwyr?

Os yw Intelligent design yn bodoli efallai gall rooney egluro bodolaeth y Duck Billed Platypus
Delwedd
:lol:
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Ai camdriniaeth yw codi plant mewn crefydd?

Postiogan Duw » Llun 31 Maw 2008 7:38 pm

Pwynt da Ceri, ond, yn ol f'ymchwil gwnaeth Duw greu y DBP yn syth ar ol y madarch hudol!
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron