Newydd ddod nôl ar ôl tridiau yn y ddinas. Rhai argraffiadau:
S.W. a ddywedodd: Ydy'r tacsis ma'n ddrud?
Gan fod 6 ohonon ni'n dod o'r maes awyr i'r ddinas gawson ni dacsi i 7. Gan fod y gyrrwr yn eitha difyr - rhoi tipyn o sylwebaeth jest wrth yrru o'r maes awyr i'r gwesty, fe wnaethon ni drefnu i fynd gydag e o gwmpas y ddinas drannoeth. Gostiodd hynny £8 yr un am tua awr ac 20 munud. Roedd e'n dweud bod y bysus coch yn £11 am awr (os ti'n aros arno trwy'r amser). Roedd ei sylwebaeth e'n dipyn fwy personol - roedd e'n stopio ac yn mynd â ni mas mewn gwahanol lefydd. Gweriniaethwr yw e ond roedd e'n "treio" bod yn ddiduedd - aeth e â ni i'r Shankhill ond ollyngodd e ni am dipyn yn y siop fach yn nghanolfan Sinn Fein i brynu souvenirs!
S.W. a ddywedodd:Cefnder y wraig ....yn dweud bod lot o'r cwmniau tacsis yn cael eu rhedeg gan rai mudiadau parafilwrol yn y lle - difyr!
Oedd gyrrwr ein tacsi ni'n dweud bod bysus yn cael eu herwgipio a'u llosgi yn y trafferthion ac felly bod cwmniau tacsis cymunedol wedi codi yn y gwahanol ardaloedd - a bod eu prisiau nhw ychydig yn rhatach nag y byddai'r bysus- dim ond yn mynd o gwmpas yr ardal a bod gan y gyrwyr arwyddion llaw arbennig i ddweud lle'r oedden nhw'n mynd.
Mae cyn-garcharorion yn arwain teithiau ar droed hefyd. Swn i'n mynd eto, swn i'n mynd ar un o'r rhain - ond dw i'n meddwl eu bod nhw'n para tair awr. Gweriniaethwyr yw'r rhan fwya o'r rhain ond mae modd holi'n arbennig am rai gan unoliaethwyr.
Mae Culturlann - siop lyfrau, caffi a chanolfan ymwelwyr - ar y Falls Road yn werth ymweliad. Bwyd da - hen eglwys wedi'i wneud yn neis.
Llyfrgell Linen Hall yn dda hefyd - stafell yn cynnwys memorabilia o'r trafferthion - o'r ddwy ochr - clipiau fideo ac ati o newyddion o'r cyfnod + sgyrsiau â phobl oedd wedi byw trwy eu canol - e.e. gwerthwr hufen iâ o dras Eidalaidd - a shwt oedd y peth wedi effeithio arno fe etc.
Doeddan nhw cau gadael mi i fewn (i'r Crown) am mod i'n gwisgo cot Cymru llynedd
Mae 'na arwydd yn dweud na chei di fynd i mewn os yw ti'n gwisgo unrhyw fath o ddillad pêl-droed.
Mae'r tocyn £2.50 y dydd am fynd ar y bysus Metro yn dda. Aethon ni ar fws arferol i Stormont - roedd hwnnw'n impresif iawn!
Pobl y ddinas yn gyfeillgar iawn - fiw i ti stopio i edrych ar fap strydoedd - neu fyse rhywun siwr o gynnig help - a hyd yn oed mynd â ti i ble bynnag o ti'n chwilio amdano!
Gawson ni fwyd da un noson - cynnig dau bryd am bris un - a gan mai 5 ohonon ni oedd yna - gawson ni un pryd extra hefyd!
Tipyn o lefydd ddim yn cymryd cardiau credyd.
Reit, gwaith!