Ray Diota a ddywedodd:be yw'r digwyddiad de?
Chwadan a ddywedodd:Gei di wbod pan dwi'n gwbod os dio am ddigwydd ai peidio!
Fel pob Annibynnwr da, dw i newydd ddarllen y Goleuad a beth welwn i ond hysbyseb am "Noson Jazz a Lasagne" yn Aberystwyth ar y 18fed o Ebrill.
" " medde fi o gofio am yr edefyn yma a'r un yn gofyn am fusnesau bwyd yn Aber a dyma fi'n brysio nôl i'ch goleuo chi i gyd ond wele rhywun wedi cyrraedd o 'mlaen i.
Un pwynt bach - dw i'n gwbod eich bod chi'n gallu gwneud lot o bethau â ffôns symudol ond dw i erioed wedi gweld un sy'n troi'n frwsh dannedd.