Pump am y Penwythnos - 11/4/08

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos - 11/4/08

Postiogan Dwlwen » Gwe 11 Ebr 2008 10:45 am

Beth yw'r peth rhyfedda' i wneud i chi chwerthin?
Beth yw'r peth rhyfedda' i wneud i chi lefain?
Pryd oedd y tro diwetha' i chi gael rhywbeth am ddim?
Enwch un peth 'dych chi'n difaru ei wneud?
Enwch un peth 'dych chi'n difaru peidio â'i wneud?
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos - 11/4/08

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 11 Ebr 2008 11:11 am

Beth yw'r peth rhyfedda' i wneud i chi chwerthin?

Mae sawl peth rhyfedd yn gwneud i mi chwerthin yn afreolus pan nad ydyn nhw'n bethau ofnadwy o ddoniol. Yn ddiweddar roeddwn i'n cyfieithu darn o waith ac roedd cam-deipio yn y Saesneg yn dweud "the Welsh Pubic Service". Ro'n i'n edrych yn wirion yn chwerthin ar y sgrîn i mi'n hun, dwi'n siwr.

Beth yw'r peth rhyfedda' i wneud i chi lefain?

Ddim byd - heb wneud ers ymhell dros ddegawd!

Pryd oedd y tro diwetha' i chi gael rhywbeth am ddim?

Dyn ag wyr. Mae'n siwr bod rhywun wedi prynu diod i mi ryw ben nad ydw i wedi talu amdanynt - ond bod yn slei 'di hynny yn hytrach na'i gael am ddim yng ngwir ystyr y gair!

Enwch un peth 'dych chi'n difaru ei wneud?

Rhoi'r gorau i gael gwersi gitâr, yn bendant iawn. Byddwn i wrth fy modd.

Enwch un peth 'dych chi'n difaru peidio â'i wneud?

Dw i'n meddwl parhau i wneud ysgrifennu creadigol ar ôl i mi ennill mewn eisteddfod leol blynyddoedd yn ôl. Dw i hollol allan o bractis, ddim yn meddwl mor greadigol ag oeddwn i'n gallu, methu ysgrifennu darnau hir yn y lleiaf ac wedi colli'r ddawn yn ofnadwy ers hynny.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Pump am y Penwythnos - 11/4/08

Postiogan Jon Bon Jela » Gwe 11 Ebr 2008 11:21 am

Beth yw'r peth rhyfedda' i wneud i chi chwerthin?
Yr enw "Fanny Dribble" a roddwyd i fenyw yn America yn blentyn. Ces i ffit o chwerthin yn y gwaith, ac roedd rhaid i mi orwedd yn y stafell feddygol...
Beth yw'r peth rhyfedda' i wneud i chi lefain?
Gweler uchod.
Pryd oedd y tro diwetha' i chi gael rhywbeth am ddim?
Dwi'm yn cofio

Enwch un peth 'dych chi'n difaru ei wneud?
Peidio cau ffenest yr ystafell molchi rhyw fis yn ôl - yr ail ladrad mewn 4 mis.
Enwch un peth 'dych chi'n difaru peidio â'i wneud?[/quote]
Eto, gweler uchod.
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Re: Pump am y Penwythnos - 11/4/08

Postiogan Chickenfoot » Gwe 11 Ebr 2008 12:31 pm

Enwch un peth 'dych chi'n difaru peidio â'i wneud?

Yn 2003, gofynnodd Orig WIlliams os faswn i'n hoffi ddod lawr i Rhyl i hyfforddi fel reslar. Efalla mai fi fasa'r Celtic Warrior erbyn hyn. Wel, i ddweud y gwir sa'n well gen i fod yn Welsh Dragon, ond dyna fo. :?
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Pump am y Penwythnos - 11/4/08

Postiogan Dwlwen » Gwe 11 Ebr 2008 1:28 pm

Beth yw'r peth rhyfedda' i wneud i chi chwerthin?
Sioni Size

Beth yw'r peth rhyfedda' i wneud i chi lefain?
Gwylio'r marathon ar y teledu llynedd.

Pryd oedd y tro diwetha' i chi gael rhywbeth am ddim?
Tocyn sbar i Los Campesinos neithiwr :D

Enwch un peth 'dych chi'n difaru ei wneud?
Prynu byrgr ar y ffordd adre :wps:

Enwch un peth 'dych chi'n difaru peidio â'i wneud?
Golchi'r llestri a chlau'r ty :(
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos - 11/4/08

Postiogan Chickenfoot » Gwe 11 Ebr 2008 3:45 pm

Enwch un peth 'dych chi'n difaru ei wneud?

90% o'r dw i wedi dweud pan allan nos Wener a/neu Sadwrn
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Pump am y Penwythnos - 11/4/08

Postiogan joni » Gwe 11 Ebr 2008 4:01 pm

Beth yw'r peth rhyfedda' i wneud i chi chwerthin?
y boi ma ar blatfform drennau Bratislava. Nath e ddod oddi ar y tren, agor ei siwtces a ffymblo ambiti ynddo fe am ychydig. Ar ol sbel, o'dd e wedi adeiladu ci plastig ar olwynion. Nath e 'gerdded' y ci lawr y platfform a mas o'r orsaf. Croeso i bratislava, joni. Ffwcing bizarre.
Beth yw'r peth rhyfedda' i wneud i chi lefain?
Sai'n cofio. Dim byd rhyfedd iawn sen i'm yn meddwl.
Pryd oedd y tro diwetha' i chi gael rhywbeth am ddim?
Ges i £25 o'r banc am i fi newid acownt yn ddiweddar.
Enwch un peth 'dych chi'n difaru ei wneud?
Meddwi'n ormodol.
Enwch un peth 'dych chi'n difaru peidio â'i wneud?
Dwi'n difaru peidio a gwneud ******. O'dd hi'n smart.
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Pump am y Penwythnos - 11/4/08

Postiogan Chickenfoot » Gwe 11 Ebr 2008 4:13 pm

Pryd oedd y tro diwetha' i chi gael rhywbeth am ddim?

Yn 2003, pan roeddwn i dal yn feddwl bod obaith i fi fel newyddiadurwr - I was very young - roeddwn i'n cael lot o cds am ddim gan wahanol gwmniau. Ges i albym y Super Furries ymysg eraill. Hefyd, es i Wakestock am ddim , a pnawn Dydd Gwener oedd "Free Movies at the Mutliplex Day". Granted, y tri cyntaf i mi weld oedd Daddy Day Care, Kangaroo Jack a Charlie's Angels 2 (Drew Barrymore: phnrrrrrr), ond roedd o dal yn ffordd neis o dreulio pnawn dydd Gwener.
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Pump am y Penwythnos - 11/4/08

Postiogan krustysnaks » Gwe 11 Ebr 2008 4:53 pm

Beth yw'r peth rhyfedda' i wneud i chi chwerthin?
Rhyw hen salm bisâr yn y Capel cwpwl o flynyddoedd yn ôl. Nes i fyrstio allan yn chwerthin yng nghanol un o'r darnau tawel rhwng y cymalau... Wps.

Beth yw'r peth rhyfedda' i wneud i chi lefain?
Gweld dynes yn rhoi genedigaeth ar 'Dawn ... gets a baby'.

Pryd oedd y tro diwetha' i chi gael rhywbeth am ddim?
Prynais i bâr o esgidiau a throwsus yn ddiweddar ond Mam dalodd.

Enwch un peth 'dych chi'n difaru ei wneud?
Mynd i'r sinema i weld Galaxy Quest.

Enwch un peth 'dych chi'n difaru peidio â'i wneud?
Sôn am rywbeth oedd yn berthnasol ond nes i anghofio amdano mewn cyfweliad ddoe.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Pump am y Penwythnos - 11/4/08

Postiogan Chickenfoot » Gwe 11 Ebr 2008 5:11 pm

[quote="krustysnaks"]

Beth yw'r peth rhyfedda' i wneud i chi lefain?
Gweld dynes yn rhoi genedigaeth ar 'Dawn ... gets a baby'.

[quote]

Gobeithio 'roedd y gwaith camera yn discreet.
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron