Trybini yn yr economi

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Trybini yn yr economi

Postiogan rooney » Llun 14 Ebr 2008 11:35 pm

Trybini yn yr economi. Y farchnad dai yn disgyn a disgyn. Credit yn sychu fyny. Prisiau bwyd i fyny.

A beth mae Brown yn wneud? Rhoi trethi fyny a hamro y bobl ar gyflogau <£18k.

Llafur allan etholiad nesaf, hen bryd.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Trybini yn yr economi

Postiogan Muralitharan » Llun 14 Ebr 2008 11:44 pm

Tori wyt ti felly Rooney ...?
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Re: Trybini yn yr economi

Postiogan rooney » Llun 14 Ebr 2008 11:55 pm

Muralitharan a ddywedodd:Tori wyt ti felly Rooney ...?


Nac ydw. Beth sydd gan hyn i'w wneud hefo'r pwnc?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Trybini yn yr economi

Postiogan Monkeyspoon » Maw 15 Ebr 2008 2:35 am

Yn anffodus, taset ti'n moyn gweld Brown gadael rhif 10, baset ti'n croeso'r twat Cameron i mewn. Paid a gadael hynny'n digwydd plis!!!!! Dyw e ddim o'r planed hwn.
Monkeyspoon
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 13
Ymunwyd: Gwe 10 Tach 2006 12:06 am
Lleoliad: Porthcawl a Chaerdydd

Re: Trybini yn yr economi

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 15 Ebr 2008 2:44 pm

'Dan ni mond yn teimlo hyn achos ein bod ni wedi'i chael hi'n weddol dda am gyfnod rhy hir. Mae economi wastad yn mynd i fyny ac i lawr oherwydd tueddiadau byd-eang, ac er na ellir amddiffyn y gyllideb, nid bai'r llywodraeth hon ydi'r "argyfwng" presennol, ac nid Prydain yn unig yr effeithir arni. Peth arall yw gweld sut bydd y llywodraeth yn ymdopi â'r peth, wrth gwrs.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Trybini yn yr economi

Postiogan Nanog » Maw 15 Ebr 2008 7:57 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:'Dan ni mond yn teimlo hyn achos ein bod ni wedi'i chael hi'n weddol dda am gyfnod rhy hir. Mae economi wastad yn mynd i fyny ac i lawr oherwydd tueddiadau byd-eang, ac er na ellir amddiffyn y gyllideb, nid bai'r llywodraeth hon ydi'r "argyfwng" presennol, ac nid Prydain yn unig yr effeithir arni. Peth arall yw gweld sut bydd y llywodraeth yn ymdopi â'r peth, wrth gwrs.


Ti'n jocan? Pan oedd pethau yn ymddangos fel petai nhw'n mynd yn dda.......mi roedd Brown a'i lywodraeth eisiau'r clod i gyd. Ond nawr, gan fod pethau yn amlwg yn troi'n wael, bai pethau y tu hwnt i Brydain yw nhw. Iawn. Gwleidyddion saimllyd, celwyddog yw nhw wedi'r cyfan. Ond, beth sy'n druenis yw fod pobl fel tithe yn llyncu'r cwbwl. Gyda llaw, dwi'n cofio dweud rhwy flwyddyn yn ol fod pethau ddim yn dda.....ac mi wnes di anghytuno. Ti'n cofio? Wyt ti'n aelod o'r Blaid Lafur?

"I will not allow house prices to get out of control and put at risk the sustainability of the recovery ."

Gordon Brown, 1997 Budget Statement.

:lol:
Golygwyd diwethaf gan Nanog ar Mer 16 Ebr 2008 7:29 am, golygwyd 1 waith i gyd.
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Trybini yn yr economi

Postiogan rooney » Mer 16 Ebr 2008 12:05 am

Nanog a ddywedodd:Ti'n jocan? Pan oedd pethau yn ymddangos fel petai nhw'n mynd yn dda.......mi roedd Brown a'i lywodraeth eisiau'r clod i gyd. Ond nawr, gan fod pethau yn amlwg yn troi'n wael, bai pethau y tu hwnt i Brydain yw nhw. Iawn. Gwleidyddion saimllyd, celwyddog yw nhw wedi'r cyfan.


Cywir, mae'r safonau dwbl yn anhygoel, hyd yn oed i'w safonau isel nhw.

ac nid wyf yn ffyddiog iawn o Cameron yn rhif 10, er byddai bron unrhywun gyda gwell syniad na'r clowns presennol.

Wedi'r cyfan mae Prydain, trwy lywodrathau toriaidd a llafur, wedi gwerthu allan Prydain i'r Undeb Ewropeaidd heb rhoi cyfle i'r etholwyr roi eu barn- gwarth. 80% o'r deddfau yn dod o Ewrop. Blair fydd arlywydd Ewrop ymhen ychydig. Mae e'n gwybod pryd i adael y mes i bobl eraill!!!!
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Trybini yn yr economi

Postiogan Prysor » Mer 16 Ebr 2008 2:45 pm

Rwan bod dim gwahaniaeth rhwng polisiau economaidd a chymdeithasol Llafur Newydd a'r Toriaid, dwi'n pwyso a mesur ffactorau eraill, fel,

- obsesiwn Brown a Llafur efo Prydeindod,
- obsesiwn Brown a Llafur efo cyfyngu'n hawliau,
- ID cards,
- carcharu am 42 diwrnod heb gyhuddiad,
- CCTV,
- casglu gwybodaeth personol (mae'r llywodraeth Llafur bellach yn cadw mwy o eitemau gwybodaeth personol ar ei dinasyddion nag oedd y Stasi yn Nwyrain yr Almaen cyn cwymp wal Berlin),
- biwrocratiaeth bananas (Llafur wedi pasio cannoedd o gyfreithiau dibwys sydd yn gwneud bywyd yn anodd a drytach i bawb,
- gwario biliynnau a biliynnau ar ladd pobl yn Irac

ac o ystyried rhain (hyd yn oed heb anghofio mesurau adweithiol y Toriaid dan Thatcher, a Michael Howard fel Gweinidog Gwladol), mae rhaid imi ddweud y byddai Cameron yn rhif 10 yn gwneud imi gysgu'n dawelach nag ydw tra bydd Brown a'r Staliniaid eraill mewn grym
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Trybini yn yr economi

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 16 Ebr 2008 3:14 pm

Nanog a ddywedodd:Ti'n jocan? Pan oedd pethau yn ymddangos fel petai nhw'n mynd yn dda.......mi roedd Brown a'i lywodraeth eisiau'r clod i gyd. Ond nawr, gan fod pethau yn amlwg yn troi'n wael, bai pethau y tu hwnt i Brydain yw nhw. Iawn. Gwleidyddion saimllyd, celwyddog yw nhw wedi'r cyfan. Ond, beth sy'n druenis yw fod pobl fel tithe yn llyncu'r cwbwl.


Ydw achos dwi'n thick a ddim yn gwybod dim byd am yr economi nadw? Mae UNRHYW lywodraeth isio'r clod am bethau'n mynd yn iawn ac yn ysgubo'r baich pan mae pethau'n mynd yn draed moch. Ond nid llyncu geiriau gwleidyddion dwi fel rwyt ti'n awgrymu - bydd unrhyw economegwr neu arbenigwr ariannol yn dweud wrthyt bod y problemau presennol yn eu hanfod yn deillio o sefyllfa'r farchnad dai yn yr UDA. Mae sut mae gwledydd yn delio gyda hynny yn amrywio, gyda rhai mewn gwell sefyllfa i wneud nag eraill.

Dw i'm yn cofio trafod efo chdi am hyn o'r blaen, ond dydi'r economi dal ddim yn gwneud yn rhy ddrwg o ystyried y ffactorau byd-eang (na ellir eu hanwybyddu). Yn wahanol i nifer o wledydd rhagwelir twf economaidd ym Mhrydain dros y flwyddyn nesaf o hyd, sy'n uwch na Ffrainc neu'r Almaen. Dydi pethau ddim yn grêt rwan, ond mae'n nhw'n parhau i fod yn iawn.

Na, dydi pethau ddim yn ddelfrydol a bydd pethau'n anodd, ond mi fynna i bod pethau'n ymddangos yn waeth oherwydd bod y rhan fwyaf o bobl wedi cael pethau'n gymharol dda dros y ddegawd ddiwethaf.

Nanog a ddywedodd: Wyt ti'n aelod o'r Blaid Lafur?


Ydw, wrth gwrs :rolio:
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Trybini yn yr economi

Postiogan Nanog » Mer 16 Ebr 2008 9:13 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:
Ydw achos dwi'n thick a ddim yn gwybod dim byd am yr economi nadw?


Sdim ishe fod mor sensitif.....jysd dweud wrthot oeddwn dy fod yn anghywir. :)




......bydd unrhyw economegwr neu arbenigwr ariannol yn dweud wrthyt bod y problemau presennol yn eu hanfod yn deillio o sefyllfa'r farchnad dai yn yr UDA. Mae sut mae gwledydd yn delio gyda hynny yn amrywio, gyda rhai mewn gwell sefyllfa i wneud nag eraill.
[/quote]

Wyt ti'n gwybod fod y swigen dai yn waeth yn y DU na'r UDA? Mi rydym ni jysd rhywfaint ar ei hol hi o rhan amser. Dim ond un tric sydd gan Brown o be wela i....a hynny yw cadw prisiau tai lan. Mi roedd ganddo gyfle i arafu'r holl beth rhai blynydde yn ol drwy godi cyfraddau llog i fwrw dwr oer ar yr holl fenthyg ond na......beth wnaeth e oedd chwarae gyda'r ffigyrau chwyddiant er mwyn dweud fod chwyddiant dan reolaeth. Felly, cadw cyfraddau llog yn isel a chreu un o'r swigod mwya a welwyd erioed.....nid draw dros y mor ond yma hefyd. Mae'n rhaid iddo ddod i ben rhywbryd......neu a yw prisiau tai i fod mynd i fyny mewn llinell syth yn dragwyddol? Na......ond er mwyn achub ei groen ei hunan hy ceisio ennill term arall fel Prif Weinidog, fe fydd e'n ceiso ail greu'r swigen drwy gostwng cyfraddau llog a ceisio ail ddechrau'r frenzy o fenthyg a mynd i mewn i ddyledion enfawr. Efalle fy mod i'n anghywir ( gan taw nid economegydd ydw i), ond yr mwya mae hyn yn mynd ymlaen.....rwy'n credu taw'r mwya poenus fydd y cwymp ar y diwedd. Mae'r marchnadoedd arian yn barod yn sylweddoli fod rhywbeth o le gyda'r bunt yn cwympo erbyn yr Ewro ac hyn yn oed y dollar yn ddiweddar. Bydd hyn fel rwyt ti'n gwybod yn golygu fod pobpeth yr ydym yn menwforio....olew, bwyd, egni, a llu o bethau arall yn mynd yn ddrytach.......ond fydd pobpeth yn iawn....gan fod prisiau ein tai yn dal i fynd i lan.....yn ol gwerth y bunt! :rolio: Ond bydd ein cyflogau/pensiynau ddim yn mynd lan gyda chwyddiant......achos mae nhw wedi rigo'r ffigyrau. Mi ddown i nol at hyn eto......ymhen amser i weld sut fydd pethau'n datblygu.....ac i weld a yw'r "economegwr neu arbenigwr ariannol" 'ma rwyt yn son amdano yn gywir. Cofia, yr arbennigwyr 'ma sydd wedi creu'r cawdel....(sorri sefyllfa) yr ydym ynddo yn awr.

Sorri os mae hynna yn swnio fel rant ond dwi'n gofidio o biti beth mae'r muppets yn gwneud i'r economi ac rwy'n teimlo'n uffernol o rwystredig nag yw'r cyfryngau yn cwestiyna mwy o'r ffigyrau chwyddiant mae'r diawled yn rhoi allan.
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 20 gwestai

cron