Rhag ofn bod unrhyw un efo diddordeb, bydd y gyfradd ar gyfer blwyddyn nesaf (o mis Medi ymlaen) yn 3.8%, sef cyfradd RPi mis dwytha.
http://www.statistics.gov.uk/cci/nugget.asp?id=19Rhys Llwyd a ddywedodd:Dwi deffinetaly yn pleidleisio i David Cameron yn yr etholiad nesaf rwan
Ia, wel, ma'r economi yn bananas ar y funud, ydi'r Toris yn barod i ail-afael yn eu teitl o fod yn blaid 'economic competence'? rhywbeth a chwalwyd gan yr ERM etc yn nechrau'r 90au?? Dwi ddim mor siwr.
Y realiti, ar hyn o bryd, yw fod chwyddiant yn beth personol iawn. Hynny yw mae RPI o gwmpas 4%, ond aeth fy nghyflog mond i fyny 2.45% llynedd, a bydd rhywbeth tebyg eleni. Fodd bynnag, mewn gwirionedd mae chwyddiant 'fi' yn llawer uwch na 4%. Mae gen i round trip o dros 60 milltir y diwrnod i'r gwaith, ac mae pris tanwydd y fyny rhyw 28% ar llynedd dwi meddwl. Mae bwyd ar tua 15% yn gyffredinol, ac mae costau cynnal ty i fyny lot mwy na 5% hefyd. Yn anffodus, mae'r CPI a'r RPI yn llawn pethau fel washing machines, plasma tv's ac usb memory sticks (achos ma pawb yn prynu rhain bob dydd dydi
) sydd wedi gostwng mewn pris dros y flwyddyn diwethaf, ac felly'n sciwio'r indecs. Mewn theori, dylai chwyddiant uwch fod yn beth da i bobl hefo dyled (fel morgeisi, sydd ddim yn index linked), gan fod gwerth y ddyled yn lleihau, ond mewn gwirionedd, mae pobl yn dlotach gan nad yw cyflogau'n codi ar yr un raddfa.
Amser i fi ffeindio gwaith nes at adra ella......