Benthyciadau Myfyrwyr (cyfradd llog wedi dyblu eleni!)

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Benthyciadau Myfyrwyr (cyfradd llog wedi dyblu eleni!)

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 23 Ebr 2008 7:46 pm

Heddiw yma ces i fy nghyfriflen trwyddo gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr a ches i sioc i weld fod y cyfradd llog wedi newidio o 2.4% i 4.8% - hynny yw wedi DYBLU - ac nid i'r flwyddyn sydd i ddod ond i'r flwyddyn (ariannol) sydd newydd ddod i ben. I mi mae'n fil o £230 ac un, wrth reswm, toeddw ni ddim yn ei ddisgwyl. Tydy hyn yn sal dudwch?!

Yn ail, dwi dal yn fyfyriwr llawn amser (ol-raddedig) ac ddim yn ennill clincian heb son am ennill dros y trothwy o £15,000 felly oes rhywun yn gwybod os oes hawl gennai osgoi llog yn llwyr tra mod i dal mewn addysg llawn amser?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Benthyciadau Myfyrwyr (cyfradd llog wedi dyblu eleni!)

Postiogan ceribethlem » Mer 23 Ebr 2008 8:07 pm

Fi ddim yn gwbod beth yw'r drefn nawr, ond y drefn oedd bod ti yn defyro am flwyddyn bob tro. Ffonia nhw i ofyn.
Pan ddechreuais i dysgu, odd rhaid i fi llenwi ffurflen bob blwyddyn i gadarnhau fy mod yn exempt o dalu'r stiwdant loan. Nawr fi'n cadw'n exempt tan bod fi'n gweud wrtho nhw bod fi ddim yn exempt bellach (h.y. dysgu llai na 50% o'r amserlen yn Gwyddoniaeth).
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Benthyciadau Myfyrwyr (cyfradd llog wedi dyblu eleni!)

Postiogan huwwaters » Mer 23 Ebr 2008 9:01 pm

Y llywodraeth mewn trafferthion ariannol. Ceisio codi treth ar y tlodion, angen benthyg £50biliwn i fanciau, cenedlaetholi Northern Rock, codi llog ar fenthyciade myfyrwyr.

Braidd yn amlwg.

Peth arall efo benthyciade myfyrwyr, neu y cwmni ei hun yw nad ydynt yn deutha chi yn union faint sydd arnoch i'w dalu'n ôl. Ma fy chwaer wedi bod yn ceisio gwneud - talu'r dyled gyda lump sum, er y llythyru cyson ma nhw'n gwrthod neu yn methu rhoi ffigwr penodol o be sy'n sbar ac yn parhau i gymyd pres o symiau amrwyiol yn fisol o'i hennillion.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Benthyciadau Myfyrwyr (cyfradd llog wedi dyblu eleni!)

Postiogan Seonaidh/Sioni » Mer 23 Ebr 2008 9:13 pm

huwwaters a ddywedodd:Ma fy chwaer wedi bod yn ceisio gwneud - talu'r dyled gyda lump sum, er y llythyru cyson ma nhw'n gwrthod neu yn methu rhoi ffigwr penodol o be sy'n sbar ac yn parhau i gymyd pres o symiau amrwyiol yn fisol o'i hennillion.


Wow! Os gall eich chwaer dangos yn bendant eu bod nhw'n gwrthod derbyn ei chais am dalu'r cyfan ar unwaith, ymddengys i mi fod achos gadarn ganddi hi am beidio talu geiniog mwy nol erioed.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Benthyciadau Myfyrwyr (cyfradd llog wedi dyblu eleni!)

Postiogan 7ennyn » Mer 23 Ebr 2008 11:15 pm

huwwaters a ddywedodd:Y llywodraeth mewn trafferthion ariannol. ... codi llog ar fenthyciade myfyrwyr.
Mae cyfradd llog benthyciadau myfyrwyr ynghlwm i'r gyfradd chwyddiant. Tydi'r llywodraeth heb godi'r gyfradd llog yn uniongyrchol. Ond tydi cyflogau ddim yn cadw fyny hefo'r gyfradd chwyddiant ar hyn o bryd, felly mae'r codiad yng nghyfradd llog benthyciadau myfyrwyr yn gallu achosi caledi.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Re: Benthyciadau Myfyrwyr (cyfradd llog wedi dyblu eleni!)

Postiogan krustysnaks » Mer 23 Ebr 2008 11:23 pm

Mae'r gyfradd llog ar fenthyciadau myfyrwyr wedi codi ers mis Medi y llynedd.

Bastads.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Benthyciadau Myfyrwyr (cyfradd llog wedi dyblu eleni!)

Postiogan iwmorg » Iau 24 Ebr 2008 7:40 am

Mae cyfradd llog benthyciad myfyrwyr yn based ar RPI (retail price index) mis Mawrth bob blwyddyn. O be dwi'n ddeall, mae'n dod lawr eleni. Roedd mis Mawrth 2007 yn un uchel am chwyddiant - 4.2% dwi meddwl - felly roedd llog yn uchel braidd llynedd.

Hefyd Rhys - ti wedi bod yn talu llog arno fo ers y dwirnod cyntaf mae gen i ofn - yn 2003 fel fi!! Felly dwim yn meddwl gei di beidio talu llog am dy fod yn dal yn fyfyriwr.

HEFYD - Cofiwch mae dyma'r ffurf rhataf o ddyled sy'n bodoli (heblaw am banc of mam a dad ella!) ac nad oes pwrpas mewn gwirionedd ceisio ei dalu mewn 'lwmp swm' fel oedd rywun yn awgrymu. Rydych chi'n talu 9% o bob dim dros £15000 nes fod y ddyled wedi'w thalu - sy'n fforddiadwy yn fy marn i beth bynnag eich cyflog. (Dwi'n talu tua £16-17 y mis ar hyn o bryd - a bydd yn mynd i fyny hefo nghyflog nes fydd wedi ei dalu yn llawn) Yn ogystal, dydio'n gwneud dim synnwyr talu symiau mwy oherwydd y gyfradd llog sydd arno. Os yw'n 2/3/4/5% neu beth bynnag eleni neu flwyddyn nesaf, mae ISA's sy'n talu gwell na hyn ar gael - cymaint a 6.5% yn ddi dreth ar hyn o bryd dwi'n meddwl - felly da chi well off yn safio pres na talu dylad rhad i ffwrdd ar hyn o bryd. Moral of the story? Da chi'n lluchio pres i ffwrdd drwy dalu dyled myfyriwr yn ol yn fuan!! :D
Rhithffurf defnyddiwr
iwmorg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 328
Ymunwyd: Iau 01 Mai 2003 9:04 am

Re: Benthyciadau Myfyrwyr (cyfradd llog wedi dyblu eleni!)

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 24 Ebr 2008 8:19 am

iwmorg a ddywedodd:Cofiwch mae dyma'r ffurf rhataf o ddyled sy'n bodoli (heblaw am banc of mam a dad ella!) ac nad oes pwrpas mewn gwirionedd ceisio ei dalu mewn 'lwmp swm' fel oedd rywun yn awgrymu. Rydych chi'n talu 9% o bob dim dros £15000 nes fod y ddyled wedi'w thalu - sy'n fforddiadwy yn fy marn i beth bynnag eich cyflog.


Diolch am glirio hyn fyny Iwan. Dyna oeddw ni'n feddwl yn wreiddiol, hynny yw, for a benthyciad i'ts a gwd one, ond fe wnaeth y naid i 4.8% fy nychryn braidd a neud i fi ail-feddwl o'r newydd ynghlyn a sut oedd taclo'r ddyled.

Dwi deffinetaly yn pleidleisio i David Cameron yn yr etholiad nesaf rwan :winc:
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Benthyciadau Myfyrwyr (cyfradd llog wedi dyblu eleni!)

Postiogan S.W. » Iau 24 Ebr 2008 10:13 am

Mae fy ngwraig yn cale problem gyda'r idiots sy'n galw eu hunain y Student Loan Company hefyd. Er ei bod hi di bod yn gweithio llawn amser ers gadael y Brifysgol ers dros 3 blynedd a dros 2 flynedd o ennill dros £15,000 di'r idiots erioed di cymryd arian o'i chyflog i ddechrau talu ei benthyciadau. Mai di ffonio nhw sawl gwaith a di bod mewn cyswllt ag adran cyflogau ei chyflog. Mai di cael addewid ar ol addewid y byddan nhw'n dechrau cymryd y cyflog ar ddyddiadau penodol a does dal dim byd wedi digwydd. Ffoniodd hi nhw eto wsnos dwetha i gwyno a cwbwl gafodd hi'n nol oedd "we will make sure your payments start soon". Tra mae hyn yn digwydd mae maint y ddyled yn codi a chodi a chodi a chodi.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re: Benthyciadau Myfyrwyr (cyfradd llog wedi dyblu eleni!)

Postiogan iwmorg » Iau 24 Ebr 2008 11:28 am

Rhag ofn bod unrhyw un efo diddordeb, bydd y gyfradd ar gyfer blwyddyn nesaf (o mis Medi ymlaen) yn 3.8%, sef cyfradd RPi mis dwytha. http://www.statistics.gov.uk/cci/nugget.asp?id=19

Rhys Llwyd a ddywedodd:Dwi deffinetaly yn pleidleisio i David Cameron yn yr etholiad nesaf rwan


Ia, wel, ma'r economi yn bananas ar y funud, ydi'r Toris yn barod i ail-afael yn eu teitl o fod yn blaid 'economic competence'? rhywbeth a chwalwyd gan yr ERM etc yn nechrau'r 90au?? Dwi ddim mor siwr.

Y realiti, ar hyn o bryd, yw fod chwyddiant yn beth personol iawn. Hynny yw mae RPI o gwmpas 4%, ond aeth fy nghyflog mond i fyny 2.45% llynedd, a bydd rhywbeth tebyg eleni. Fodd bynnag, mewn gwirionedd mae chwyddiant 'fi' yn llawer uwch na 4%. Mae gen i round trip o dros 60 milltir y diwrnod i'r gwaith, ac mae pris tanwydd y fyny rhyw 28% ar llynedd dwi meddwl. Mae bwyd ar tua 15% yn gyffredinol, ac mae costau cynnal ty i fyny lot mwy na 5% hefyd. Yn anffodus, mae'r CPI a'r RPI yn llawn pethau fel washing machines, plasma tv's ac usb memory sticks (achos ma pawb yn prynu rhain bob dydd dydi :rolio: ) sydd wedi gostwng mewn pris dros y flwyddyn diwethaf, ac felly'n sciwio'r indecs. Mewn theori, dylai chwyddiant uwch fod yn beth da i bobl hefo dyled (fel morgeisi, sydd ddim yn index linked), gan fod gwerth y ddyled yn lleihau, ond mewn gwirionedd, mae pobl yn dlotach gan nad yw cyflogau'n codi ar yr un raddfa.

Amser i fi ffeindio gwaith nes at adra ella......
Rhithffurf defnyddiwr
iwmorg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 328
Ymunwyd: Iau 01 Mai 2003 9:04 am

Nesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Bing [Bot] a 6 gwestai

cron