rooney a ddywedodd:Mae gwledydd sydd wedi gwadu Duw wedi bod yn fethiant yn y byd, ac wedi cyflwyno dinistr nas gwelwyd erioed o'r blaen.
Sut mae'r ddamcaniaeth yna'n esbonio llwyddiant China ac India yn ddiweddar?
Fel y dywedodd Ceribethlem mae elfen o ffydd ynghlwm a chenedlaetholdeb, ond nid ceisio cyfiawnhau crefydd drwy ddweud bod cenedlaetholdeb yn seiliedig ar ffydd oeddwn i. Wrth gwrs bod angen ffydd arnom ni i fyw ein bywydau bob dydd, ond yn wahanol i grefydd mae ein ffydd yn y pethau elfennol dydd i ddydd rheini wedi ei gefnogi gan dystiolaeth gadarn. Mae ffydd yn rhan annatod o wleidyddiaeth - ffydd y byddai Prydain yn well gyda'r Toriad mewn grym na Llafur, er engraifft.
Dwi'n derbyn pwynt Gasyth ynglyn a ffynhonnel cenedlaetholdeb yn yr oes fodern, ond dwi'm yn credu bod 'dyma'r ffordd gorau i drefnu cymdeithas' yn esbonio'r brwdfrydedd gwladgarol y mae cenedlaetholdeb yn ei beri mewn pobol.
Er engraift, mae hanner fy nheulu yn byw yn Lloegr. Mae fy nghefndryd wedi cael i bob pwrpas yr un fagwraeth a mi, jed dros y ffin - y gwahaniaeth mwya ydi bod fy nheulu ochor yma i'r ffin yn genedlaetholwyr brwd o blaid Cymru, ac bod fy nghefndryd yn teimlo'n union yr un fath am Loegr. Pa resymeg sydd yna i hynny, wir? Dyw fy nghasgliad i o fflagiau, symbolau, arwyr a seintiau ddim mwy na llai perthnasol nag eu rhai nhw. Eu pwrpas yw dynodi fy mod i'n rhan o un llwyth a nhwythau o lwyth arall, fel pe bai ni nol yn glynu plu peunod i'n gwallt yn y diffeithwch. Dim ond sgil effaith ein esblygiad o greuaduriaid oedd yn byw mewn llwythi ydi hynny, rywbeth hollol afresymegol, a byddai ochor weinyddol y genedl yn gweithio'n union yr un fath hebddo.
Ond eto mae gyda ni ryw fath o gariad ffôl tuag at ein 'llwyth' ni, a'r holl petheuach sy'n dod ynghlwm a fo. Felly pan mae anffyddwyr cenedlaetholgar yn condemnio crefydd am fod yn afresymegol a'n sgil effaith o'n esblygiad, falle dylen nhw edrych yn agosach at adre.