Cenedlaetholdeb

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Cenedlaetholdeb

Postiogan Macsen » Sul 27 Ebr 2008 10:23 pm

Duw a ddywedodd:Mae c.d. yn rhoi ffocws i'n brwydrau beunyddiol. Cryfder mewn niferoedd ayyb. Mae gwleidyddiaeth, ffactorau economaidd, cynhesu byd-eang ac ati yn real - bydd y rhain yn effeithio ar ein ffordd o fyw yn y dyfodol. Bydd pobl yn edrych am bobl eraill sy'n teimlo'r un ffordd ac yn ymgasglu - stad naturiol (cryfder mewn niferoedd) - dim byd afresymegol mor belled a dwi'n gallu gweld.

Does dim byd afresymegol mewn ymgasglu gyda pobol gyda'r un meddylfryd a thi ar bynciau fel cynhesu byd-eang, ayyb - mewn cryfder mae nerth fel ti'n dweud - ond fel cenedlaetholwr ti'n 'ymgasglu' gyda pobol sydd ddim â'r un meddylfryd a ti o gwbwl jesd oherwydd eu bod nhw'n Gymry. Mae gan rhai Cymry farn hollol groes i ti ar wleidyddiaeth, ffactorau economaidd a cynhesu byd eang, ond ti'n sefyll yn falch wrth eu hochor ar yr amod eu bod nhw'n saliwtio'r un fflag. Ac yn pelhau dy hun o bobol sydd a'r un farn a thi am eu bod nhw'n saliwtio fflag gwahanol. Afresymegol!

Pam ydy c.d. yn afresymegol? Stad naturiol ydyw yn deillio o ddiogelu'r genynnau

Rhag beth? Petai ti'n penderfynu bod yn genedlaetholwr unrhyw wlad arall, byddai dy ennynau yn saff. Yr un rhywogaeth o anifail sy'n teyrnasu ymhob gwlad - allet ti atgenhedlu gyda pob un ohonyn nhw.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Cenedlaetholdeb

Postiogan Duw » Sul 27 Ebr 2008 11:18 pm

Macsen a ddywedodd:Petai ti'n penderfynu bod yn genedlaetholwr unrhyw wlad arall, byddai dy ennynau yn saff. Yr un rhywogaeth o anifail sy'n teyrnasu ymhob gwlad - allet ti atgenhedlu gyda pob un ohonyn nhw.


Cytuno - cryfder mewn niferoedd - nid yn afresymegol.

Macsen a ddywedodd:fel cenedlaetholwr ti'n 'ymgasglu' gyda pobol sydd ddim â'r un meddylfryd a ti o gwbwl jesd oherwydd eu bod nhw'n Gymry. Mae gan rhai Cymry farn hollol groes i ti ar wleidyddiaeth, ffactorau economaidd a cynhesu byd eang, ond ti'n sefyll yn falch wrth eu hochor ar yr amod eu bod nhw'n saliwtio'r un fflag. Ac yn pelhau dy hun o bobol sydd a'r un farn a thi am eu bod nhw'n saliwtio fflag gwahanol. Afresymegol!


Mae fy syniad i o c.d. efallai yn wahanol iawn i'r person nesaf. Mae c.d. yn golygu pethe gwahanol i bawb. Nid yw pawb yn ffitio'r disgrifiad mewn geiriadur. Y ffaith fy mod yn c.d.wr yn golygu fy mod yn hapus i ymgasglu a gwahanol bobl yng Nghymru - hyd yn oed Gogs! Mae'n gwahaniaethau mor bwysig ag unrhyw beth - gwlad ddiflas byddai un llawn pobl homogenaidd. Mae perthyn i wlad yn cynorthwyo cadw diwylliant, iaith ac ati'n fyw. Anodd iawn yw cadw eich traddodiadau mewn byd modern os nac oes plot o dir ag enw gennych. Sut ydy hyn yn afresymegol? I mo'yn cadw yr hyn rwyt yn caru?

Ac i gloi (a diolch byth dwi'n dy glywed), dwi erioed wedi pellhau fy hun o 'estroniaid'. Dwi'n siarad sawl iaith ac yn teithio'n aml ac yn mwynhau diwylliant gwledydd eraill, gan gynnwys Lloegr. Dwi ddim yn deall pam ddylai caru dy wlad feddwl dy fod am gachu ar wledydd eraill. Dwi erioed wedi deall 'ny. Falle bo hyn oherwydd dwi heb fod gorfod gwynebu gelyn ar dir ein hunain - dwi'n cofio'r Malfinas, ond stim atgasedd gennyf at bobl o'r Ariannin.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Cenedlaetholdeb

Postiogan rooney » Sul 27 Ebr 2008 11:33 pm

Duw a ddywedodd:Mae anffydd angen ffydd??


rwyt yn rhoi dy ffydd fod dim Duw/duwiau/pwer uwch, fod dim creawdwr i'r bydysawd, fod dim dimensiwn ysbrydol, fod bywyd wedi cychwyn o'r di-fywyd wrth ei hunan (er fod hyn erioed wedi ei weld, ac fod y tebygolrwydd o hyn ddigwydd yn anhygoel o isel fel fod e'n "patently absurd"), fod y bywyd "syml" (dim shwd beth, mae'r gell symlaf yn hynod gymleth) yma wedi esblygu a chynyddu mewn gwybodaeth dros filiynau o flynyddoedd i greu gwleidyddion a phengwins (yer right!), ac fod bywyd yn rhywle arall yn y bydysawd (dim tystiolaeth). Lot o ffydd.

Os oedd darn o dystiolaeth yn dod i siglo yr hyn roeddwn yn ei gredu, byddwn yn delio gydag e a phenderfynu os oedd angen newid fy safbwynt. Mae'r sefydliad gristnogol ar y llaw arall yn ceisio gwadu, anwybyddu, cyfaddawdu os oes tystiolaeth yn mynd erbyn ei herbyn.


fel beth?

Yn anffodus, bydd wastod arweinwyr a defaid yn ein plith.


sut all cymdeithas weithredu heb awdurdod? heb arweinwyr? heb bobl yn ufuddhau i reolau deddf gwlad a chod moesol?

Bydd arweinwyr yn aml yn edrych am ffyrdd o gadw pwer - ffyrdd hawdd - apelio at grefydd a c.d. Mae crefydd yn beth ofnadwy o hawdd i ddefnyddio - dilynwyr ofergoelus, yn barod i wrando ar awdurdod ac i glywed am wyrthoedd. Pa mor hawdd yw winclo arian allan ohonynt mewn enw Iesu. Mae angen i ti roi dy bensiwn i mi yr wythnos hon er mwyn adeiladu pwll nofio yn f'ardd. TV Preacherland - da iawn bois. Tybed sawl pab dros y canrifoedd sydd wir yn credu yn yr hyn maent yn pregethu ar ol darllen yr holl 'sgruthurau yn dadle yn erbyn eu ffydd. Naill ai gwadu/anwybyddu neu dweud celwydd noeth wrth y defaid. A chyn bod rhywun yn fy nghyhuddo o fod yn wrth-gatholig, hoffwn ddweud fy mod yn meddwl bod pob gristion yn dioddef o salwch meddwl.


gad dy gwyno- does dim Cristion yn rhoi gwn yn dy ben i gymryd arian gen ti.

mae'r holl bobl ti'n cysidro sydd gyda "salwch meddwl" yn talu trethi i dy addysgu, gwasanaeth iechyd, adeiladu ffyrdd, amddiffyn y wlad, ... yn wir mae dylanwad Cristnogaeth yn ddyfn ym mhob sefydliad o'n cwmpas... gan gynnwys rhyddid llafar a hawliau dynol sylfaenol sydd ddim i'w cael mewn gwledydd anffyddiol, mae'r iwtopias anffyddiol wedi cael eu trio ac i gyd wedi methu gyda miliynau wedi talu'r pris ganrif ddwetha, dysga o hanes

i gloi, plis eglura i ni sut ddylai pobl sydd gyda "salwch meddwl" gael eu trin? ddylai nhw gael eu caniatau i weithio? i gael plant? sut fydde ti'n trin y "salwch meddwl" yma?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Cenedlaetholdeb

Postiogan rooney » Sul 27 Ebr 2008 11:53 pm

Macsen a ddywedodd:Sut mae'r ddamcaniaeth yna'n esbonio llwyddiant China ac India yn ddiweddar?


Beth am gymharu gyda llwyddiant Prydain a'i ymerodraeth (ddim bellach, wrth gwrs!), ac wedyn yr Unol Daliethau, gyda llawer llai o boblogaeth. Rhy fuan o lawer i ddisgrifio China a India fel "llwyddiant", yr unig reswm mae nhw'n dechrau llwyddo yw am fod nhw'n dilyn ffyrdd gorllewinol... fe fydde Cristnogaeth yn lledaenu fel tan gwyllt yn China petae nhw'n gadael eu pobl fod. Fe wnaeth yr ymedrodraeth Rufeinig wneud ei bwrpas ond lle mae hi heddiw? Pwy fyddai'n meddwl ar y pryd y byddai'r saer coed o Nasareth gyda mwy ddylanwad ar y byd mewn 2000 mlynedd na Chesar...
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Cenedlaetholdeb

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 28 Ebr 2008 8:57 am

mabon-gwent a ddywedodd:
Macsen a ddywedodd:
rooney a ddywedodd:Mae gwledydd sydd wedi gwadu Duw wedi bod yn fethiant yn y byd, ac wedi cyflwyno dinistr nas gwelwyd erioed o'r blaen.

Sut mae'r ddamcaniaeth yna'n esbonio llwyddiant China ac India yn ddiweddar?


Hanes Rhufain hefyd (cyn y Pab)?


Sut wyt ti'n mesur llwyddaint? Yn fy nhyb i bu ymerodraethau fel Rhufain, Prydain, y Drydedd Reich ac yn fwy diweddar China yn gyfrifol am rai o erchyllterau duaf y ddynoliaeth er eu bod oll, yn economaidd lwyddiannus ac yn ddyfeisgar flaengar tu hwnt. Maen gwbl amlwg fod "gwledydd" (sydd go-iawn yn ymerodraethau yn hytrach na "gwledydd") imperialaidd yn medi eu had yn y diwedd oherwydd cwympo fu hanes Pwrsia, Asyria, Babilon, Rhufain, Drydedd Reich ac i bob pwrpas Prydain bellach ac mae'r ffys diweddar am Tibet yn dangos y bydd China yn y diwedd yn syrthio. Nid ymerodraethau yw dymuniad Duw i'r ddynoliaeth ond yn hytrach clytwaith o genhedloedd a diwylliannau cyd-ddibynnol (Genesis 11). Er gwaethaf grym anorchfycol Rhufain ar un cyfnod mae cenedl fychan y Cymry wedi goroesi'n hirach na hi yn tydi?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Cenedlaetholdeb

Postiogan Duw » Llun 28 Ebr 2008 9:06 am

rooney a ddywedodd:gad dy gwyno- does dim Cristion yn rhoi gwn yn dy ben i gymryd arian gen ti.


Nac oes, dyna'r pwynt - mae pobl fel defaid yn rhoi eu harian am waredwr bach.

rooney a ddywedodd:mae'r holl bobl ti'n cysidro sydd gyda "salwch meddwl" yn talu trethi i dy addysgu, gwasanaeth iechyd, adeiladu ffyrdd, amddiffyn y wlad, ... yn wir mae dylanwad Cristnogaeth yn ddyfn ym mhob sefydliad o'n cwmpas... gan gynnwys rhyddid llafar a hawliau dynol sylfaenol sydd ddim i'w cael mewn gwledydd anffyddiol, mae'r iwtopias anffyddiol wedi cael eu trio ac i gyd wedi methu gyda miliynau wedi talu'r pris ganrif ddwetha, dysga o hanes

i gloi, plis eglura i ni sut ddylai pobl sydd gyda "salwch meddwl" gael eu trin? ddylai nhw gael eu caniatau i weithio? i gael plant? sut fydde ti'n trin y "salwch meddwl" yma?


Sori Rooney, falle oedd "salwch meddwl" yn rhy gryf, beth am "gwan" / "feeble"?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Cenedlaetholdeb

Postiogan rooney » Llun 28 Ebr 2008 6:55 pm

Duw a ddywedodd:Sori Rooney, falle oedd "salwch meddwl" yn rhy gryf, beth am "gwan" / "feeble"?


:lol:

a ble mae dy atebion i'r holl gwestiynau wnes i ofyn?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Cenedlaetholdeb

Postiogan Duw » Llun 28 Ebr 2008 8:51 pm

rooney a ddywedodd:
Duw a ddywedodd:Os oedd darn o dystiolaeth yn dod i siglo yr hyn roeddwn yn ei gredu, byddwn yn delio gydag e a phenderfynu os oedd angen newid fy safbwynt. Mae'r sefydliad gristnogol ar y llaw arall yn ceisio gwadu, anwybyddu, cyfaddawdu os oes tystiolaeth yn mynd erbyn ei herbyn.


fel beth?

Duw a ddywedodd:Yn anffodus, bydd wastod arweinwyr a defaid yn ein plith.


sut all cymdeithas weithredu heb awdurdod? heb arweinwyr? heb bobl yn ufuddhau i reolau deddf gwlad a chod moesol?


Beth yr HOLL gwestiynau hyn? OK

1. Helioganoliaeth, consubstantiation yn lle transubstantiation, intelligent design, llawer o chwedlau'r hen destament (sori metafforau nawr?), dim purgatory, esblygiad a'r tysiolaeth yn cael ei anwybyddu, oes y Ddaear a'r bydysawd yn cael ei wadu - dim shwd beth a dinosoiaid - gwaith y diafol i dwyllo pobl gwan, blah, blah, blah. Rwyt ti wedi datgan llwyth o'r stwff hwn d'hunan - cer amdani, dwi'n siwr allet ychwanegu at y rhestr - jest dwed rhywbeth hurt am bobl hoyw eto.

2. Mae na ddefaid ac mae na ddefaid. Siwr, byd wastod arweinwyr. Safon y defaid a pha mor gryf a pharod i feddwl dros eu hun yw'r allwedd i gymdeithas aeddfed, fodern yn fy marn i. Gall arweinwyr ddefnyddio crefydd neu c.d. i dwyllo, troi a chadw pobl dan y bawd. Dwi'n siwr dy fod yn edrych ymlaen i'r amser pan fydd awdurdod gennyt i fynd allan a saethu pobl hoyw, "execution-style" oherwydd fod dy lyfr neis yn dweud dyle ti wneud hynny.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Cenedlaetholdeb

Postiogan Macsen » Llun 28 Ebr 2008 8:54 pm

Ai dyma'r ffawd mae'r edefyn yma'n ei haeddu, troll cristnogol v troll gwrth-gristnogol?

Get a room you two.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Cenedlaetholdeb

Postiogan mabon-gwent » Llun 28 Ebr 2008 9:11 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:
mabon-gwent a ddywedodd:
Macsen a ddywedodd:
rooney a ddywedodd:Mae gwledydd sydd wedi gwadu Duw wedi bod yn fethiant yn y byd, ac wedi cyflwyno dinistr nas gwelwyd erioed o'r blaen.

Sut mae'r ddamcaniaeth yna'n esbonio llwyddiant China ac India yn ddiweddar?


Hanes Rhufain hefyd (cyn y Pab)?


Sut wyt ti'n mesur llwyddaint? Yn fy nhyb i bu ymerodraethau fel Rhufain, Prydain, y Drydedd Reich ac yn fwy diweddar China yn gyfrifol am rai o erchyllterau duaf y ddynoliaeth er eu bod oll, yn economaidd lwyddiannus ac yn ddyfeisgar flaengar tu hwnt. Maen gwbl amlwg fod "gwledydd" (sydd go-iawn yn ymerodraethau yn hytrach na "gwledydd") imperialaidd yn medi eu had yn y diwedd oherwydd cwympo fu hanes Pwrsia, Asyria, Babilon, Rhufain, Drydedd Reich ac i bob pwrpas Prydain bellach ac mae'r ffys diweddar am Tibet yn dangos y bydd China yn y diwedd yn syrthio. Nid ymerodraethau yw dymuniad Duw i'r ddynoliaeth ond yn hytrach clytwaith o genhedloedd a diwylliannau cyd-ddibynnol (Genesis 11). Er gwaethaf grym anorchfycol Rhufain ar un cyfnod mae cenedl fychan y Cymry wedi goroesi'n hirach na hi yn tydi?


Dwi'n cytuno, ac fy nghwestiwn gyda'r holl peth yw ydy Duw yn bendithio gwledydd? Dw i'n credu mae Duw'n bendithio bobl mewn gwlad, sy wedyn yn fantais i'r gwlad. Dyw e ddim yn adeiladol gweld unrhyw gwlad fel gwlad cristion, neu wlad sy ddim. Fel ti'n dweud nid ymerodraethau yw dymuniad Duw, ond dyna'r delwedd traddodiadol. Bydd yn ddiddorol hefyd i weld pe fydd Cymru'r Cymry yn goroesi'r ganrif nesa, yn gwybod y prif wahaniaeth rhwng heddiw a Chymru'r gorffenol. :(
Rhithffurf defnyddiwr
mabon-gwent
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 111
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2008 4:00 am

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai