S.W. a ddywedodd:Ond i fod yn onest Ceri yn y cyd-destun yma dydy dy ddiffiniad di o Hiliaeth ddim yn golygu dim, o dan y ddeddf mae'r Albanwyr, fel y Cymry a'r Saeson yn cael eu hamddiffyn gan y 'Race Relations Act' (1979 Diwygiedig 2000 - os dwi am fod yn smart arse!
) sy'n trin y math yma o sylwadau yn yr un modd a poster yn neud sylwadau am bobl croenddu ayyb.
Ffwcio'r ddeddf! Y ffaith ydi, a'r pwynt ydi, nid be ydi hil a be sydd ddim yn hil, ond be ydi hiliaeth a be sy ddim yn hiliaeth.
Roedd hiliaeth yn bodoli cyn i twittering wine-drinkers politicali corect Islington basio deddf i ledu'r diffiniad i gynnwys y ffasiwn nonsans a galw rhywun yn Taff, Jock, ffycin Sais, sheepshagger, haggis-muncher, neu be bynnag.
Hiliaeth yw'r gred fod un hil (ac mi dderbyniwn 'cenedl' yma hefyd) yn israddol i'r llall - y syniad a'i ganlyniadau gweithredol. Mae rhagfarn hiliol sy'n deillio o'r gred sylfaenol hon, yn un o'r canlyniadau hefyd.
Ond mae galw 'racial stereoteiping' a cymryd y ffycin piss yn hiliol (h.y. yn yr un dosbarth a chanlyniadau erchyll y syniad fod un hil yn israddol i'r llall), yn difrio'r miliynnau o bobl croenddu, sipsiwn, Iddewon ac eraill sydd wedi dioddef hiliaeth go iawn.
"Cafodd fy hen daid ei chwipio i farwolaeth pan yn gaethwas. Cafodd fy nhad ei ladd gan y Ku Klux Klan. Cafodd fy mrawd ei guro i farwolaeth gan y cops, poerwyd ar fy mam ar y stryd, carcharwyd fi am oes am gwffio'n nol."
"Alla i gydymdeimlo, mêt. Ges i fy ngalw'n 'sheepshagger' unwaith, a mae AA Gill yn fy ngalw i'n 'pugnacious little troll'... a mae Tony Blair yn galw fi'n 'fucking Welsh'..."Comprende?
O ran yr English Democrats - gad iddyn nhw weiddi dros y lle. Os dio'n mynd i greu rhwygiadau cenedlaethol yn yr undeb Prydeinig, ac achosi twf mewn ymwybyddiaeth Albanaidd a Seisnig, yna ffycin gret. Da chi'n dallt os aiff yr Alban ffordd ei hun, y bydd rhaid i Loegr fynd ei hun. Mae hynny'n golygu fydd Cymru'n gorfod cael senedd â phwerau llawn, o leiaf. Llawenhewch y ffycars