Yr Etholiad Cyffredinol a phwy fydd yn ennill

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Yr Etholiad Cyffredinol a phwy fydd yn ennill

Postiogan Rhods » Sad 03 Mai 2008 10:46 pm

Nol yn mis Hydref, pam odd pawb yn darogan etholiad cyffredinol, cyn i Gordon Brown chickeno allan i alw un, roedd pawb bron yn meddwl mai Llafur fydd yn ennill - i fod yn onest, roeddwn ni yn ofni ni hefyd. Ond ar ol etholiadau yr wythnos diwetha, dwi am y tro cynta yn teimlo bod y mwd yn newid a bod Prydain yn barod i rhoi cyfle unwaith eto ir Ceidwadwyr llywodraethu.

Dwi yn deall y ddadl bod etholiadau lleol yn gwbl wahanol i etholiad cyffredinol, ond dwi yn meddwl gwnaeth Llafur mor wael, gyda pleidlais o 24% (3ydd tu ol ir Rhyddfrydwyr) ar Toris ar 44% ei fod e yn mynd i arwain at fuddugoliaeth i Cameron and co. Rhaid cofio, gwnath John Major yn hyd yn oed yn well na Gordon Brown yn etholiadau llywodraeth lleol yn 95, gyda 25% a da ni gyd yn gwbod y canlyniad yn 97. Dim jyst ni, ma pethe yn mynd i waethygu heb os, dros y 12 mis nesa, gyda stad yr economi etc. Mae'r dyddiau diwetha di bod yn enfawr ir Ceidwadwyr ac roedd Boris Johnson yn ennill yr etholiad yn Llundain yn hwb enfawr iddynt ac yn ergyd seicolegol fawr i Brown and co.

Sgennai ddim crystal ball, ond rydw i yn hyderus iawn yn teimlo bod y Ceidadwyr yn mynd i ennill, heb os.
Os ma Brown yn aros, it s a cert. Os gwnaiff Llafur ei sacio a rhoi rhywun fel Milliband mewn, bydd da nhw gwell siawns, ond ydyn nhw rili yn mynd i neud na? I doubt it.

Mae'n ddyddiau hapus i Ceidwadwyr Cameron, :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Re: Etholiad Cyffredinol Prydain a phwy fydd yn ennill

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sul 04 Mai 2008 8:49 am

Rhods, 'ti'n hollol gywir am hynny. Dywedais i'r un beth tua blwyddyn yn ol, heb wneud dim cysylltiad a chanlyniadau etholaethol.

'Ti'n iawn hefyd fod y canlyniadau lleol ddim yn debyg i ganlyniadau'r Big One. Cofiaf 1981 - Toriaid yn amhoblogaidd dros ben - pawb yn credu fod o'n amhosibl iddyn nhw ennill yr etholiad nesa. Ond ym 1983 cawson nhw eu mwyafrif mwyaf erioed.

Felly, 1983 - Ceidwadwyr ar y brig; 1987 - bron cystal iddyn nhw; 1991 - wedi'w harbed gan Yr Haul ac ati; ....
1997 - Llafur ar y brig; 2001 - bron cystal iddyn nhw; 2005 - wedi'w harbed gan Yr Haul ac ati...
...oes patrwm yma? Nag oes, wrth gwrs, dyma gyd-ddigwyddiad.

Am bethau fel cael gwared a Gòrdan Donn, mae'n rhy hwyr o bell i bethau fel 'na wneud dim gwahaniaeth. Put it this way, hyd yn oed petai farw Daibhidh Camshron a chafodd y Toriaid neb fel Lord Tebbit i'w harwain, basen nhw'n ennill yr etholiad nesaf. Ac mae'r un yn wir am Lafur - dyd person yr arweinydd ddim yn ddigon pwysig i wneud gwahaniaeth sylweddol i'r canlyniad.

O ie, rhwng 1980 a 1996 bu bron i'r Toriaid gael eu wipe-out o lywodraeth leol - ar un adeg nid oedd ond 1 swydd Lloegr yn eu dwylo (Bucks) - collasant hyd yn oed Surrey. Ond daethant ymlaen i ennill pob etholiad cyffredinol hyd eu Cwymp Mawr ym 1997.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Yr Etholiad Cyffredinol a phwy fydd yn ennill

Postiogan Hogyn o Rachub » Sul 04 Mai 2008 9:59 am

Fydd 'na ddim etholiad cyffredinol tan 2010 dwi'n siwr. Amser maith iawn mewn gwleidyddiaeth a dwl fyddai i'r Ceidwadwyr darogan y byddant yn ennill hwnnw ar hyn o bryd. Os gwneith yr economi fynd ar ei fyny, mi all Llafur hawlio buddugoliaeth ar hynny ac edrych yn competent ac ati. Peth ffol, hefyd, byddai darogan buddugoliaeth genedlaethol ar ganlyniadau llywodraeth leol, a gwyddom ni yng Nghymru yn sicr pa mor beryglus y gallai'r blaid Lafur fod pan eu bod nhw'n cael eu gwthio i gornel.

Rhaid dweud ei fod yn debycach mai llywodraeth Dorïaidd y cawn nesaf, ond nodyn o rybudd cyn darogan hynny rwan: peidiwch.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Yr Etholiad Cyffredinol a phwy fydd yn ennill

Postiogan Macsen » Sul 04 Mai 2008 10:21 am

Dwi'n meddwl bydd pethau'n gwella ychydig i Lafur nawr, ond amser a ddengys os taw jest 'dead cat bounce' fydd hynny.

Y gwir yw gall yr holl bryder am yr economi weithio i Brown - dim ei fai o'n gyfan gwbwl yw'r problemau ond mae o wedi ygwyddo'r bai, ac os ydan ni'n osgoi dirwasgiad economaidd bydd o'n cymryd y clod.

Elwa o broblemau Llafur yn hytrach na'u gwychrwydd eu hunain wnaeth y Toriaid ar y noson - dyn nhw'n dal ddim yn siwr beth mae nhw'n sefyll amdano eto. A gyda Boris y tori mwya pwerus ym Mhrydain, dyn sy'n anghytuno gyda'i arweinydd ei hun ar nifr o byncia megis newid hinsawdd, pwy a wyr be all ddigwydd? Smonach, o bosib.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Yr Etholiad Cyffredinol a phwy fydd yn ennill

Postiogan Muralitharan » Sul 04 Mai 2008 11:28 pm

Mae rhai ohonom ni'n dal i gofio'r Toriaid, ac mi roeddan nhw'n ffiaidd!
Ond cyn iddyn nhw fynd ati i glochdar yn ormodol, mae'n rhaid iddyn nhw ddeud wrth bobl Prydain beth yn union yw eu polisiau - os oes ganddyn nhw rai.

A gyda llaw, a oes unrhyw un arall ond y fi yn ffieiddio at y ffaith fod hanner neu ragor o Gabinet Cameron, gan gynnwys Cameron, ei hun wedi bod yn ddisgyblion yn Eton? A rwan mae Maer newydd Llundain, Boris Johnson, yn gyn-ddisgybl o'r ysgol honno hefyd? Plaid y bobl my arse ...
Muralitharan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 174
Ymunwyd: Gwe 21 Rhag 2007 1:55 pm

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai