gan Dafydd Iwanynyglaw » Maw 06 Mai 2008 1:27 pm
Mae hi'n warthus cymeryd enw enaid goruwchnaturiol a addolir gan filoedd fel sgrin-enw - rhag dy gywilydd di, "Rooney".
Bwm-bwm. Tsh.
Eniwe.
Oes ma na debygolrwydd rhwng crefydd a chenedlaetholdeb - maent ill dau yn ceisio ateb y cwestiynnau "sut fath o fyd ydi hi?" ac felly "sut y dylwn ni fyw?". Maent a'u dogmas a'u shibbolethau eu hunain. Mae ganddyn nhw'r gallu i gyflyru pobol i weithredoedd o ddewrder ac hunan-offrwm anhygoel. A gallant hefyd yrru pobol yn wirion gyda nifer o resymau dros gasau ac ymosod ar Bobol Sydd Ddim Fel Ni(TM) am ddim rheswm rhesymol.
Ie, ie. Na fe.