Macsen a ddywedodd:Ond sa fo bach yn siomedig ffeindio dy fod ti'n 100% Cymro abod dy deulu 'di bod yn eistedd ar eu tinnau yn yr un lle am 5,000 o flynyddodd.
Wel... mae fy "nheulu" i wedi bod yn 'eistedd ar eu tinau' yn yr un
llefydd ers tipyn go lew mwy na 5,000 o flynyddoedd...
Mae'r Y-chromozome, yn y dyn, yn cael ei basio i lawr y llinell gwrwyaidd heb newid o genhedlaeth i genhedlaeth. Nid yw hwn yn bodoli yn y fenyw.
Mae'n amhosib ffendio allan os ti'n 100% Cymro, wrth reswm, gan fod y test hwn yn methu darganfod dy linach benywaidd (llinell dy fam), heb son am bob llinell gwrwyaidd posib. Mae modd, fodd bynnag, darganfod 'markers' tras/hil arall ar y cromosom, ond mae'n rhaid i hwnnw ddigwydd ar linell gwrywaidd di-dor, neu fenywaidd di-dor.
e.e. - i ddarganfod markers sipsiwn teulu fy nhad, byddai rhaid cael DNA o linach benywaidd di-dor o'i hen nain (gan mai hi oedd y sipsi). H.y. - DNA o gyfyrther i mi sydd yn ferch i gnither fy nhad sydd yn ferch i'w fodryb sydd yn ferch i'w nain sydd yn ferch i'w hen nain.
e.e. - i ddarganfod markers sipsiwn fy mam, byddai rhaid cael DNA o linach gwrywaidd di-dor o'i thaid. h.y. - DNA o fab i - neu fab i fab i - ewythr fy mam (brawd fy nain).
Dw i ddim am ddatgelu gormod ar y funud, ond byddaf yn hapus i rannu'r manylion efo chdi ar ôl y rhaglen. Ond mi ddatgelai amball snippet.
Trwy'r Y-Chromozome gellir darganfod i ba haplogrwp mae rhywun yn perthyn, pa genhedloedd sydd â'r mwyaf o'r haplogrwp hwnnw, pa wledydd ac ardaloedd mae o'n fwyaf concentrated, pryd y mutatiodd y genenyn hiwman i'r haplogrwp yma, a be oedd yn unigryw am y grwp, a'i hanes. Mae nhw hefyd yn gallu deud pa gyfenwau sydd yn matshio fy DNA, a gallaf ddatgelu fod y canlynol ymysg rheinni - Jones, Roberts, Logan, Goddard a Gimenez.
Ond - be sy'n fwy difyr o beth uffarn efo'r Y-Chromozome, ydi'r ffaith eu bod yn gallu darganfod fy YSTR Profile, sef fy mhroffeil llinell wrywaidd personol i. Efo hwnnw, wedyn, mae nhw'n gallu ei fatshio efo proffilau YSTR sydd eisoes ar y bas data DNA rhyngwladol. Mae rhai o'r ffigurau hanesyddol amlwg sydd ar y bas data yn mynd yn ôl ymhell tros fil o flynyddoedd. Sut? Wel, mae teuluoedd amlwg wedi cyfrannu eu DNA i'r bas data rhyngwladol - teuluoedd sydd wedi cadw eu hachau yn ofalus dros ganrifoedd maith. Hen fonedd Cymreig (fel, dyweder, teulu Portmeirion), aristos Lloegr, a clans yr Alban.
Gallaf ddatgelu fod fy YSTR proffeil yn digwydd mewn chwe gwlad, yn cynnwys yr Almaen, yr UDA a Sbaen. Mae cymaint, cymaint yn fwy yr hoffwn ei ddatgelu, ond dydw i ddim isio sbwylio rhediad y rhaglen i neb, achos mae o'n uffernol o ddifyr. Gallaf ddatgelu, fodd bynnag, fod y canfyddiad yn eitha syfrdannol, a'i fod yn matsh perffaith i berson hanesyddol (h.y. dwi'n disgynnydd uniongyrchol iddo).
Dwi wedi cuddio llawer o ffeithiau eraill uchod, ac wedi cynnwys rhai a all - er yn wir - dy arwain ar ôl sgwarnogod. Felly waeth i ti heb a thrio dadansoddi'n gywir, achos wneid di byth!
Mae'n rhaglen gwerth ei gwylio am hynny, heb son am y lleoliadau a'r sgyrsiau, y sowndtrac difyr, ac wrth gwrs, teithiau personol difyr Catrin a minnau. Edrych mlaen i chi gyd weld.