Defnyddio baneri i ddynodi iaith

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Defnyddio baneri i ddynodi iaith

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 14 Mai 2008 6:48 pm

Jac Glan-y-gors a ddywedodd:Rhoi sylw i flog dwyieithog oedd y nod - nid i'r dull o newid iaith, a doedd e bendant ddim i fod i arwain at edefyn newydd.


Wnes i rannu'r edefyn gan fod y drafodaeth yn mynd ar draws yr edefyn arall. Mae'n amlwg fod rhai pobl yn teimlo'n gryf am y peth, ond fi'n cytuno, mae pethe pwysicach i boeni ambiti! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Defnyddio baneri i ddynodi iaith

Postiogan Hen Rech Flin » Iau 15 Mai 2008 12:11 am

Hedd Gwynfor a ddywedodd: mae pethe pwysicach i boeni ambiti! :winc:


Hwyrach bod pethe pwysicach i boeni amdanynt, ond i aralleirio Dewi Sant mae pethe bach yn bwysig.

Mae defnyddio faner y ddraig i nodi'r iaith Gymraeg yn awgrymu mae Cymry Cymraeg yw'r unig wir Gymry. Agwedd mae'r Blaid a mudiadau Cymreig eraill wedi bod yn brwydro yn ei erbyn am ddegawdau.

Os yw banner San Siôr neu faner yr Undeb yn cael eu defnyddio i ddynodi iaith y Cymro Di-Gymraeg, cenedlgar, twymgalon - mae megis dweud wrtho mae Sais neu Brydeiniwr, nid Cymro, ydyw.

Doedd wefannau ddim yn bod cyn imi ddysgu'r Gymraeg, ond pe baent mi fyddwn wedi teimlo'n flin iawn o orfod hepgor baner fy ngwlad a dewis bod yn Sais neu yn Frit cyn cael mynediad at fy mamaeth. Yn ddigon blin i ddweud stwffia dy wefan a dy blydi iaith - hwyrach!
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Defnyddio baneri i ddynodi iaith

Postiogan Jac Glan-y-gors » Iau 15 Mai 2008 7:08 am

Oes angen newid enw'r iaith o English i rywbeth arall, rhag ofn bod yr enw yn honni bod cysylltiad rhwng English ac England, ac yn achosi gormod o boen meddwl ac ing i bobl :rolio:

Nawr rwy'n cofio pam dwi ddim yn ymweld a'r maes yn rhy aml.

Beth bynnag - mae'r baneri wedi mynd o'r safle gwreiddiol - efalle don nhw nol eto os fydd pobl yn ei chael yn anodd i weld sut mae newid iaith. Gobeithio y bydd Dewi Sant ac eraill yn gallu symud mlaen i drafod rhywbeth arall.
Rhithffurf defnyddiwr
Jac Glan-y-gors
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 241
Ymunwyd: Sul 20 Gor 2003 3:05 pm
Lleoliad: Dyffryn Aeron

Re: Defnyddio baneri i ddynodi iaith

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 15 Mai 2008 7:15 am

HuwJones a ddywedodd:Mae 100% o bobl Cymru yn siaradwyr y Saesneg. Heb son am holl bobl America, Iwerddon, Yr Alban a miliynau eraill yn y byd sydd ddim yn byw yn neu'n berthyn i Loegr mewn unrhyw ffordd.


Gwir pob gair OND iaith y Sais ydy Saesneg. Dydy'r gallu neu'r methiant i siarad Cymraeg ddim yn dy beidio neud yn Gymro OND mae'r iaith Gymraeg yn hanfodol i'n arwahanrwydd ni. Imperialaeth sydd wedi gorfodi'r Saesneg fel iaith norm yng Nghymru (a thu hwnt) ac drwy roi mewn a derbyn mae iaith norm ac nid iaith gorthrwm yw Saesneg yng Nghymru dy chi'n rhoi buddugoliaeth i impeialaeth.

Iaith y Sais fydd ac yw y Saesneg, digwydd ei siarad y mae'r Cymry nid yw'n iaith sy'n perthyn i ni.

Soniodd cyfaill yn ddiweddar wrtha i am ddadl gyhoeddus rhwng Nial Griffiths (awdur 'anglo-Welsh') a Robin Llywelyn (awdur 'Welsh'). Gofynodd y cadeirydd i Nial a oedd yn hapus gyda'r label anglo-Welsh ac fe ddywedodd Nial: "No I'm not happy, my literature is not anglo-Welsh, there isn't anything anglo about it it's just Welsh-Literature." Gwylltiodd Robin Llywelyn a dweud "How can you say your literatur is Welsh? It's not even in Welsh it in English!" Er mod i'n deall pwynt Nial rhaid mi gyfaddef mod i'n cydymdeimlo a safbwynt Robin.

Huw a Hedd - ydych chi'n gwrthwynebu'r term anglo-Welsh am yr un rheswm a gwrthwynebu defnyddio banner San Sior i gynrhcyhioli 'Saeseng'?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Defnyddio baneri i ddynodi iaith

Postiogan huwwaters » Iau 15 Mai 2008 10:00 am

Pam does neb wedi ystyried ochor arall y ddadl a hynny yw, oes un o blith siaradwyr Cymraeg rhyngwladol yn eu hystyried eu hunain fel Americaniaid, Arrianniaid, Awstraliaid etc. ? Heb fynd a'r ddadl ma rhy wleidyddol, ond mae'r rhai sy'n mynnu cadw'r Gymraeg efo Cymru reit backward i mi. Os ydyw yn iaith y nefoedd, pam ddim gadel iddo ehangu a'i rannu i bobol erill.

Yn ôl at y pwnc, dwi'n cytuno'n llwyr efo Hen Rech Flin. Yr oedd un achlysur i fi fynd dipyn yn ddig pan yn clicio ar Faner yr Undeb am Saesneg. Yn amlwg i rhai bobol dim ond Saesneg sy'n cael ei siarad yn y wlad...
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Defnyddio baneri i ddynodi iaith

Postiogan Duw » Iau 15 Mai 2008 11:11 am

Bois bach, 'na gwylltio! I'm cywilydd dwi wedi gosod baneri ar fy ngwefan (i'w cymryd yn fuan cyn profocio rhyw Gymro di-Gymraeg). Mae'n rhaid datgan fy mod yn hoff iawn o symbolau er mwyn torri lawr ar yr holl geiriau sydd yn rhaid eu darllen. Dylai gwefannau fod yn ysgafn ar eiriau ac yn drwm ar ddelweddau (YFMI). Mae'n rhaid gofyn, beth oedd pwrpas y baneri? I mi mae baneri yn tynnu'r sylw felly rydych yn gwybod beth i'w wneud yn syth. Gall geiriau (iaith) cael eu colli yn aml mewn cyfeirbar. Efallai bod modd dyfeisio eiconau arbennig i ieithoedd? Na, 'falle ddim. O wel, nol i'r testun diflas 'te.

A ger llaw, "teimlo'n pist oherwydd roedd angen pwyso fflag yr undeb i gael Saesneg"? Pam? Oes ots? I mi, os oes rhestr hirfaeth o ieithoedd, gallaf bigo allan fflag yr undeb mewn cachad i gymharu ag enw. Dwi'n deall bod eraill yn gweld yn wahanol neu'n fwy sensitif.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Defnyddio baneri i ddynodi iaith

Postiogan huwwaters » Iau 15 Mai 2008 12:07 pm

Be am ceisio dyfeisio eicon ar gyfer 'iaith' yn gyffredinol, fel sydd wedi cael ei wneud ar gyfer ffrydiau?
Atodiadau
141.jpg
141.jpg (8.85 KiB) Dangoswyd 4445 o weithiau
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Defnyddio baneri i ddynodi iaith

Postiogan Duw » Iau 15 Mai 2008 12:34 pm

Syniad gwych huw! Er, er mwyn i hyn weithio, dwi'n meddwl bydde eisie W3C neu rhyw corff dylanwadol arall ei gyflwyno. Af ati'n syth i geisio'i dylunio - efallai bydd mor enwog a symbol rss - chingching!
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Defnyddio baneri i ddynodi iaith

Postiogan nicdafis » Iau 15 Mai 2008 1:44 pm

Wel, mae hyn yn mynd yn dda, ond yw e? ;-)

Drueni bod pobl yn estyn am y CAPSLOCK mor glou ar maes-e, ond ble arall fyddet ti wedi clywed bod pobl â barn cryf am hyn?

Ynglŷn â dyfeisio symbol newydd, fel mae erthygl yma yn gweud, does dim angen un:

There is a perfect symbol for any language which you can use on the Web: the name of the language in the language itself, e.g. English (or British English or US English, if needed), svenska, suomi, Deutsch, français. (Be careful with the grammatically correct use of upper and lower case here!) If a reader doesn't know the name of language X in X, he probably does not know X enough for the link to be of use to him [sic!].


Mae'n mynd ymlaen i ddweud bod y talfyriadau rhyngwladol ([cy] ac [en] yn yr achos 'ma) yn iawn mewn rhai cydestunau, ond ti ddim yn gallu cymryd yn ganiataol bod pawb yn gyfarwydd â nhw.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Defnyddio baneri i ddynodi iaith

Postiogan nicdafis » Iau 15 Mai 2008 2:03 pm

Cyd-ddigwyddiad bach - dw i newydd ymweld â safle WordPress, ac mae neges ar y dudalen flaen:

WordPress a ddywedodd:WordPress is also available in Cymraeg.


Ac hynny cyn i mi fewngofnodi na dim byd. Mae'r safle yn gwybod mod i'n defnyddio Cymraeg, gan fod fy morwr yn dweud wrthi. 'Sai mwy o bobl yn dysgu yn gosod eu porwyr yn iawn, fyddai dim angen defnyddio symbolau iaith o unrhyw fath, a byddai'r holl we yn ein hiaith o ddewis.

Breuddwyd wrach, wrth gwrs, ond dw i wedi bod yn darllen lot o sci-fi yn diweddar ;-)

[gol.] Sgwennais i am hwn ar Morfablog yn 2004, felly dim ond ar dy hunan yw'r bai am beidio sylweddoli bod pobl mor drist i gael ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

NôlNesaf

Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron