Duw ar ei wyliau?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Duw ar ei wyliau?

Postiogan Macsen » Llun 19 Mai 2008 9:15 pm

Sgen i'm problem gyda'r cwestiwn, jesd y ffordd trahaus y mae o'n cael ei ofyn. Mae Duw yn mynd yn ebycach i Rooney anffyddiog bod diwrnod - a deud y gwir swn i'm yn synnu os taw'r un person ydi o, o ystyried sut mae RET/Realydd/Dave Thomas/Rooney yn hoffi newid persenoliaeth o hyd.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Duw ar ei wyliau?

Postiogan Duw » Llun 19 Mai 2008 9:48 pm

Macsen, gad i mi ymddiheurio. Er fy mod yn bwriadu profocio ymateb, nid oeddwn yn disgwyl ypsetio nac achosi drwgdeimlad. Fel rwyt yn deall, mae gennyf basiwn mawr o ran fy anffydd ac ambell waith gall fy anffydd (efengylaidd!) gael y gore ohonof. I ateb dy gwestiwn, na dwi'n falch i ddweud, nid rooney ydwyf. Gallen i byth a sbowtio ei flas arbennig o atgasedd. Ydw, dwi'n hoffi profocio - point taken, na'i wylio'r ffordd fy mod yn gofyn cwestiynau yn y dyfodol.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Duw ar ei wyliau?

Postiogan Mali » Maw 20 Mai 2008 3:22 am

Duw a ddywedodd:Yn dilyn trychinebau'r Dwyrain Pell, sut all berson dal i gredu mewn "duw"? Os ydych yn dilyn y duw cristnogol, fel bo'r rhan fwyaf postwyr crefyddol y seiat hon, na ddyweddodd Duw na fydde byth yn boddi'r planed eto?

Os nid ewyllys Duw oedd y rhain, ewyllys pwy? Os nid bwriad Duw oedd hwn, a oedd ganddo'r gallu i'w rhwystro? Beth yw'r pwynt o weddio ac addoli os nid yw'n gwneud unrhyw wahaniaeth? Os rhaid aros i ni farw cyn fanteisio ar yr holl amser coll hynny?

Stim rhyfedd gen i bod y seiat hon wedi bod yn segur mor hir. God has left the building.

Naill ai Ef wnaeth ei achosi neu nid oes ots ganddo am Ei bobl. Beth bynnag, nid Duw dwi ishe dilyn.

O ie, chestnut - "pwy ydyn ni i gwestiynnu Ef?"


Hmmm.....dybed pam dy fod ti 'di dewis galw dy hun yn Duw?
Ti'n swnio'n confused iawn i mi . :?
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Duw ar ei wyliau?

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Maw 20 Mai 2008 10:05 am

Mae'n gwestiwn ddigon teg, a dwi'n meddwl fod y rhai sy'n dwrdio duw am arddull ei ofyn braidd in disinjeniwas, oherwydd mae o'n un o'r cwestiynnau sylfaenol yna am bob honiad crefyddol.

Wrth gwrs, diom yn gwestiwn newydd - fe osododd dramodydd Iddewig cynnar y cwestiwn ar enau cymerid o'r enw Job tua 2,500 mlynedd yn ol, pan ddinistrwyd ei genedl a'i ddinas a'i grefydd - i'r rhai sydd ddim isio darllen Job 1-38, gellir eu crynhoi ei "Be di dy ffwcin gem, O Hollalluog Honedig?" Mae na ateb o fath yn Job 39-42, ond mae hwnnw'n codi cwestiynnau pellach (meddyliwch am Miranda Richrdson yn Blackadder II yn ateb "Who's Queen?" i rywun sy'n ei beirniadu, ac i ryw raddau dyna ydi'r ateb yma hefyd).

Mae'r cwestiwn yn troi o gwmpas honiad a wneir am Dduw - ei fod o'n hollalluog a holl gariadus felly pam mae pethau drwg yn digwydd i'w bobl? Mae na stori yn y testament newydd (yn efengyl Matthew, dwi'n meddwl) lle mae Iesu'n son am ddigwyddiad lle lladdwyd deunaw o bobol pan ddisgynnodd twr am eu pen - "uniongred" y bobol o'i gwmpas yw mai barn Duw oedd hyn; safbwynt Iesu ydi mai damwain oedd o - shit happens, mwy neu lai. Eto, yn efengyl Ioan, mae disgybl yn gofyn os mai pechod rhieni a achosodd dallineb person - ymateb Iesu yw fod dallineb y person ddiawl o ddim i wneud efo'i bechod ef na'i rieni. Mae hyn yn awgrymu fod na bethau'n digwydd heb fawr o "reswm" diwynyddol.

Pan ddatblygodd diwynyddiaeth - yn enwedig y diwynyddiaeth Awstinaidd a Chalfinaidd a ddaeth i arglwyddiaethu ar lawer o gapeli Cymru - roedd y prif ffocws ar Hollalluogrwydd Duw: does na'm byd yn digwydd heb i Dduw ei achosi, sydd ar un lefel yn hollol lojical, gan mai dyna ydi un o'r pyrcs o fod yn hollalluog. Y broblem ydi ei fod o'n arwain at syniadau hollol hurt e.e. fod Duw wedi penderfynnu cyn dechrau amser pwy yn union oedd yn mynd i'r nefoedd a pwy oedd yn mynd i uffern, sydd nid yn unig yn ffiaidd fel syniad, ond yn gwrthddweud llawer o'r syniadau yn yr ysgrythurau am y ffordd y mae Duw yn creu pobol yn rhydd ac, o'i gariad, yn fodlon achub pechaduriaid nad ydynt yn hyd yn oed yn gwybod ei fod yn eu caru. Canlyniad arall i'r fath yma o feddwl ydi fod Duw yn micro-manejo pob agwedd o'r byd - o'r daeargryn mwyaf i'r lle parcio rhydd yn dre. O strwythur fel hyn, gellir gweld yn union pam fod rhai yn gofyn "Wel, lle ddiawl oedd Duw yn Auschwitz neu Aceh neu Myanmar?"

Wnai ddim ceisio cynning ateb i'r cwestiwn mwya - am nad oes gen i un, ac i ddeud y gwir, neithiwr pan oedd y blinder yn gwasgu a'r gweddiau'n wag, ro'n i'n teimlo'r un fath - ond mi gynnigiaf ychydig syniadau a ellir, o leiaf, newid agweddau o'r cwestiwn:

- mae Duw yn hollalluog, ydi - ond mae o hefyd yn gariadus. Trwy greu allan o'i gariad, mae Duw yn gadael fynd ar reolaeth llwyr. Mae o'n gosod cwrs y byd yn nwylo meidrolion a phrosesau'r cread ei hun. Elfen angenrheidiol o osod rhywun yn rhydd yw'r posibilrwydd iddynt beidio ymddwyn yn union fel da'ch chi isio nhw.

- Mae agwedd Duw at ei gread yn un o addfwynder - cysidrwch Philipiad 2:5-11 fel disgrifiad o sut mae Duw, ar ffyrf y dyn Iesu, yn ymddwyn er ei fod yn Dduw. Os mai dyma sylfaen y bydysawd, yna mae llawer o'n syniadau ni am rym wyneb-i-waered

- Fel ddudish i, shit happens. Mae unrhywun sydd di darllen hanes yn gwbod sut mae pethau hollol anrheoladwy yn gallu newid bywyd yn gyfan gwbwl - ffliwc mewn brwydr ger ffos, bod yn y lle iawn i ddefnyddio grym, brenin yn marw ar jyst yr amser gwaethau. O gyfuno hyn efo'r rhyddid a roddir i'r cread, beth yn union yda ni'n ddeud trwy honni fod Duw yn "hollalluog"?

Fel da chi'n gweld, dim atebion - dim ond mwy o gwestiynnau.
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

Re: Duw ar ei wyliau?

Postiogan ceribethlem » Maw 20 Mai 2008 10:18 am

Dafydd Iwanynyglaw a ddywedodd:Mae'n gwestiwn ddigon teg, a dwi'n meddwl fod y rhai sy'n dwrdio duw am arddull ei ofyn braidd in disinjeniwas, oherwydd mae o'n un o'r cwestiynnau sylfaenol yna am bob honiad crefyddol.

Fi'n credu mai'r pwynt yw fod pawb yn slagio rooney off am ei ffordd "efengylaidd" o drafod/trolio. Nawr (yn yr edefyn yma) mae Duw wedi gwneud yn union yr un peth o'r ochr arall. Dyw hi ddim yn agoriad da i gael trafodaeth gall ac adeiladol mas ohono fe.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Duw ar ei wyliau?

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Maw 20 Mai 2008 10:49 am

Dwi di ffeindio mae'r ffordd gorau o gau Rooney i fyny ydi ei ateb yn uniongyrchol hirwyntog ar y pwnc o dan sylw - os ydi o ddifri isio deall a dysgu, fe fyddai'n ymateb. Ond dydio byth yn ymateb.
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

Re: Duw ar ei wyliau?

Postiogan Duw » Maw 20 Mai 2008 11:24 am

ceribethlem a ddywedodd:Fi'n credu mai'r pwynt yw fod pawb yn slagio rooney off am ei ffordd "efengylaidd" o drafod/trolio. Nawr (yn yr edefyn yma) mae Duw wedi gwneud yn union yr un peth o'r ochr arall. Dyw hi ddim yn agoriad da i gael trafodaeth gall ac adeiladol mas ohono fe.


Gyda pharch Ceri, dwi wedi gosod fy ngwestiwn (ac wedi ymddiherio am y ffordd y cafodd ei ofyn) er mwyn darganfod barn postwyr ar y cysyniad sylfaenol hwn. Postwyr a fydd yn penderfynu os yw'r drafodaeth yn adeiladol ac yn werth gosod ei sylwadau. Rwyt ti yn amlwg wedi teimlo bod yn rhaid rhoi sylw.

A pheth arall! Mae'r seiat 'ma yn sgrechen mas i gael pobl yn dadle'u safbwyntie. Os oeddwn yn gadael e lan i bobl crefyddol i rannu eu syniadau a chlapio'i gilydd ar eu cefne, lle diflas y diawl bydde fe. Mae'n rhaid bod lle i fod yn brofoclyd. Nid yw'r ffaith fy mod yn eithafol yn peth gwael. Edrycha ar y edefs prysuraf yn ddiweddar a geid di weld rooney ac anti-rooney'n cyfrannu a hyd yn oed eu dechrau.

Diolch Dafydd am dy syniadau a dehongliadau predestination. Diddorol iawn. O ran "shit happens", nid yw'n wir i ddweud "good happens" hefyd. A ydy gweddio i seintiau/Iseu/Duw ar gyfer intercetions (e.e. gwella plentyn tost) mewn ofer felly? A ydy Duw'n ymyrrid?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Duw ar ei wyliau?

Postiogan ceribethlem » Maw 20 Mai 2008 1:53 pm

Duw a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Fi'n credu mai'r pwynt yw fod pawb yn slagio rooney off am ei ffordd "efengylaidd" o drafod/trolio. Nawr (yn yr edefyn yma) mae Duw wedi gwneud yn union yr un peth o'r ochr arall. Dyw hi ddim yn agoriad da i gael trafodaeth gall ac adeiladol mas ohono fe.


Gyda pharch Ceri, dwi wedi gosod fy ngwestiwn (ac wedi ymddiherio am y ffordd y cafodd ei ofyn) er mwyn darganfod barn postwyr ar y cysyniad sylfaenol hwn. Postwyr a fydd yn penderfynu os yw'r drafodaeth yn adeiladol ac yn werth gosod ei sylwadau. Rwyt ti yn amlwg wedi teimlo bod yn rhaid rhoi sylw.
Nid dy ddwrdio di oedd pwynt fy nghyfraniad. Ceisio egluro ymateb eraill oeddwn i.

Duw a ddywedodd:A pheth arall! Mae'r seiat 'ma yn sgrechen mas i gael pobl yn dadle'u safbwyntie. Os oeddwn yn gadael e lan i bobl crefyddol i rannu eu syniadau a chlapio'i gilydd ar eu cefne, lle diflas y diawl bydde fe. Mae'n rhaid bod lle i fod yn brofoclyd. Nid yw'r ffaith fy mod yn eithafol yn peth gwael. Edrycha ar y edefs prysuraf yn ddiweddar a geid di weld rooney ac anti-rooney'n cyfrannu a hyd yn oed eu dechrau.
Dyw cymharu dy ddull trafod gyda rooney ddim yn gam da i'w gymryd ydyw e' nawr? :winc:

Duw a ddywedodd:Diolch Dafydd am dy syniadau a dehongliadau predestination. Diddorol iawn. O ran "shit happens", nid yw'n wir i ddweud "good happens" hefyd. A ydy gweddio i seintiau/Iseu/Duw ar gyfer intercetions (e.e. gwella plentyn tost) mewn ofer felly? A ydy Duw'n ymyrrid?

Mae hwn yn atgoffa fi o hysbyseb Mint, lle mae peth da yn digwydd ar un ochr o'r byd yn cael ei gydbwyso mas gyda rhywbeth gwael yn digwydd ar ochr arall y byd. Ydy hyn yn golygu fod pobl sydd yn gweddio mwy (neu yng ngeiriau Jim Morrison - "Let us petition the Lord with Prayer") yn cael ffafriaeth dros y rhai sydd yn yn gweddio llai neu ddim o gwbl?

Fi newydd feddwl, os yw Duw yn omnipotent, yna mae'n bopeth, yn dda ac yn ddrwg felly. Mae hyn yn golygu ei fod yn ddau ochr i'r un geiniog, ac fod Duw a'r diafol yn ddau ochr o'r un person. Hefyd os yw predestination yn gywir, ac nad oes gwir farn na dewis gyda ni, oherwydd fod Duw yn omnicogniscent ac yn gwybod beth sydd yn mynd i ddigwydd, ac mae'n gwybod ein bod ni'n mynd i wneud y peth yna sy'n golygu nad yw'n fater o ddewis i ni bellach.
Mae hyn yn ei dro yn arwain at paradocs, ydy Duw yn gallu fod yn omnipotent ac yn omnicogiscent yr un pryd? Achos os yw'n gwybod popeth ac yn gallu gwneud popeth yr un pryd, pam ei fod wedi gwneud camgymeriadau?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Duw ar ei wyliau?

Postiogan ceribethlem » Maw 20 Mai 2008 2:03 pm

Dyma wefan sy'n son am beth wedes i uchod.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Duw ar ei wyliau?

Postiogan Duw » Maw 20 Mai 2008 2:35 pm

Ceri, mae'n flin gen i boi - mae'n rhaid dweud synnais ar y sylwadau. Dwi wedi gwneud lot o ymddiheurio'n ddiweddar. Pah! Af i gapel nesaf!
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron