Er gwybodaeth dyma lythyr Dafydd Iwan ar y mater yn y Cymro - mae maes-e yn cael mensh......
27/05/08
Llythyr Dafydd Iwan yn Y Cymro
Annwyl Olygydd,
Caniatewch imi wneud ychydig sylwadau yn dilyn canlyniadau’r etholiadau lleol, canlyniadau oedd yn arbennig o galonogol i Blaid Cymru, yn enwedig y torri trwodd mewn ardaloedd a arferai fod yn dalcen caled iawn, megis Wrecsam, Caerdydd a Thorfaen, ac ardal Bangor yma yng Ngwynedd. Roedd y canlyniad gwych yn Llanelli, ac yn wir yng ngweddill Sir Gâr, yn dangos yn glir fod y llanw lleol wedi troi o’n plaid.
Ond beth am yr hyn a ddigwyddodd i rai ohonom yma yng Ngwynedd? Mae Plaid Cymru yn dal mewn grym yn y Cyngor, ond y mae 12 sedd Llais Gwynedd yn neges na fedrwn ei hanwybyddu. Ond y broblem yw, beth yw’r neges? Ai peidio cau unrhyw ysgol byth?
Ond o’r 12 sedd, dim ond 2 sy’n cynrychioli ardaloedd lle’r oedd awgrym i gau (sef Ysgol y Clogau a Rhydyclafdy, a bellach does fawr neb yn gwrthwynebu cau Rhydyclafdy). Mae sedd Llangelynnin hefyd yn cynrychioli ardal lle’r oedd awgrym i gau er mwyn sefydlu Ysgol Fro, a Nefyn lle roedd awgrym i greu ysgol newydd yn lle’r un bresennol. Ai neges Llais Gwynedd felly yw cadw Rhydyclafdy ar agor, dim ysgol Fro i Orllewin Meirion, a dim ysgol newydd sbon i Nefyn? Fel y dywedais, mae’n anodd dirnad.
Mae rhywun yn deall wrth gwrs yr ofnau pan mae bygythiad i gau ysgol. Ond mae’r hyn a ddigwyddodd gyda Llais Gwynedd yn llawer mwy cymhleth na hyn. Yr hyn a gafwyd oedd nifer fawr o wahanol elfennau yn cyfuno i daro pwy bynnag oedd mewn grym, gan roi cyfle i bawb oedd yn gwrthwynebu Plaid Cymru a’r polisi iaith i neidio ar y wagen.
Agwedd dristaf yr holl ymgyrch, fodd bynnag, oedd y diffyg dadlau agored ar bolisi, a’r diffyg cynlluniau amgen, a’r defnydd diarbed o gelwyddau. Yn hytrach na gadael y cyhuddiad hwnnw yn benagored, mi roddaf enghreifftiau penodol:
1. Dywedwyd droeon a thro yn ystod yr ymgyrch fy mod i yn gyfranddaliwr mewn cwmni adeiladu lleol, a fy mod i yn gofalu mai nhw oedd yn ennill contractau’r Cyngor, ac imi gael fflat yn Noc Fictoria fel gwobr!! CELWYDDAU NOETH AC ENLLIBUS
2. Ar wefan Maes E, ar Ebrill 16, (8:35 a.m.) mewn cyfraniad anhygoel gan sylfaenydd “Llais Gwynedd” Aeron Jones (sydd bellach yn gynghorydd dros Lanwnda), dywedwyd ymhlith pethau eraill (a glynaf at yr orgraff wreiddiol):
“Os wyt yn poeni am seisneigio Cyngor Gwynedd, gofyn i Dafydd iwan Paham wnaeth o yrru cyfieithydd adref o gyfarfod flwyddyn diwethaf gan ddatgan y bydd am “….siarad saesneg mewn cyfarfod er mwyn i pawb ddeallt” CELWYDD NOETH
“Gofyn iddo hefyd am bolisi iaith Ysgol Bontnewydd. Roedd yn mynnu fod rhaid i’r plant siarad saesneg yn achlysurol ar faes chwarae yr Ysgol….”
CELWYDD NOETH
3. Ond tristach na’r cyfan yw’r modd y cam-ddehonglwyd y cynllun ad-drefnu ysgolion - cynllun nad oes unrhyw benderfyniad wedi ei gymryd arno ond y penderfyniad traws-bleidiol i ymgynghori ymhellach – i ddychryn pobl. Ar y sail simsan fod yr hen ddull o ffederaleiddio (dull a wrthodwyd gan Blaid Cymru) yn golygu “cau” ysgol ar brynhawn Gwener i’w “hail-agor” ar y bore Llun canlynol fel rhan o ysgol ffederal, bu ymgeiswyr Llais Gwynedd yn mynd o ddrws i ddrws yn honni bod Plaid Cymru am gau ysgolion fel Tremadog, Beddgelert a Brynaearu. CELWYDDAU NOETH ! Yn y Blaenau a Phen-y-groes, aed ymhellach a honni fod bwriad i gau’r ysgolion uwchradd lleol hefyd! CELWYDDAU NOETH!
Y gamp i’r gweddill ohonom yw codi uwchlaw y math yma o wleidyddiaeth y gwter, a dal ati i weithio’n gadarnhaol dros ein cymunedau a’n cenedl.
Yr eiddoch yn gywir,
Dafydd Iwan
OK ella fod Aeron a spin LlG yn haeddu cael cnoc ond wedi darllen y llythyr eto, mae'n amlwg nad ydi o'n dal ddim yn deall teimladau'r rhieni yn Nwyfor a Meirionydd. Mae 'na rhyw deimlad uchel ael o hyd o 'mi ydan ni'n iawn a dydi'r bobol 'ma ddim yn dallt - da chi ddim wedi meddwl cyn pleidleisio yn erbyn Y Blaid, 'da chi wedi cael eich conio'.
Mae pwynt 3 uchod yn 'classic'!
"fod yr hen ddull o ffederaleiddio (dull a wrthodwyd gan Blaid Cymru)" - Be? Gwrthod. Pryd? 'Tasa nhw wedi ei wrthod fyddant ddim yn y fath dwll.
"cynllun nad oes unrhyw benderfyniad wedi ei gymryd arno" - Dim dyna'r argraff gan y swyddogion. Beth bynnag heblaw am yr holl brotestio byddai'r cynllwyn yn 'done and dusted' fel y brwriadwyd yn wreiddiol ymhell cyn yr etholiad.
"“Cau” ysgol ar brynhawn Gwener i’w “hail-agor” ar y bore Llun canlynol fel rhan o ysgol ffederal.....am gau ysgolion fel Tremadog, Beddgelert a Brynaearu." - Celwydd noeth? - Nage, ffaith, hollol wir.
"a dal ati i weithio’n gadarnhaol dros ein cymunedau" - gobeithio wir.