Rheilffordd de-gogledd

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Rheilffordd de-gogledd

Postiogan mabon-gwent » Sul 25 Mai 2008 12:03 pm

Clywais i rywbeth rhai misoedd yn nôl am reilffordd i gysylltu'r de â'r gogledd. Siwr y fod yn ni'n angen rhywbeth o'r math, ond wi ddim wedi clywed unrhywbeth amdani eto.

Oedd hi'n cynllun gwir, neu jyst rhai sibrwd ar y gwynt?
Rhithffurf defnyddiwr
mabon-gwent
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 111
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2008 4:00 am

Re: Rheilffordd de-gogledd

Postiogan ger4llt » Sul 25 Mai 2008 12:21 pm

Os ydi o'n wir, fyddai hi'n ddiddorol sut y bydden nhw'n 'i gyflawni, achos ma'n rhaid i gysylltu de-gogledd bydd yn rhaid ail-agor lincs fel rheilffordd Trawsfynydd-Bala..neu Bermo.. na, diom yn bosib - os fydd 'i angan o, fydd hi'n dal llawar cyflymach teithio drwy Loegr yn sicr.
cym anadl ddofn o'r golygfaeydd gwboi :D
Rhithffurf defnyddiwr
ger4llt
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 231
Ymunwyd: Sul 23 Medi 2007 2:24 pm
Lleoliad: Mewn ty bach twt yng nghefn yr ardd

Re: Rheilffordd de-gogledd

Postiogan Tegwared ap Seion » Sul 25 Mai 2008 3:00 pm

ger4llt a ddywedodd:...bydd yn rhaid ail-agor lincs fel rheilffordd Trawsfynydd-Bala


Honna sy'n rhedag drwy Tryweryn ia?! :winc:
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Re: Rheilffordd de-gogledd

Postiogan ger4llt » Sul 25 Mai 2008 4:46 pm

Tegwared ap Seion a ddywedodd:
ger4llt a ddywedodd:...bydd yn rhaid ail-agor lincs fel rheilffordd Trawsfynydd-Bala


Honna sy'n rhedag drwy Tryweryn ia?! :winc:


Cyn cau y rheilffordd Trawsfynydd-Bala, ystyriwyd gwyriad i'r rheilffordd o amgylch Llyn Celyn - roedd hi'n bosibl ond yn rhy gostus a ddim o fudd arbennig i'r ardal. Dwi'm yn hollol thic. :winc:
cym anadl ddofn o'r golygfaeydd gwboi :D
Rhithffurf defnyddiwr
ger4llt
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 231
Ymunwyd: Sul 23 Medi 2007 2:24 pm
Lleoliad: Mewn ty bach twt yng nghefn yr ardd

Re: Rheilffordd de-gogledd

Postiogan eifs » Sul 25 Mai 2008 6:15 pm

hen bryd i fod yn onest. Mae saith awr o Fangor i Abertawe mewn tren yn ormod o lawer! dim ond pedair awr ydi'r daith mewn car.
Rhithffurf defnyddiwr
eifs
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1275
Ymunwyd: Mer 16 Chw 2005 3:18 pm
Lleoliad: Llanrug/Abertawe

Re: Rheilffordd de-gogledd

Postiogan LLewMawr » Sul 25 Mai 2008 8:25 pm

ni angen ffordd ddeuol o Gogledd Cymru i lawr at y Dde hefyd, wedyn sdim rhaid mynd trwy Loegr i gyrraedd rhan arall ein wlad ni!
...pleidiol wyf i'm gwlad...
Rhithffurf defnyddiwr
LLewMawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 88
Ymunwyd: Maw 08 Ebr 2008 10:47 am
Lleoliad: Penybont, De Cymru

Re: Rheilffordd de-gogledd

Postiogan ceribethlem » Sul 25 Mai 2008 9:10 pm

Bydde ishe ail agor y lein rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth 'fyd.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Rheilffordd de-gogledd

Postiogan huwcyn1982 » Sul 25 Mai 2008 10:24 pm

Beth am 'channel tunnel' job o gaerdydd i fangor. Basa neb yn cwyno am ddinistrio cefn gwlad. A gall S4C darlledu ar sgrins yn y trenau i gadw bobol yn hapus. OK i dynnu sylw o'r tywyllwch, o leia.
Rhithffurf defnyddiwr
huwcyn1982
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 607
Ymunwyd: Sul 25 Gor 2004 11:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Rheilffordd de-gogledd

Postiogan huwwaters » Sul 25 Mai 2008 11:54 pm

eifs a ddywedodd:hen bryd i fod yn onest. Mae saith awr o Fangor i Abertawe mewn tren yn ormod o lawer! dim ond pedair awr ydi'r daith mewn car.


Cymrodd hi 9 awr i mi unwaith. Joke llwyr.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Rheilffordd de-gogledd

Postiogan Hen Rech Flin » Llun 26 Mai 2008 2:54 am

Mae bron bob "ateb" de/gogledd gan y Cynulliad, boed rheilffordd neu awyr, yn cysylltu "un lle" yn y gogledd ag "un lle" yn y de - Caergybi a Chaerdydd - fel arfer. Dydy nhw ddim yn cysylltu Porthmadog a Chaerfyrddin; Llanrwst a'r Maerdy, Wrecsam ac Aberteifi, Trawsfynydd a Hwylffodd, Nefyn ac Abergyfeni ac ati.

Yr unig wir ateb i gysylltiadau de a gogledd yw draffordd yn lle'r A470 - a thwll din i'r mewnfudwyr, honedig "gwyrdd", sy'n gwrthwynebu!
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Nesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Google [Bot] a 4 gwestai

cron