Cau ysgolion yng Ngwynedd

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Cau ysgolion yng Ngwynedd

Postiogan sian » Mer 21 Mai 2008 3:48 pm

BOT a ddywedodd:Er gwybodaeth. Tra'n galonogol gweld bod gwrando wedi bod mae yna rhyw gic, ac eco o'r cyngor blaenrol, yn y frawddeg olaf.....


Ti'n meddwl? Mae'n swnio'n agwedd ddigon teg i fi. Mae'n rhaid addasu ar gyfer y cyfnod - sut i wneud hynny yw'r cwestiwn.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Cau ysgolion yng Ngwynedd

Postiogan BOT » Mer 21 Mai 2008 10:26 pm

sian a ddywedodd:
BOT a ddywedodd:Er gwybodaeth. Tra'n galonogol gweld bod gwrando wedi bod mae yna rhyw gic, ac eco o'r cyngor blaenrol, yn y frawddeg olaf.....


Ti'n meddwl? Mae'n swnio'n agwedd ddigon teg i fi. Mae'n rhaid addasu ar gyfer y cyfnod - sut i wneud hynny yw'r cwestiwn.

Digon teg ella, y gwir ydi na fydd pob ysgol yn parhau mae'n debyg, ond mae yna rhyw deimlad gwahanol yn y frawddeg olaf sy'n rhoi yr argraff bod rhywun, neu rhywrai, neu ryw 'faction' wedi mynnu bod y cymmal yn y datganiad?
Rhithffurf defnyddiwr
BOT
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 71
Ymunwyd: Sad 05 Ebr 2008 8:18 am

Re: Cau ysgolion yng Ngwynedd

Postiogan sian » Sad 24 Mai 2008 1:30 pm

Yn ôl Golwg, mae pennaeth newydd adran addysg Llywodraeth y Cynulliad, David Hawker, yn dweud:
"Oherwydd y fformiwla gyllido, mae'n dechrau mynd yn dodgy pan mae llai na 90 o blant mewn ysgol gynradd. ... Maint da ar gyfer ysgol gynradd yw 30 ym mhob blwyddyn, chwe blwyddyn, cyfanswm o 180." Dywedodd fod y dadleuon yn "debygol o fod yn rhai economaidd" yn y pen draw ac "Yn anffodus mae'n rhaid cau ysgolion sydd yn sugno arian allan o'r sustem - dyw hynny'n dda i ddim."

Dywedodd Rhodri Morgan fod Mr Hawker yn "gaffaeliad ardderchog".

O diar!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Cau ysgolion yng Ngwynedd

Postiogan BOT » Mer 28 Mai 2008 9:22 am

Er gwybodaeth dyma lythyr Dafydd Iwan ar y mater yn y Cymro - mae maes-e yn cael mensh......
27/05/08
Llythyr Dafydd Iwan yn Y Cymro
Annwyl Olygydd,
Caniatewch imi wneud ychydig sylwadau yn dilyn canlyniadau’r etholiadau lleol, canlyniadau oedd yn arbennig o galonogol i Blaid Cymru, yn enwedig y torri trwodd mewn ardaloedd a arferai fod yn dalcen caled iawn, megis Wrecsam, Caerdydd a Thorfaen, ac ardal Bangor yma yng Ngwynedd. Roedd y canlyniad gwych yn Llanelli, ac yn wir yng ngweddill Sir Gâr, yn dangos yn glir fod y llanw lleol wedi troi o’n plaid.
Ond beth am yr hyn a ddigwyddodd i rai ohonom yma yng Ngwynedd? Mae Plaid Cymru yn dal mewn grym yn y Cyngor, ond y mae 12 sedd Llais Gwynedd yn neges na fedrwn ei hanwybyddu. Ond y broblem yw, beth yw’r neges? Ai peidio cau unrhyw ysgol byth?
Ond o’r 12 sedd, dim ond 2 sy’n cynrychioli ardaloedd lle’r oedd awgrym i gau (sef Ysgol y Clogau a Rhydyclafdy, a bellach does fawr neb yn gwrthwynebu cau Rhydyclafdy). Mae sedd Llangelynnin hefyd yn cynrychioli ardal lle’r oedd awgrym i gau er mwyn sefydlu Ysgol Fro, a Nefyn lle roedd awgrym i greu ysgol newydd yn lle’r un bresennol. Ai neges Llais Gwynedd felly yw cadw Rhydyclafdy ar agor, dim ysgol Fro i Orllewin Meirion, a dim ysgol newydd sbon i Nefyn? Fel y dywedais, mae’n anodd dirnad.
Mae rhywun yn deall wrth gwrs yr ofnau pan mae bygythiad i gau ysgol. Ond mae’r hyn a ddigwyddodd gyda Llais Gwynedd yn llawer mwy cymhleth na hyn. Yr hyn a gafwyd oedd nifer fawr o wahanol elfennau yn cyfuno i daro pwy bynnag oedd mewn grym, gan roi cyfle i bawb oedd yn gwrthwynebu Plaid Cymru a’r polisi iaith i neidio ar y wagen.
Agwedd dristaf yr holl ymgyrch, fodd bynnag, oedd y diffyg dadlau agored ar bolisi, a’r diffyg cynlluniau amgen, a’r defnydd diarbed o gelwyddau. Yn hytrach na gadael y cyhuddiad hwnnw yn benagored, mi roddaf enghreifftiau penodol:
1. Dywedwyd droeon a thro yn ystod yr ymgyrch fy mod i yn gyfranddaliwr mewn cwmni adeiladu lleol, a fy mod i yn gofalu mai nhw oedd yn ennill contractau’r Cyngor, ac imi gael fflat yn Noc Fictoria fel gwobr!! CELWYDDAU NOETH AC ENLLIBUS
2. Ar wefan Maes E, ar Ebrill 16, (8:35 a.m.) mewn cyfraniad anhygoel gan sylfaenydd “Llais Gwynedd” Aeron Jones (sydd bellach yn gynghorydd dros Lanwnda), dywedwyd ymhlith pethau eraill (a glynaf at yr orgraff wreiddiol):
“Os wyt yn poeni am seisneigio Cyngor Gwynedd, gofyn i Dafydd iwan Paham wnaeth o yrru cyfieithydd adref o gyfarfod flwyddyn diwethaf gan ddatgan y bydd am “….siarad saesneg mewn cyfarfod er mwyn i pawb ddeallt” CELWYDD NOETH
“Gofyn iddo hefyd am bolisi iaith Ysgol Bontnewydd. Roedd yn mynnu fod rhaid i’r plant siarad saesneg yn achlysurol ar faes chwarae yr Ysgol….”
CELWYDD NOETH
3. Ond tristach na’r cyfan yw’r modd y cam-ddehonglwyd y cynllun ad-drefnu ysgolion - cynllun nad oes unrhyw benderfyniad wedi ei gymryd arno ond y penderfyniad traws-bleidiol i ymgynghori ymhellach – i ddychryn pobl. Ar y sail simsan fod yr hen ddull o ffederaleiddio (dull a wrthodwyd gan Blaid Cymru) yn golygu “cau” ysgol ar brynhawn Gwener i’w “hail-agor” ar y bore Llun canlynol fel rhan o ysgol ffederal, bu ymgeiswyr Llais Gwynedd yn mynd o ddrws i ddrws yn honni bod Plaid Cymru am gau ysgolion fel Tremadog, Beddgelert a Brynaearu. CELWYDDAU NOETH ! Yn y Blaenau a Phen-y-groes, aed ymhellach a honni fod bwriad i gau’r ysgolion uwchradd lleol hefyd! CELWYDDAU NOETH!
Y gamp i’r gweddill ohonom yw codi uwchlaw y math yma o wleidyddiaeth y gwter, a dal ati i weithio’n gadarnhaol dros ein cymunedau a’n cenedl.
Yr eiddoch yn gywir,
Dafydd Iwan

OK ella fod Aeron a spin LlG yn haeddu cael cnoc ond wedi darllen y llythyr eto, mae'n amlwg nad ydi o'n dal ddim yn deall teimladau'r rhieni yn Nwyfor a Meirionydd. Mae 'na rhyw deimlad uchel ael o hyd o 'mi ydan ni'n iawn a dydi'r bobol 'ma ddim yn dallt - da chi ddim wedi meddwl cyn pleidleisio yn erbyn Y Blaid, 'da chi wedi cael eich conio'.

Mae pwynt 3 uchod yn 'classic'!
"fod yr hen ddull o ffederaleiddio (dull a wrthodwyd gan Blaid Cymru)" - Be? Gwrthod. Pryd? 'Tasa nhw wedi ei wrthod fyddant ddim yn y fath dwll.
"cynllun nad oes unrhyw benderfyniad wedi ei gymryd arno" - Dim dyna'r argraff gan y swyddogion. Beth bynnag heblaw am yr holl brotestio byddai'r cynllwyn yn 'done and dusted' fel y brwriadwyd yn wreiddiol ymhell cyn yr etholiad.
"“Cau” ysgol ar brynhawn Gwener i’w “hail-agor” ar y bore Llun canlynol fel rhan o ysgol ffederal.....am gau ysgolion fel Tremadog, Beddgelert a Brynaearu." - Celwydd noeth? - Nage, ffaith, hollol wir.
"a dal ati i weithio’n gadarnhaol dros ein cymunedau" - gobeithio wir.
Rhithffurf defnyddiwr
BOT
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 71
Ymunwyd: Sad 05 Ebr 2008 8:18 am

Re: Cau ysgolion yng Ngwynedd

Postiogan Cilan » Mer 28 Mai 2008 9:54 am

"“Cau” ysgol ar brynhawn Gwener i’w “hail-agor” ar y bore Llun canlynol fel rhan o ysgol ffederal.....am gau ysgolion fel Tremadog, Beddgelert a Brynaearu." - Celwydd noeth? - Nage, ffaith, hollol wir.


Ia, ond dydi'r ysgol ddim yn 'cau' go iawn, nagdi? Hynny ydi, mi fydd plant y pentrefydd yna'n dal i allu cerdded (neu gael eu cario gan rieni sy'n mynnu mynd a'u plant i ysgolion y tu allan i'w dalgylch - ond sgwarnog arall 'di honno!) i'r un adeilad a chael addysg yn yr union adeilad yna yng nghwmni'r union blant oedd yno cyn iddi 'gau'. Mae awgrymu fel arall wrth ganfasio ar stepan drws ychydig bach yn gamarweiniol.
Tydi?
Cilan
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 20
Ymunwyd: Sul 03 Meh 2007 4:33 pm

Re: Cau ysgolion yng Ngwynedd

Postiogan BOT » Mer 28 Mai 2008 12:45 pm

Cilan a ddywedodd:
"“Cau” ysgol ar brynhawn Gwener i’w “hail-agor” ar y bore Llun canlynol fel rhan o ysgol ffederal.....am gau ysgolion fel Tremadog, Beddgelert a Brynaearu." - Celwydd noeth? - Nage, ffaith, hollol wir.

Ia, ond dydi'r ysgol ddim yn 'cau' go iawn, nagdi? Hynny ydi, mi fydd plant y pentrefydd yna'n dal i allu cerdded (neu gael eu cario gan rieni sy'n mynnu mynd a'u plant i ysgolion y tu allan i'w dalgylch - ond sgwarnog arall 'di honno!) i'r un adeilad a chael addysg yn yr union adeilad yna yng nghwmni'r union blant oedd yno cyn iddi 'gau'. Mae awgrymu fel arall wrth ganfasio ar stepan drws ychydig bach yn gamarweiniol.
Tydi?

Mae hyn hefyd yn hen sgwarnog!
Os ydi 'yr un fath' yn golygu bod ysgol wedi colli ei henw, colli pennaeth llawn amser, colli rheolaeth cyllidol, colli rheolaeth llywodraethol ac yn ennill statws 'safle' sy'n golygu nad oes angen mynd drwy broses gau ac nad oes angen apel - ti'n gywir!
Mae awgrymu na fydd newid yr un mor gamarweiniol ar stepan drws.

Mae'n lwcus bod yna gynifer o bobl oedd yn effro i 'master plan Gwynedd' - awgrymu na fyddai yna lawer o newid, pawb yn derbyn, ond, yn sylwi pan yn rhy hwyr beth oedd yr oblygiadau.
Rhithffurf defnyddiwr
BOT
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 71
Ymunwyd: Sad 05 Ebr 2008 8:18 am

Re: Cau ysgolion yng Ngwynedd

Postiogan geryrefail » Llun 02 Meh 2008 7:33 pm

Helo

Dwi ddim yn deall beth yw'r ffws am gau ysgolion. A wnaiff rhywun esbonio i mi. Agorwyd rhain ar ddiwedd oes Victoria annwyl pan oedd ffermydd yn cyflogi teuluoedd mawrion i fwydo ysgolion a chapeli'r fro. Roedd yr ysgolion a'r capeli yn gweithredu ar egwyddor o un person yn diddanu nifer fawr o bobl. Mae'r oes wedi newid. Mae methiant y rhan fwyaf o gapeli i weithio'n gydweithredol a rhyngweithiol wedi eu lladd. Mae angen i ysglion fod yn hi-tech ac yn gyfoes. Yn arbennig iawn mae angen i blant Cymraeg eu hiaith fod â'r holl fanteision o fod yn dechnolegol. Wrth eu grwpio i ardaloedd, mae posbibilrwydd o fuddsoddiad fydd yn galluogi ein plant i fod ymysg elite Ewrop - ac yn abl i gyflawni gwaith ble bynnag y bont fel oedolion - ie gan weithio yn ein broydd Cymraeg.

Mae'r agwedd gyntefig o amddiffyn yr hen fyd mewn perygl o achosi dirywiad yn addysg y plant, fydd yn eu gwneud yn gyntefig yn y farchnad lafur rhyngwladol, ac yn y pendraw yn eu condemnio i dlodi.

Pam mae hawl gan ffyliaid cyntefig i atal ein plant rhag bod yn ddinasyddion technolegol, diwylliedig a balch?

Dwi ddim yn eich deall chi o gwbl. Sbaddu ein hiaith yw ei chadw'n gyntefig.

Hwyl
Ger
geryrefail
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 8
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2008 9:37 pm

Re: Cau ysgolion yng Ngwynedd

Postiogan mabon-gwent » Llun 02 Meh 2008 9:44 pm

geryrefail a ddywedodd:Helo

Dwi ddim yn deall beth yw'r ffws am gau ysgolion. A wnaiff rhywun esbonio i mi. Agorwyd rhain ar ddiwedd oes Victoria annwyl pan oedd ffermydd yn cyflogi teuluoedd mawrion i fwydo ysgolion a chapeli'r fro. Roedd yr ysgolion a'r capeli yn gweithredu ar egwyddor o un person yn diddanu nifer fawr o bobl. Mae'r oes wedi newid. Mae methiant y rhan fwyaf o gapeli i weithio'n gydweithredol a rhyngweithiol wedi eu lladd. Mae angen i ysglion fod yn hi-tech ac yn gyfoes. Yn arbennig iawn mae angen i blant Cymraeg eu hiaith fod â'r holl fanteision o fod yn dechnolegol. Wrth eu grwpio i ardaloedd, mae posbibilrwydd o fuddsoddiad fydd yn galluogi ein plant i fod ymysg elite Ewrop - ac yn abl i gyflawni gwaith ble bynnag y bont fel oedolion - ie gan weithio yn ein broydd Cymraeg.

Mae'r agwedd gyntefig o amddiffyn yr hen fyd mewn perygl o achosi dirywiad yn addysg y plant, fydd yn eu gwneud yn gyntefig yn y farchnad lafur rhyngwladol, ac yn y pendraw yn eu condemnio i dlodi.

Pam mae hawl gan ffyliaid cyntefig i atal ein plant rhag bod yn ddinasyddion technolegol, diwylliedig a balch?

Dwi ddim yn eich deall chi o gwbl. Sbaddu ein hiaith yw ei chadw'n gyntefig.

Hwyl
Ger


Dwi'n cytuno'n llawer ond mae'n rhai pethau yn ein gwlad ni bod ni ddim yn cwestiyno. Ar hyn o bryd, ysgolion bach gwynedd, ac pam ni'n angen meddwl o'r gwlad mewn termau hen dywysogion. Darllena "The Welsh Landscape" gan RS Thomas, dyna dy ateb.
Rhithffurf defnyddiwr
mabon-gwent
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 111
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2008 4:00 am

Re: Cau ysgolion yng Ngwynedd

Postiogan mabon-gwent » Llun 02 Meh 2008 9:45 pm

Rhithffurf defnyddiwr
mabon-gwent
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 111
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2008 4:00 am

Re: Cau ysgolion yng Ngwynedd

Postiogan BOT » Iau 05 Meh 2008 5:52 pm

Pleidlais 11-10 - os gwn i pwy bleidleisiodd, oedd pawb yno?
Dwi ddim yn meddwl ei fod yn gymaint o benderfyniad ac mae'r pennawd yn ei awgrymu fodd bynnag.

Safle'r We Y Daily Post heddiw....

Closure of dozens of schools in Gwynedd moves a step closer
Jun 5 2008 By Hywel Trewyn
PARENTS and protestors shouted "shame" after a second bid to carry out a controversial closure of dozens of schools in Gwynedd moved closer today.
Last October Gwynedd education chiefs earmarked 29 primaries for closure because they could no longer afford to keep 106 schools with fewer pupils.
And they needed £32m to spend on upgrading the buildings.
Following a three-month consultation period between January and March this year on a radical but controversial draft plan opposed by many parents and governors, a new report on the next steps to be taken as part of the reorganisation was presented to the council’s Young People’s Scrutiny Committee yesterday.
Around 30 parents and protestors – mainly from Cymdeithas yr Iaith – and Cynghrair Ysgolion a Chefnogwyr (Schools and Supporters Alliance) which represents 51 schools in Gwynedd - filled the public gallery and showed their displeasure at the result of the vote.
After an interesting debate, it was decided by 11 votes to 10 to set up a working group made up of councillors, officers and three headteachers from small, medium and large primary schools to prepare a list of schools for closure as well as any other recommendations the group would want to consider.
The group would first have to consider views and comments from the public consultation period held between January and March this year as well as a linguistic impact assessment by Bangor University Business Research Centre and a new demographic study.
It will also have to consider new arrangements "to ensure formal co-operation between schools" – a new model of federalisation which means several small schools joining together with one headteacher and a single governing body.
Lastly, the group will have to submit proposals to build new area schools where there are a number of small schools in poor repair.
The recommmendation was supported by committee chairman Dyfrig Siencyn who had a casting vote.
The working group will now be expected to come up with their recommendations for the Committee by November this year and present them to the full council meeting on December 13.
A second recommendation to shut two near-empty schools at Ysgol Rhydyclafdy, Llyn and Ysgol Croesor, near Penrhyndeudraeth, was also supported.
The final decisions on both recommendations will be taken by the full council on June 19.
Rhithffurf defnyddiwr
BOT
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 71
Ymunwyd: Sad 05 Ebr 2008 8:18 am

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai